A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Safonau Masnach

Croeso i dudalen hafan Safonau Masnach Powys. O’r fan hyn, gallwch ddarganfod beth rydym yn ei wneud, a sut y gallwch gael cyngor ynglyn ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â Safonau Masnach ym Mhowys.

Ein Hamcan

Ein hamcan yw:

  • hyrwyddo, cynnal a gwella amgylchedd masnachu teg a diogel, a 
  • hyrwyddo, cynnal a gwella lles anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes,

 yn Sir Powys.

Beth rydym yn ei wneud

Mae’r Gwasanaeth Safonau Masnach yn gweithredu’r cyfreithiau sy’n gyfrifol am nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu prynu, eu gwerthu, eu llogi neu eu hysbysebu yn y Sir.  Rydym yn gweithio i wneud cymunedau lleol yn lleoedd gwell a mwy diogel i bobl fyw ynddynt; ac i wneud marchnadoedd yn lleoedd cystadleuol i fusnesau fasnachu ynddynt . Yn ogystal â hyn, rydym yn gweithredu cyfreithiau Iechyd a Lles Anifeiliaid sy’n ymwneud â chadw, symud a gwerthu anifeiliaid fferm yn y Sir.

Rydym yn cynnig cyngor i ddefnyddwyr, arweiniad i fusnesau, gwybodaeth am reolau Iechyd a Lles Anifeiliaid, addysg i ddefnyddwyr a gwasanaethau calibradu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y gwasanaethau trwy glicio ar y dolenni ar ochr chwith y dudalen.

A ydych angen cyngor?

Os ydych angen cyngor i ddefnyddwyr, ewch i'n tudalen cyngor i ddefnyddwyr.

Os ydych yn fusnes sydd wedi'i leoli neu'n gweithredu ym Mhowys ewch i'n tudalen cyngor i fusnesau.

Oes angen i chi brofi beth yw eich oed?

Os ydych rhwng 18 a 25 oed ac yn byw ym Mhowys, gallwch gael cerdyn Validate trwy gysylltu â ni

Ewch i wefan Validate UK i gael rhagor o fanylion.

(Sylwch: mae cardiau eraill ar gael sy'n profi eich oed; gallwch hefyd ddefnyddio eich trwydded yrru neu eich pasbort i brofi eich oed)

[Translate to Cymraeg:] Latest News

[Translate to Cymraeg:] Latest News

Newyddion Diweddaraf

tân gwyllt

Mae cyngor am storio a gwerthu tân gwyllt ar gael ar ein tudalennau cyngor busnes.  Os ydych chi'n trefnu arddangosfa tân gwyllt, dylech edrych ar y canllawiau ar wefan yr HSE.

 

Gall y nod 'TrustMark' eich helpu i ddod o hyd i gwmniau cyfrifol ar draws ystod o wasanaethau sy'n cynnig atgyweiriadau yn y cartref, gwaith cynnal a chadw a gwelliannau.  Mae Cyngor Sir Powys yn cefnogi'r cynllun 'TrustMark' ac mae'n annog busnesau lleol i ymuno â'r cynllun.  I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y TrustMark.

 

RSS