A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae'r amgueddfa'n llwyr dderbyn ei chyfrifoldebau o dan Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch. Mae ganddi Bolisi Iechyd a Diogelwch ynghyd ag asesiadau risg ysgrifenedig a gynhaliwyd mewn perthynas â'i chyfrifoldebau cyfreithiol ar gyfer pobl ag eithrio rhai a gyflogwyd (h.y. ymwelwyr) sy'n ymweld â'r safle ac yn defnyddio'r cyfleusterau.
Gallwch fod yn hyderus y byddwn yn cymryd pob gofal i sicrhau eich iechyd a'ch diogelwch tra byddwch ar y safle. Mae'r amgueddfa wedi gweithio'n glos â'r Cyngor Lleol a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynglyn â materion iechyd a diogelwch, ac mae am sicrhau y bydd eich ymweliad yn brofiad llawn hwyl, mwynhad a dysg.
Mae gan yr amgueddfa bolisi recriwtio, hyfforddi ac aesu staff sy'n sicrhau fod ganddynt gyfrifoldeb dros ddiogelwch a lles ymwelwyr / cyfranogwyr, a'u bod yn gymwys i ymgymryd â'u dyletswyddau.
| Profiad | Mae'r amgueddfa ar ei ffurf bresennol wedi bod ar agor i'r cyhoedd ers 1990 |
| Manylion y Lleoliad | Mae'r amgueddfa yn cynnig cyfle i ymwelwyr ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau hanesyddol a chroesgwricwlaidd |
| Niferoedd Ymwelwyr | Mae'r amgueddfa'n denu tua 1000 o ymwelwyr a nifer o ymweliadau gan ysgolion bob blwyddyn |
| Addasrwydd | Ystyrir fod yr amgueddfa a'i hatyniadau yn addas ar gyfer disgyblion o bob oed |
| Manylion cyswllt | Mae'r amgueddfa'n edrych ymlaen at eich croesawu. Serch hynny, os ydych am drafod agweddau o'ch ymweliad neu os hoffech drefnu rhagymweliad, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'r Swyddogion Addysg a Mynediad Ffôn: 01938 554656. Mae rhestr o ysgolion sydd wedi ymweld â ni ar gael ar gais. Os hoffech drefnu ymweliad, cysylltwch â'r Swyddogion Addysg a Mynediad . Yn dilyn yr ymweliad, os bydd gennych unrhyw bryderon, neu os cafwyd problemau gyda rheolaeth y lleoliad neu ag iechyd a diogelwch aelodau o'ch grwp, byddai'r amgueddfa'n falch o gael eu trafod gyda chi. Ffôn: 01938 554656 neu e-bost: powysland@powys.gov.uk |
| Baw Anifeiliaid mewn mannau cyhoeddus | Caiff cwn fynd ar y safle, ond rhaid iddynt fod ar dennyn. Rhaid i berchnogion godi unrhyw faw cwn a'i roi yn ddiogel yn y biniau priodol. Ystyriwch anghenion defnyddwyr eraill!Mae croeso mawr i gwn cynorthwyo! |
| Hanes Troseddol / Gweithredu Sifil | Caiff pob mesur rhesymol ei gymryd i sirhau fod staff yr amgueddfa, sy'n cael eu gadael ar eu pennau eu hunain gyda disgyblion neu sydd mewn sefyllfa o gyswllt sylweddol â phlant wedi cael archwiliadau hanes troseddol a gweithredu sifil (difrod ac esgeulustod) a bod datganiadau'r swyddfa cofnodion troseddol yn bodoli ar gyfer y staff hynny. |
| Offer / Offer Chwarae | Caiff yr holl offer ei archwilio'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y diben, a bydd canlyniadau'r archwiliadau'n cael eu cofnodi mewn log offer. Rhaid i staff ysgolion oruchwylio'r plant bob amser. |
