A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Cludiant Ysgol

NEWYDD!

Gellir gweld y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol presennol trwy glicio yma

*  Bydd y trefniadau cludiant presennol yn parhau yn eu lle tan fis Medi 2013.

Mae Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol / Coleg wedi cael ei gymeradwyo gan Fwrdd y Cyngor.  I gael y manylion llawn a'r dogfen bolisi, Cliciwch Yma.

 

Cludiant i'r Ysgol Gynradd

I fod yn gymwys ar gyfer cludiant i'r ysgol gynradd, rhaid i ddisgybl fyw 2 neu fwy o filltiroedd o'r ysgol agosaf, wedi'i fesur ar hyd y pellter cerdded agosaf, lle bynnag y bo hynny'n ymarferol o fewn y llwybrau cludiant sy'n bodoli. Sylwer mai dim ond i'r ysgol honno sydd fel arfer yn derbyn disgyblion o'r ardal y maent yn byw ynddi y bydd cludiant yn cael ei gynnig i ddisgyblion cymwys.

Cynigir cludiant cysylltu i ddisgyblion Ysgol Gynradd sy'n cael derbyn cludiant am ddim ac yn byw un milltir neu fwy o brif llwybr cludo i'r ysgol.

Mae cludiant ar gael yn ardaloedd priodol Powys i ddisgyblion sy'n dymuno mynychu ysgolion cynradd i gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth:

Y Tîm Derbyniadau a Chludiant,
Gwasanaeth Ysgolion,
Neuadd y Sir,
Llandrindod,
LD1 5LG. 

Gallwch lawr lwytho ffurflen gais am gludiant ysgol trwy glicio ar y ddolen yn y golofn ar y dde. 

Dylid dychwelyd ffurflenni cais sydd wedi'u llenwi ar yr un adeg â'r Ffurflen Derbyn i Ysgol Gynradd.

 

 

Cludiant i'r Ysgol Uwchradd

I fod yn gymwys am gludiant i'r ysgol uwchradd, rhaid i ddisgybl fyw 3 neu fwy o filltiroedd o'r ysgol agosaf, wedi'i fesur ar hyd y pellter cerdded agosaf, lle bynnag y bo hynny'n ymarferol o fewn y llwybrau cludiant sy'n bodoli.

Cynigir cludiant cysylltu dim ond i ddisgyblion Ysgolion Uwchradd o oed ysgol statudol sy'n byw dwy filltir neu fwy o brif llwybr cludo i'r ysgol.

 Sylwer mai dim ond i'r ysgol honno sydd fel arfer yn derbyn disgyblion o'r ardal y maent yn byw ynddi y bydd cludiant yn cael ei gynnig i ddisgyblion cymwys.

Gallwch lawr lwytho ffurflen gais am gludiant ysgol trwy glicio ar y ddolen yn y golofn ar y dde. 

Dylid dychwelyd ffurflenni cais sydd wedi'u llenwi ar yr un adeg â'r Ffurflen Derbyn i Ysgol Uwchradd.

 

 

Cyfrwng Cymraeg

Yn yr ardaloedd a ganlyn, mae cludiant ar gael i ysgolion a ddynodwyd yn rhai cyfrwng Cymraeg sy'n cynnig bron pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg:

I O
Ysgol Gyfun Ystalyfera Pontsenni, ardaloedd Cwm Tawe a Phontneddfechan o Gyngor Sir Powys
Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt ardaloedd dyrannu Llandrindod a Llanandras
Ysgol Uwchradd Llanfyllin Cegidfa
Ysgol Uwchradd Caereinion ardaloedd dyrannu Y Drenewydd a'r Trallwng (ac eithrio Cegidfa)
Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt ardaloedd dyrannu Aberhonddu, Llandrindod a Llanandras

Cludiant ôl-16

Os bydd myfyrwyr ôl-16 am deithio ar gludiant ysgol, rhaid iddynt wneud cais am gludiant bob blwyddyn academaidd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth y Tîm Derbyniadau a Chludiant.

 

Cynllun Talu am Seddi Gwag


Gall fod cyfle i ddisgyblion sy'n byw o fewn y pellter cerdded statudol i'r ysgol ac yn byw ar lwybr cludiant sy'n bodoli neu ger llwybr o'r fath ddefnyddio unrhyw seddi gwag sydd ar gael dan Gynllun Talu am Seddi Gwag os talant y ffi priodol.

Am ragor o wybodaeth Cliciwch yma

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth yr Uned Cydlynu Cludiant

Cyswllt Gwasanaeth

Tîm Derbyn a Chludiant

Cyfeiriad E-bost: admissionsandtransport@powys.gov.uk

Teleffon: 01597 826455

Cyfeiriad:
Tîm Derbyn a Chludiant
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG

Dogfennau i'w lawr lwytho:

Ffurflen gais am gludiant ysgol rhad ac am ddim a Chod Ymarfer.

Os fyddai'n well gennych gael ffurflen trwy'r post, llenwch y ffurflen isod:

Drwy yrru'r ffurflen hon 'rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen ac yn derbyn y datganiad preifatrwydd isod

Dangos/Cuddio Datganiad Preifatrwydd

Datganiad Preifatrwydd

Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn y cyfrifoldebau canlynol am wybodaeth bersonol a gofnodir drwy’r dudalen we hon:-

  1. Defnyddir yr wybodaeth am y rheswm a gytunwyd ac edrychir ar ei hôl yn ddiogel
  2. Cedwir yr wybodaeth am gyhyd ag sy’n angenrheidiol yn unig neu i gydymffurfio â gofynion statudol ac yna bydd yn cael ei dinistrio yn ddiogel.
  3. Os oes angen rhannu eich gwybodaeth gydag asiantaethau eraill bydd yr adran neu’r gwasanaeth dan sylw yn gofyn am ganiatâd penodol (wedi ei arwyddo) cyn gynted â phosibl oni bai ei bod yn ofynnol i ni yn ôl y ddeddf ddatgelu’r wybodaeth.

Gellir canfod gwybodaeth fanwl ar ein tudalennau gwe Rhyddid Gwybodaeth neu gan y Tîm Rheoli Gwybodaeth.

RSS