A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae'r Grant Gwisg Ysgol ar gael i ddisgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim ac sy'n mynd i mewn i Flwyddyn 7 yn yr ysgol uwchradd neu'n sy'n mynychu ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu uned cyfeirio disgyblion gan fod yn 11 mlwydd oed ar ddechrau'r flwyddyn ysgol.
Ar gyfer blwyddyn ysgol 2013-14, mae grant o £105.00 ar gael i bob plentyn cymwys. Caiff y disgyblion cymwys eu dynodi o'r cofnodion presennol ar brydau ysgol am ddim . Unwaith y byddant wedi'u hawdurdodi ar gyfer prydau ysgol am ddim, bydd yr Awdurdod yn cadarnhau eu bod yn gymwys am grant gwisg ysgol gyda rhieni/cynhalwyr unigol:
Ar gyfer y rhieni/cynhalwyr hynny nad yw'n cael eu cynnwys o fewn y categori uchod, mae ffurflen gais a gwybodaeth bellach ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Ysgolion yn Neuadd y Sir, Llandrindod neu yn Swyddfeydd Ardal Y Drenewydd neu Aberhonddu. Fel arall, gallwch nodi eich manylion yn y blwch ar y dde i ofyn am ffurflen.
Mae ffurflenni cais am grant a gwybodaeth bellach ar gael i'w lawr lwytho isod.
Dylai rhieni/cynhalwyr disgyblion sy'n trosglwyddo i ysgolion y tu allan i Bowys wneud cais i'r awdurdod sy'n cynnal yr ysgol.
|
|
68 K |
Cyfeiriad E-bost: pupil.inclusion@powys.gov.uk
Teleffon: 01597 826715
Cyfeiriad:
Tîm Cynhwysiant Disgyblion
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
Os byddai'n well gennych dderbyn ffurflen drwy'r post, nodwch eich manylion isod a chlicio ar y botwm 'Gofyn am Ffurflen'.
Dangos/Cuddio Datganiad Preifatrwydd
Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn y cyfrifoldebau canlynol am wybodaeth bersonol a gofnodir drwy’r dudalen we hon:-
Gellir canfod gwybodaeth fanwl ar ein tudalennau gwe Rhyddid Gwybodaeth neu gan y Tîm Rheoli Gwybodaeth.