| Gwacau'r adeilad mewn Argyfwng | Mae trefn wacau'r adeilad mewn argyfwng yn bodoli. Mae holl staff yr amgueddfa'n gyfarwydd â hwy ac yn eu hymarfer yn rheolaidd. Mae Arwyddion Gwacau wedi'u codi ar y safle yn y mannau canlynol: Llawr Gwaelod, Llawr Cyntaf, yr Ail a'r Trydydd Llawr O glywed y larwm, sef cloch yn canu'n barhaol, rhaid i'r holl ymwelwyr fynd i'r Man Ymgynnull arbennig, yn y maes parcio ar Lanfa'r Gamlas. |
| Cyfleusterau i ymwelwyr sydd ag Anghenion Arbennig | Mae'r amgueddfa'n ceisio diwallu gofynion ymwelwyr sydd ag anghenion arbennig. Rhaid i ysgolion ac arweinwyr grwpiau sicrhau fod trefniadau addas yn bodoli fel bod goruchwyliaeth a chymorth addas ar gael i ddisgyblion sydd ag anghenion arbennig. Anabledd Corfforol - Mae mynediad i gadeiriau olwyn i'r holl safle ac mae lifft ar gael i'r orielau. Gofynnir i ofalwyr am ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ddarparu trefniadau gadael yr adeilad os bydd tân, pan na fydd yn bosibl defnyddio'r lifft. Nam ar y Golwg - mae croeso i ymwelwyr sydd â nam ar y golwg gyffwrdd â'r arteffactau, a gellir trefnu i gasgliad arbennig i'w cyffwrdd fod ar gael trwy drefnu o flaen llaw. Mae’r amgueddfa’n ymwybodol y bydd angen i ysgolion gael gwybod am ddarpariaeth benodol ar gyfer gofynion asesiadau risg manylach ar gyfer rhai disgyblion sydd ag anghenion arbennig. Dan amgylchiadau o’r fath, dylai ysgolion gysylltu â’r amgueddfa. |
| Cymorth Cyntaf | Mae Cymorth Cyntaf ar gael wrth y dderbynfa, neu gofynnwch i aelod staff |
| Yswiriant (Cyfrifoldeb Cyhoeddus) | Mae gan yr amgueddfa yswiriant cyfrifoldeb cyhoeddus neu drydydd parti neu ddarpariaeth digonol arall hyd at o leiaf £5 miliwn. Gellir dangos copi o'r dystysgrif yswiriant i rai sy'n ymweld cyn eu hymweliad, er gwybodaeth |
| Uchafwm Maint Grwpiau | Gall yr amgueddfa gymryd grwpiau o hyd at 40. |
| Anghenion Meddygol | Dylai'r ysgol neu arweinydd y grwp gysylltu â'r amgueddfa os ydynt yn gwybod fod gan ddisgybl gyflwr / angen meddygol penodol neu ddifrifol. Bydd angen trafodaeth i ystyried trefniadau mewn argyfwng. |
| Ymddygiad Ymwelwyr (dim mynediad i ardaloedd sydd ar gyfer staff y safle yn unig) | Rhaid i ymwelwyr beidio · Mynd i ardaloedd sydd ddim ar agor i'r cyhoedd · Ymddwyn yn afreolus · Cyffwrdd unrhyw arteffactau · Anwybyddu cyfarwyddiadau'r swyddogion addysg Ni ddylai arweinwyr grwpiau adael plant heb eu goruchwylio. |
| Archwilio Safle'r Amgueddfa | Mae staff yr amgueddfa yn cynnal archwiliadau rheolaidd o'r cyfleusterau ac mae trefn adrodd fewnol yn bodoli ar gyfer unrhyw beryglon i ddiogelwch. Caiff yr Archwiliadau Safle eu cofnodi mewn log. |
| Cyfleusterau Lles | Mae toiled i bobl anabl ar gael ac yn cael eu goruchwylio / glanhau gan staff yr amgueddfa |
| Cyrsiau Dwr a Phyllau | Mae camlas wrth ymyl yr amgueddfa, mae'r mesurau rheoli sy'n bodoli mewn perthynas â pheryglon o ganlyniad i gyrsiau dwr fel a ganlyn: · Mae polyn ymestyn ar gael yn y lleoliad · Mae barier wrth ymyl y gamlas yn yr ardal wrth ymyl y lleoliad.Noder nad oes barier mewn ardaloedd eraill, a bydd angen cymryd gofal aruthrol. |
| Dyddiad | 25 Awst 2005 |
| Enw | Eva Bredsdorff - Curadur |
| Rhif Ffôn | 01938 554656 |
| Cyfeiriad e-bost | powysland@powys.gov.uk |