A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Marchnadoedd Cynnyrch

Am Farchnadoedd ym Mhowys

Cyngor Sir Powys sydd â'r Hawliau Marchnad ar gyfer Marchnadoedd Siartredig a Marchnadoedd Rhagnodol yn y Sir.

Mae'r Awdurdod ar hyn o bryd yn gyfrifol yn uniongyrchol am 7 marchnad gynnyrch yn Y Drenewydd, Machynlleth, Llanfyllin, Llanidloes, Tref-y-clawdd, Llanfair-ym-Muallt ac Aberhonddu. Mae 4 marchnad gynnyrch arall yn Y Trallwng, Trefaldwyn, Crughywel a'r Gelli Gandryll yn cael eu gweithredu gan eraill trwy gytundebau asiantaeth neu drwydded gyda'r Awdurdod.

Gall marchnadoedd preifat weithredu mewn mannau eraill yn y Sir, e.e. Llandrindod.

Mae dyddiau gweithredu marchnadoedd sy'n cael eu rheoli gan yr Awdurdod i'w gweld yn y 'Rheoliadau Neuaddau Marchnadoedd Cynnyrch Dan Do' ac yn y 'Rheoliadau Marchnadoedd Cynnyrch Awyr Agored'. Mae'r tollau sydd i'w codi ym mhob marchnad i'w gweld yn y 'Rhaglen Cysoni Tollau 3 blynedd a weithredwyd ar 1 Mai 2006.

Sut i wneud Cais

Dylid cyfeirio ymholiadau cyffredinol am y safleoedd sydd ar gael at Swyddog Mwynderau Ardal y Gogledd (marchnadoedd Y Drenewydd, Machynlleth, Llanidloes a Llanfyllin) neu Swyddog Mwynderau Ardal y De (marchnadoedd Tref-y-clawdd, Llanfair-ym-Muallt ac Aberhonddu), gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dde.

Defnyddiwch y dolenni ar ochr dde'r dudalen i wneud cais neu i gyfnewid gwybodaeth.

Gallwch hefyd gael y wybodaeth neu wneud cais am drwydded trwy ddefnyddio'r ddolen isod i ddweud beth yw eich anghenion, a byddwn yn cysylltu'n ôl â chi.

Beth os na fyddaf yn clywed gan Gyngor Sir Powys o fewn y cyfnod a nodir?

Gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi cael ei ganiatau os nad ydych wedi clywed gan Gyngor Sir Powys o fewn 14 diwrnod calendr o gyflwyno eich cais.

Ffioedd

Edrychwch ar y dogfennau isod i weld y ffioedd a'r tollau.

Rheoliadau Neuaddau Marchnadoedd Cynnyrch Dan Do

74 K

Rheoliadau Marchnadoedd Cynnyrch Awyr Agored

54 K

Marchnadoedd Cynnyrch Awyr Agored a Dan Do - Rhaglen Harmoneiddio Costau 3 Blynedd

22 K

A oes proses apelio?

Cysylltwch â Chyngor Sir Powys yn y lle cyntaf.

Cwynion Defnyddwyr

Os cyfyd cwyn, byddem bob amser yn awgrymu eich bod yn y lle cyntaf yn cysylltu â'r masnachwr eich hun - ar ffurf llythyr os oes modd (gyda thystiolaeth o ddosbarthu'r llythyr). Os nad yw hynny wedi gweithio, ac os ydych yn byw yn y DG, gall Cyswllt Defnyddwyr gynnig cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DG, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DG.

Cyswllt Gwasanaeth

Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol

Cyfeiriad E-bost: highways.and.waste@powys.gov.uk

Teleffon: 0845 602 7035

Ffacs: 01597 827276

Cyfeiriad:
Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA

Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma

Ffurflen Gais

Mae'r ddolen isod yn mynd â chi i wefan arall sy'n prosesu'r ceisiadau hyn ar ran Cyngor Sir Powys.

Gwneud cais am drwydded stondin farchnad

 

Deddfwriaeth

Deddf Cymalau Marchnadoedd a Ffeiriau 1847

Logo Cyfarwyddyd Gwasanaethau'r Undeb Ewropeaidd
RSS