Os ydych chi’n ddigartref, rhaid i’r Cyngor wneud nifer o ymholiadau ynglyn â’ch sefyllfa, yn ôl y gyfraith. Mae’r broses hon yn dechrau pan fyddwch yn nodi eich bod yn ddigartref wrth wneud cais am dy.
Mae pob achos digartrefedd yn wahanol, ac mae’r ymholiadau y bydd y Cyngor yn eu gwneud yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Bydd yr adrannau canlynol o’r ffeil ffeithiau yn eich arwain trwy’r broses digartrefedd.
Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’ch amgylchiadau, e.e. rhybudd gan eich landlord i adael.
Efallai eich bod angen blaenoriaeth os:
Byddwn hefyd yn rhoi blaenoriaeth i bobl sy’n arfer byw gyda chi, neu unrhyw un yr ydym yn derbyn y byddant fel arfer yn byw gyda chi.
Os ydych yn ddigartref, yn gymwys a’ch bod ag angen blaenoriaeth, rhaid i’r Cyngor sicrhau llety dros dro i chi tra bydd yn gorffen gwneud ei ymholiadau eraill.
Ydych chi wedi dod yn ddigartref o fwriad?
Efallai y bydd y Cyngor yn dweud eich bod yn ddigartref o fwriad os yw’n teimlo eich bod yn ddigartref oherwydd eich ymddygiad afresymol eich hun.
Os ydych yn ddigartref a’ch bod ag angen blaenoriaeth, ond eich bod yn ddigartref o fwriad, dyletswydd cyfyngedig sydd gennym i ddarparu llety dros dro ar eich cyfer.
Oes gennych chi gysylltiad lleol? I gael cysylltiad lleol, rhaid i chi fod;
Os nad oes gennych gysylltiad lleol ag unrhyw le, rhaid i’r Cyngor yr ydych wedi gwneud cais iddo gymryd cyfrifoldeb.
Os oes gennych gysylltiad lleol ag ardal Cyngor arall (a dim cysylltiad lleol â Phowys), efallai y bydd Powys yn cyfeirio eich cais am ddigartrefedd at y Cyngor arall.
Os ydych yn ddigartref ac yn gymwys, byddwn yn trefnu llety dros dro i chi, naill ai tra bydd y Cyngor yn gwneud ei ymholiadau neu’n dilyn ei benderfyniad.
Beth yw Llety Dros Dro?
| Llety | Defnydd |
| Gwely a Brecwast | Defnyddir yr opsiwn yma dim ond pan nad oes unrhyw lety addas arall ar gael. |
| Hosteli | Mae gan y Cyngor ei hosteli ei hunan sy'n addas ar gyfer pob math o bobl ddigartref. Mae'r rhan fwyaf o hosteli wedi eu lleoli o fewn prif ardaloedd poblogaeth Powys. |
| Llochesau | Mae'r Cyngor yn cydweithio'n agos gyda Chanolfannau Argyfwng Teuluol Sir Drefaldwyn a Chymorth i Fenywod, ac mae gennym gytundebau/trefniadau gyda mudiadau eraill ym Mhowys. |
Mae nifer o asiantaethau yn cydweithio i wneud yn siwr fod pob llety dros dro o safon resymol.
Mae Shelter Cymru, Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwarchod y Cyhoedd, yr Awdurdod Iechyd a’r Gwasanaeth Addysg ymhlith yr asiantaethau sy’n cydweithio gyda’r gwasanaeth digartrefedd er mwyn sicrhau bod teuluoedd ac unigolion yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt, waeth pa mor fyr y byddant yn aros.
Am ba mor hir fydd llety’n cael ei ddarparu?
Os ydych yn parhau i fod yn gymwys, mae’n ddyletswydd arnom i barhau i gynnig llety dros dro hyd nes y byddwch yn sicrhau llety parhaol. Er enghraifft, pan fyddwch yn derbyn cynnig am denantiaeth barhaol addas gan y Cyngor neu’r Gymdeithas Dai.
Yn ogystal â llety dros dro, mae’n bosibl y byddwn yn rhoi blaenoriaeth i unigolyn/teulu ar gynllun dyrannu’r Cyngor. Rhoddir blaenoriaeth drwy wobrwyo pwyntiau yn unol â’r penderfyniad a wnaed ar fod yn ddigartref. Cyfeiriwch at Gynllun Dyrannu’r Cyngor am fanylion llawn.
