A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Ymgofrestru ar gyfer Arholiadau Cyhoeddus

Llun myfyrwyr yn sefyll arholiad

Bydd pob ysgol Uwchradd ym Mhowys yn cynnig yr amrediad llawn o bynciau at lefel TGAU ac amrywiaeth o gyrsiau Safon Uwch.

Yn ogystal â hyn, mae nifer o ysgolion yn cynnig amrediad o gyrsiau eraill ar lefel NVQ a GNVQ.

Bydd ysgolion yn cofrestru disgyblion unigol ar gyfer arholiadau yn ôl y pynciau maent wedi'u dewis, ar ôl i athrawon, rhieni/gofalwyr, a'r disgyblion eu hunain ystyried yn ofalus beth yw eu hanghenion.   

Yn ogystal â'r cyngor y mae'r ysgolion yn ei gynnig, fe fydd swyddogion y Gwasanaeth Gyrfaoedd hefyd yn cynnig cyngor. Yr ysgol fydd yn talu costau'r cofrestriadau ar gyfer arholiadau.

RSS