A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y

Rhaglenni Astudio
Mae rhaglenni astudio yn nodi beth y dylid ei ddysgu i ddisgyblion o ran hanes ym mhob cyfnod allweddol, ac maent yn sylfaen ar gyfer llunio cynlluniau gwaith.
Yng Nghyfnod Allweddol 1, 2 a 3, rhennir y rhaglen astudio yn bum rhan sef:
Â
Mae'r rhaglenni astudio ar gyfer pob cyfnod allweddol yn dynodi'r dilyniant a ddisgwylir yn y sgiliau a dealltwriaeth yma, a'r cyd-destun hanesyddol y disgwylir i'r disgyblion ddatblygu'r sgiliau hyn ynddynt.
Yng Nghyfnod Allweddol 1, mae'r ffocws ar hanes personol a lleol, ond rhaid i ddisgyblion hefyd astudio pobl a digwyddiadau o hanes eu hardaloedd eu hunain, a hanes Cymru, Prydain a gwledydd eraill.
Yng Nghyfnod Allweddol 2, mae'r ffocws ar ffyrdd pobl o fyw mewn gwahanol gyfnodau yn ystod y gorffennol, ac ar y profiadau amrywiol o fewn cyfnod hanesyddol, ond rhaid i ddisgyblion hefyd astudio pwnc hanesyddol mewn cyd-destun lleol, a newid a datblygiad mewn o leiaf un agwedd o fywyd yn ystod yr holl gyfnodau a gaiff eu hastudio.
Yng Nghyfnod Allweddol 3, dylid dysgu'r disgyblion am brif nodweddion gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cyfnodau a ddewiswyd o fewn hanes Cymru a Phrydain, ac i osod y rhain yn eu cyd-destun trwy astudio agweddau ar hanes lleol, hanes Ewrop a hanes y byd, ynghyd ag astudio un thema hanesyddol yn fanwl.
Gellir dod o hyd i fanylion y gofynion yn nhrefn y pynciau ar gyfer Hanes yn y ddogfen 'Hanes yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru. Gellir lawrlwytho'r ddogfen hon oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru trwy glicio ar y ddolen.
Â
Dolenni Hanes Lleol Powys
Â
Hanes - Dolenni Defnyddiol
 Tour of Wales - Gallery