Children & Young Peoples Partnership - Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc

Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys » Eich Hawliau » Polisi » Ymestyn Hawliau

Ymestyn Hawliau


Gorolwg:

Prif amcanion Ymestyn Hawliau yw uno ac atgyfnerthu polisiau ac arferion i bobl ifanc Cymru.  Gwneir hyn mewn pum ffordd:

  1. Ffocws positif ar lwyddiant, a'r hyn sydd gan bobl ifanc i'w gyfrannu.
  2. Rhagor o ffocws ar adeiladu gallu'r person ifanc i ddod yn annibynnol, i wneud dewisiadau a chymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
  3. Gwella ansawdd ac ymatebolrwydd y gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc.
  4. Cynnwys pobl ifanc, sy'n allweddol os yw'r uchod i lwyddo.
  5. Gwaith cydlynu a phartneriaeth mwy effeithiol ar lefel leol.

Nid prosiect tymor byr yw hwn, ond polisi strategol cynhwysfawr dros dymor hir.  Y bwriad yw newid sut mae'r rhai sy'n darparu gwasanaethau yn meddwl am eu gwaith a hyrwyddo dulliau hwylus o gyflwyno gwasanaethau i bobl ifanc.  Mae'n ystyried y nodweddion allweddol canlynol:

  • Targedu pob person ifanc rhwng 11 - 25 oed sy'n byw yng Nghymru.
  • Gwneud yn fawr o'r cyfleoedd a'r dewisiadau i bobl ifanc er mwyn hyrwyddo'r cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn eu cyfoethogi.  Nid gosod y safonau isaf yw Ymestyn Hawliau, ond am ddyheadau a llwyddiant i bobl ifanc.
  • Mae'n gynhwysfawr yn yr ystyr ei fod yn cynnwys yr holl asiantaethau a mudiadau lleol a chenedlaethol, lle mae eu gwaith yn cael effaith ar y cyfleoedd a'r dewisiadau sydd ar gael i bobl ifanc Cymru.
  • Mae'n gynhwysfawr yn yr ystyr ei fod yn ymwneud â phob agwedd ar fywydau pobl ifanc.
  • Mae'n strategaeth tymor hir sy'n golygu newidiadau mewn strwythur, diwylliant ac agweddau yn y modd y cyflwynir gwasanaethau a chymorth.
  • Er bod canlyniadau tymor byr yn bwysig, gwelir y manteision go iawn trwy fuddsoddi yn y dyfodol, a bydd yn cymryd amser i hyn ddod i'r amlwg.
  • Mae casglu gwybodaeth gyfredol am effaith Ymestyn Hawliau yn bwysig er mwyn asesu ei effeithiolrwydd, a hefyd i sbarduno gweithredu lleol yn y meysydd sydd â'r angen fwyaf.

Ni allwn fychanu pwysigrwydd Ymestyn Hawliau, sy'n strategaeth flaenllaw i Gymru.  Trwy ei rhoi ar waith yn effeithiol, nid yn unig y bydd yn gwella'r cyfleoedd a'r dewisiadau i'r holl bobl ifanc, ond bydd hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at allu economaidd a chymdeithasol Cymru, gan gynyddu cyfalaf cymdeithasol y genedl i'r dyfodol.