Efallai y bydd cynlluniau dyrannu Cymdeithasau Tai hefyd yn rhoi blaenoriaeth i unigolion/teuluoedd digartref. Fe all y Cyngor anfon eich manylion at y landlordiaid hyn os byddwch wedi nodi diddordeb ar eich ffurflen gais. Efallai yr hoffech gofrestru gyda hwy ar wahân hefyd.
Os ydych o’r farn fod y cynnig a gawsoch yn anaddas, mae gennych hawl i ofyn am arolwg (gweler yr adran nesaf)
Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig ynglyn â’r math o lety, neu’r lleoliad, mae’n hanfodol eich bod yn nodi hyn ar eich ffurflen gais ac yn trafod y mater â’r Swyddog Digartrefedd. Bydd hyn yn helpu sicrhau na fydd unrhyw gynigion anaddas yn cael eu cynnig i chi.
Rhaid i bob cynnig o lety dros dro neu lety parhaol fod yn “addas”. Ni fyddwch yn gallu gofyn am adolygiad mewn perthynas â llety dros dro sy’n cael ei ddarparu tra bod y cyngor yn gorffen ymholiadau, hyd nes y bydd penderfyniad wedi’i wneud, a’r dyletswydd wedi’i dderbyn.
Mae gennych hawl i ofyn am adolygiad o fewn 21 niwrnod o dderbyn y cynnig / hysbysiad o benderfyniad.
Os hoffech ddefnyddio’ch hawl am arolwg, gallwch:
1. Dderbyn y cynnig a gofyn am arolwg o’i addasrwydd.
Ni fydd symud i mewn yn effeithio ar y dull adolygu. Os ydych yn llwyddiannus, bydd llety arall yn cael ei gynnig i chi, (dyma’r dull a argymhellir gan y Cyngor); neu
2. Gwrthod y cynnig a gofyn am adolygiad o’i addasrwydd.
Os byddwch yn gwrthod y cynnig, bydd y llety’n cael ei gynnig i rywun arall, ac ni fydd cyfle i chi ei dderbyn eto. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd dyletswydd y Cyngor tuag atoch yn parhau, a byddwch yn cael cynnig arall.
Bydd gofyn i chi nodi’ch rhesymau dros ofyn am arolwg yn ysgrifenedig, a byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i apelio.
Byddwn yn gwneud penderfyniad mor gyflym ag y gallwn (er bod gennym 8 wythnos o’r dyddiad y gwnaethoch ofyn am arolwg).
Os bydd yr adolygiad yn mynd yn eich erbyn:
1. Llety dros dro:
Os oeddech wedi derbyn y cynnig ac wedi symud i mewn, ni fyddwn yn cynnig unrhyw beth arall i chi, a bydd disgwyl i chi aros yn y llety hwnnw.
Os wnaethoch wrthod y cynnig ac nid oeddech wedi symud i mewn, ni fydd y Cyngor yn gwneud cynnig arall, a bydd rhaid i chi wneud eich trefniadau eich hun. Gall eich cais am lety barhau o fewn y cynllun dyrannu, ond efallai y byddwch yn colli eich pwyntiau digartrefedd
2. Llety parhaol:
Os oeddech wedi derbyn y cynnig llety parhaol yn y gorffennol, gallwch ddewis aros yno. Ni fydd gan y Cyngor ddyletswydd pellach tuag atoch fel rhywun digartref. Fodd bynnag, gallwch ailgeisio am lety arall drwy’r cynllun dyrannu.
Os bydd yr adolygiad yn mynd yn eich erbyn, ac nad oeddech wedi derbyn y cynnig, ni fydd gan y Cyngor ddyletswydd pellach tuag atoch fel person digartref. Bydd unrhyw gynnig o lety dros dro yn cael ei dynnu’n ôl. Gall eich cais am lety barhau o fewn y cynllun dyrannu, ond efallai y byddwch yn colli eich pwyntiau digartrefedd.
Os dywedir wrthych bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
yna bydd gennych hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad hwnnw.
1. Rhaid i chi ofyn am adolygiad o benderfyniad o fewn 21 niwrnod o’r dyddiad y derbynioch y cynnig uchod yn ysgrifenedig.
2. Bydd y Cyngor yn ystyried unrhyw wybodaeth a gyflwynir gennych neu ar eich rhan
3. Os byddwch yn methu â chyflwyno unrhyw wybodaeth fanwl bellach, bydd y penderfyniad yn cael ei adolygu ar sail yr holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael.
4. Fel arfer, rhaid i’r Cyngor wneud penderfyniad o fewn 8 wythnos o ddyddiad eich cais.
Bydd gofyn i chi nodi’ch rhesymau dros ofyn am y cais yn glir ac yn ysgrifenedig, a byddwn yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch apelio.