

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r:
Swyddog Recriwtio/Cymorth Gofal Plant
ar 01597 825236
Fforwm Plant a Theuluoedd Powys
Ty Sefton
Stryd Middleton
Llandrindod
Powys
Ar hyn o bryd, mae Gweithredu dros Blant yn hysbysebu am Weithwyr Cymorth yn y Gymuned sy'n gweithio gyda theuluoedd ac ymarferwyr i gefnogi plant ag anableddau i ddatblygu eu potensial llawn, i gymryd rhan mewn gweithgareddau lleol a chefnogi'r datblygiad o sgiliau personol, galwedigaethol a bywyd.
Cliciwch yma i weld y swydd ddisgrifiad llawn ac i ymgeisio
Mecanwaith Llywodraeth Cymru yw Cymorth Cynnar Cymru i wella gwasanaethau i blant anabl a phlant sydd ag anghenion ychwanegol a'u teuluoedd.
Mae Cymorth Cynnar wedi datblygu ystod o adnoddau a hyfforddiant sy'n anelu tuag at ddod â darparwyr gwasanaeth ynghyd i weithio mewn partneriaeth gyda'r teulu i sicrhau fod gofynion y plentyn a'r teulu yn cael eu diwallu. Y nod yw rhoi rhieni yng nghanol y broses gynllunio. Dechreuodd y gwaith o ddatblygu adnoddau a hyfforddiant Cymorth Cynnar yn Lloegr ac maent wedi cael eu diweddaru a'u gwella lle bo angen a'u haddasu i gyd-fynd â'r cyd-destun Cymreig.
Am ragor o wybodaeth ar hyfforddiant, edrychwch ar eu tudalennau hyfforddi neu eu tudalen calendr ar gyfer digwyddiadau hyfforddi.
Mae'n ofynnol i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Powys diweddaru'r data rydym yn ei gynnal ar Warchodwyr Plant bob dri mis ac ar bob ddarparwr bob chwe mis. Er y byddwn yn anfon llythyr atoch ynghyd â ffurflen wag efallai byddwch angen rhagor o gopiau os oes gennych fwy nac un ddarpariaeth o fewn eich Sefydliad Cofrestredig. Gallwch ddod o hyd i gopi PDF o'r ffurflen isod.
|
|
30 K |
_____________________
______________________
|