A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Nod Cyngor Sir Powys yw i sicrhau fod addysg Gymraeg ar gael i’r holl blant y mae eu rhieni/gwarcheidwaid am iddynt dderbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Nid oes angen i chi allu siarad Cymraeg er mwyn i’ch plentyn gael ei addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg – yn wir, daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg o gartrefi di-Gymraeg.
Mae addysg Gymraeg ar gael ar draws Powys, ac ym mhob cyfnod o addysg, o’r cyfnod meithrin, trwy’r cynradd ac ymlaen i’r uwchradd.
Gall ddwyieithrwydd ddod â nifer o fanteision i’ch plentyn, ac os ydych yn ystyried addysg Gymraeg, mae’r cyngor wedi llunio taflen o’r enw ‘Ydych chi wedi ystyried addysg Gymraeg i’ch plentyn?’, sy’n cynnwys mwy o wybodaeth am addysg Gymraeg. Gallwch lawrlwytho copi yma.
|
|
Llyfryn - Ydych chi wedi ystyried addysg Gymraeg i'ch plentyn? |
|
|
Mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu ym mhob ysgol ar lefel cynradd.
Y ffordd orau o ddod yn hollol rhugl yn yr iaith Gymraeg yw i fynychu ysgol gynradd sy'n cynnig darpariaeth Gymraeg. Ym Mhowys, mae addysg gynradd Gymraeg ar gael mewn dau gategori o ysgolion, fel y ddifiniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru:
Mewn ysgolion neu ffrydiau Cymraeg, mae plant yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig yng Nghyfnod Allweddol 1 (hyd at 7 oed). Mae'r Gymraeg yn parhau fel y prif gyfrwng addysgu yng Nghyfnod Allweddol 2 (7 - 11 oed) a chyflwynir Saesneg fel pwnc.
Mae addysg Gymraeg ar gael i'r holl blant sy'n byw ym Mhowys, ac os nad oes ysgol neu ffrwd Gymraeg yn yr ardal lle rydych chi'n byw, bydd Cyngor Sir Powys yn darparu cludiant i'r ddarpariaeth Gymraeg agosaf o fewn Powys.
Ym mhob ysgol gynradd arall yn y Sir, mae Cymraeg yn bwnc sylfaen.
Yn y cyfnod uwchradd, addysgir y Gymraeg fel pwnc yn yr holl ysgolion, ac mewn nifer o ysgolion hi yw cyfrwng addysgu'r pynciau eraill.
Er nad oes unrhyw ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, mae darpariaeth Gymraeg uwchradd ar gael mewn ffrydiau Cymraeg mewn nifer o ysgolion uwchradd ar draws y Sir. Er bod nifer a natur y pynciau a gaiff eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio rhwng ysgolion uwchradd, nod Cyngor Sir Powys a phob ysgol uwchradd sydd â ffrwd Gymraeg yw i addysgu cymaint posibl o bynciau yn y Gymraeg a'r Saesneg ym mhob Cyfnod Allweddol, er mwyn sicrhau cyfle cyfartal a darpariaeth gyfartal ar gyfer yr holl ddisgyblion ym Mhowys.
Yn ardal Ystradgynlais, mae Cyngor Sir Powys yn darparu cludiant allan o'r sir i ddarpariaeth uwchradd Gymraeg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.
Â
| Ysgol | Rhif ffôn |
| Ysgol y Bannau, Aberhonddu | (01874) 622207 |
| Ysgol Carno | (01686) 420209 |
| Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd | (01686) 622162 |
| Ysgol Dyffryn Banw, Llangadfan | (01938) 820226 |
| Ysgol Glantwymyn | (01650) 511394 |
| Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr | (01639) 846060 |
| Ysgol Llanbrynmair | (01650) 521339 |
| Ysgol Llanerfyl | (01938) 820294 |
| Ysgol Pennant, Pen-y-bont-fawr | (01691) 860326 |
| Ysgol Pontrobert | (01938) 500394 |
| Ysgol | Rhif ffôn |
| Ysgol Fabanod Ardwyn, Y Trallwng | (01938) 552005 |
| Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt | (01982) 553600 |
| Ysgol Gynradd Dolafon, Llanwrtyd | (01591) 610326 |
| Ysgol Gynradd Dyffryn Trannon, Trefeglwys | (01686) 430644 |
| Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion | (01938) 810470 |
| Ysgol Gynradd Llanfyllin | (01691) 648207 |
| Ysgol Gynradd Llanrhaeadr-ym-Mochnant | (01691) 780352 |
| Ysgol Gynradd Machynlleth | (01654) 702386 |
| Ysgol Gynradd Maesydre, Y Trallwng | (01938) 552971 |
| Ysgol Gynradd Rhaeadr Gwy | (01597) 810288 |
| Ysgol Gynradd Rhiw Bechan, Tregynon | (01686) 650303 |
| Ysgol Gynradd Pontsenni | (01874) 636268 |
| Ysgol Gynradd Trefonnen, Llandrindod | (01597) 822190 |
Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu bod y Cyngor yn llunio Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i weithredu Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru. Mae'r ddogfen yn gosod nodau'r Cyngor ar gyfer addysg Gymraeg a'r gobaith yw y bydd y cynllun hwn yn arwain at gynnydd yn narpariaeth Addysg Gymraeg ym Mhowys a chynnydd yn nifer y dysgwyr sy'n cael eu haddysg yn y Gymraeg. Daeth y ddogfen i rym ar 1 Ebrill 2012 ond bydd Llywodraeth Cymru'n mynnu ein bod yn ei hadolygu bob blwyddyn er mwyn rhoi adroddiad ar gynnydd ac i ddiweddaru'r cynnwys fel bo angen.
Gallwch lawr lwytho copi o'r ddogfen yma:
Â
|
|
0845 602 7054
(Cymraeg)
0845 602 7030
(Saesneg)
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP)
Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth CymruÂ
www.aber.ac.uk/cymraegioedolion
www.aber.ac.uk/welshforadults
Â
Llinell Gymorth Gwaith Cartref
Rhif ffôn: 0871 230 0029
post@gwaithcartref.com
post@homeworkinwelsh.com
Â
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Rhif ffôn: 029 2087 8000
www.byig-wlb.org.uk
Â
Twf - prosiect i annog rhieni a darpar rieni i fagu eu plant
yn ddwyieithog.
Rhif ffôn: 0845 6051551
www.twfcymru.com
www.twfwales.com