A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Gwastraff o'r Cartref

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Powys yn rhedeg dau fath o gasgliadau gwastraff:

Cynwysyddion ailgylchu newydd

Casgliadau gwastraff ac ailgylchu newydd

Os yw eich ardal yn elwa o'r cynllun newydd gyda'r blychau sydd i'w gweld yn y llun, cliciwch yma i gael y wybodaeth am y casgliadau yn eich tref neu bentref chi.

Sachau ailgylchu

Casgliadau sachau sbwriel ac ailgylchu

Bydd y trigolion sydd heb eu heffeithio gan y newidiadau ac sy'n rhoi eu gwastraff allan mewn sachau yn gallu parhau i ailgylchu o'u cartrefi.  Bydd aelwydydd yn derbyn sachau ailgylchu i roi eu deunyddiau i'w hailgylchu ynddynt a gofynnir iddynt eu rhoi allan i'w casglu bob wythnos ar yr un diwrnod â'r diwrnod casglu sbwriel arferol.

Mae dau liw - sachau ag ysgrifen goch, a sachau ag ysgrifen ddu.      

Mae'r sach â'r ysgrifen goch ar gyfer: 

  • Poteli plastig - wedi'u golchi a'u gwasgu
  • Tuniau a chaniau - wedi'u rinsio a'u gwasgu
  • Bagiau plastig a haenen lynu - rhowch y cyfan mewn un bag

Mae'r sach â'r ysgrifen ddu ar gyfer:

  • Cardfwrdd ysgafn wedi'i gwasgu
  • Papurau newydd a llyfrau ffôn
  • Cylchgronau a llythyrau sothach - tynnwch yr holl orchuddion plastig
  • Dillad a thecstilau - sych a glân
  • Bagiau llaw, beltiau ac esgidiau wedi'u clymu fesul pâr 

Os mai'r cynllun hwn sydd efo chi, ni fyddwn yn derbyn:

  • Gwydr (oni bai eich bod wedi derbyn basged gwydr)
  • Gwastraff bwyd
  • Cynwysyddion plastig
  • Hambyrddau plastig

Cyswllt Gwasanaeth

Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol

Cyfeiriad E-bost: highways.and.waste@powys.gov.uk

Teleffon: 0845 602 7035

Ffacs: 01597 827276

Cyfeiriad:
Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA

Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma

Rhoi gwybod am gasgliad sydd heb ei wneud

Llenwch y ffurflen hon i roi gwybod am gasgliad sydd heb ei wneud

Casgliadau â chymorth

Gwybodaeth am gasgliadau â chymorthj

RSS