
Mae dewis y math iawn o ofal plant yn benderfyniad pwysig a phersonol iawn; mae'r math orau o ofal plant i chi yn dibynnu ar sefyllfa'r teulu.
Y dewisiadau mwyaf o ran gofal plant yw gwarchodwyr plant, meithrinfeydd dydd a chlybiau gofal plant tu allan i'r ysgol. Yn ogystal, mae grwpiau chwarae a chylchoedd meithrin yn cynnig gofal a gweithgareddau i blant cyn oed ysgol, yn aml am ddim ond rhan o'r dydd.
Bydd unrhyw un sy'n darparu gwasanaeth gofalu am blant o dan 8 oed am gyfnod o ddwy awr neu ragor yn gorfod cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Gallwch edrych ar wefan yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru am wybodaeth bellach ar y safonau lleiaf. Mae'n bosibl y bydd rhai lleoliadau wedi ennill cymhwyster sicrhau ansawdd. Gallwch holi'r darparwyr unigol am hyn.

Gofal sydd heb ei gofrestru
Fel y mae’r enw’n ei awgrymu, nid oes unrhyw reolau ynglŷn â chofrestru ac archwilio’r darparwyr hyn. Mae’n bosibl bod yna resymau penodol pam nad yw’r darpariaethau hyn yn cael eu cofrestru a’u harchwilio e.e. nid yw grwpiau sy’n cwrdd am lai na 2 awr y dydd yn gorfod cofrestru.
Mae'r rheiny nad ydynt yn gorfod cofrestru yn cynnwys:
- Gwasanaethau a ddefnyddir gan rieni a gofalwyr gyda’u plant er mwyn iddynt fwynhau gweithgaredd neu gyfle gyda’i gilydd oherwydd bod y rhiant neu ofalwr yn llwyr gyfrifol am eu plant bob amser.
- Gwarchodwyr plant a nanis
- Sesiynau nad ydynt yn ddigon hir i fynnu cofrestru’r lleoliad.
Darpariaeth Gofrestredig
Bydd darparwyr cofrestredig yn derbyn tystysgrif cofrestru gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW), a bydd rhaid iddynt ddangos y dystysgrif honno. Bydd y dystysgrif yn nodi faint o blant y gellir gofalu amdanynt, oedrannau’r plant a nifer y staff sydd raid eu cael. Rhaid i o leiaf hanner y staff feddu ar gymhwyster gofal plant cydnabyddedig.
Yng Nghymru, rhaid i oedolion sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal dydd gytuno i’r awdurdod cofrestru gynnal gwiriadau arnynt, yn cynnwys gwiriadau gan yr heddlu. Rhaid archwilio adeiladau i sicrhau eu bod yn ddiogel, a bydd polisïau ac arferion yn cael eu harchwilio i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar y plant a’u bod yn berthnasol. Rhaid i ddarparwyr cofrestredig gytuno i weithio i set gyffredin o bolisïau sy’n ymdrin â holl agweddau pwysig eu gwaith â’r plant. Holwch i gael gweld eu polisïau.
Trwy gofrestru, mae hyn yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei archwilio o leiaf unwaith y flwyddyn er mwyn sicrhau bod y safonau’n cael eu cadw. Mae’r adroddiad archwilio yn ddogfen gyhoeddus, a bydd eich darparwr yn hapus i ddangos copi i chi, neu gallwch ofyn am gopi o’r adroddiad gan yr Arolygiaeth.
Am ragor o wybodaeth: