Children & Young Peoples Partnership - Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc

Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys » Eich Hawliau » Polisi » 7 Nod Craidd

7 Nod Craidd


Ym mis Tachwedd 2000 cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Plant a Phobl Ifanc: Fframwaith ar gyfer Partneriaeth, sy'n nodi ymrwymiad i'r UNCRC a sut y dylai LlCC weithredu wrth ymdrin â phlant a phobl ifanc.

Yn 2003 cafwyd dilyniant i'r papur hwn gyda Plant a Phobl Ifanc: Hawliau i Weithredu lle'r oedd LlCC yn ategu ei ymrwymiad i'r UNCRC trwy sefydlu saith nod craidd, sydd fel a ganlyn

Mae gan holl Blant a Phobl Ifanc Cymru (0-25 oed) hawl sylfaenol i:

Gael dechrau'n deg mewn bywyd

Gael ystod gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysgu

Mwynhau'r iechyd gorau posibl a pheidio cael eu cam-drin, eu herlyd na'u hecsbloetio

Cael gweithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol;

Cael eu clywed, eu trin â pharch, a chael cydnabyddiaeth i'w hil a'u hunaniaeth ddiwylliannol;

Cael cartref diogel a chymuned sy'n cefnogi lles corfforol ac emosiynol

Peidio bod dan anfantais oherwydd tlodi.