A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Geirfa

 

Pam fod gennym eirfa

Fel pob busnes a phroffesiwn, rydym yn datblygu ein hiaith ein hunain.  Rydym "ni" yn y busnes Gofal Cymdeithasol i gyd yn gwybod beth rydyn "ni'n" siarad yn ei gylch oherwydd mae'n iaith bob dydd i ni.  Byddwn yn aml yn tybio bod pawb arall yn deall, ond pam ddylech chi?

Mae'r eirfa hon yn ceisio esbonio rhai termau sy'n cael eu defnyddio yn y wefan neu y dewch chi ar eu traws - cyfieithiad o'r "jargon proffesiynol."

A - F                  G - L                M - Z


A - F

Ail-alluogi - Gwasanaeth gan Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd rhwng bod yn yr ysbyty a chyrraedd adref.  Mae’r Gwasanaeth Ail-alluogi’n ceisio osgoi derbyn rhywun i’r ysbyty heb angen, gan annog rhyddhau rhywun o’r ysbyty mor fuan â phosibl.  Mae’n cynnwys ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, offer a gofal personol yn y cartref yn lle bod yn yr ysbyty.  Wrth gwrs nid yw’n wasanaeth addas os oes angen gofal aciwt yn yr ysbyty.

 

Anabledd Dysgu - Achosir y rhan fwyaf o anableddau dysgu gan y ffordd y mae’r ymennydd yn datblygu - cyn, yn ystod neu’n fuan ar ôl genedigaeth.  Fodd bynnag mae rhai achosion yn gallu effeithio ar blant yn ifanc iawn.  Mae gan rywun anabledd dysgu trwy gydol eu hoes.  Mae gwahanol fathau o anableddau dysgu - rhai ysgafn, canolog neu ddifrifol.  Mae’r cyfan yn effeithio ar allu pobl i fod yn hollol annibynnol.

 

Arolwg – Ar ôl sefydlu a derbyn Cynllun Gofal, dylid adolygu eich anghenion a’r gwasanaeth o leiaf bob blwyddyn.  Mae pethau’n newid.  Os yw eich anghenion yn newid er gwell neu waeth, rhowch wybod i ni.  Os ydych chi’n anhapus â’r gwasanaeth, rhowch wybod i ni.

 

Asesu - Asesu Unedig.  Y broses ffurfiol o adnabod a chofnodi anghenion iechyd a gofal cymdeithasol rhywun sydd efallai angen gwasanaethau cymdeithasol neu ofal iechyd, gan bwyso a mesur y peryglon sy’n eu hwynebu fel bod modd cynnig y gwasanaethau priodol.

 

 

Cadw dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 – Cadw rhywun sydd â salwch meddwl mewn ysbyty meddwl dan Adran o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Gall weithiwr proffesiynol, fel arfer Gweithiwr Cymdeithasol, sydd â’r cymwysterau i wneud penderfyniadau, ochr yn ochr â Meddygon a pherthynas agos,  wneud cais i dderbyn rhywun i ysbyty meddwl yn erbyn eu hewyllys, ar y sail eu bod mor sâl nad ydynt yn gwybod beth sydd orau iddynt.  Y cam olaf yw hyn fel arfer, a’r dewis cyntaf bob amser yw rhoi cefnogaeth a help yn eu cartrefi eu hunain.  Serch hynny, ar adegau ‘does dim dewis ond cadw rhywun yn yr ysbyty a dyna’r peth iawn i’w wneud yn y tymor hir.

Ar adegau rhaid galw’r Heddlu i gadw rhywun.  Mae gan yr Heddlu hawl gyfreithiol i helpu i gadw rhywun dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

 

Cartrefi Gofal Nyrsio – Cartrefi Gofal yw’r rhain sydd wedi’u cofrestru’n benodol i gynnig gofal nyrsio yn ogystal â gofal personol / cymdeithasol a geir mewn cartref gofal preswyl.  Maent ar gyfer pobl sydd ag angen gofal iechyd penodol a pharhaus.

 

Cartrefi Gofal Preswyl - Ar gyfer pobl hŷn sydd angen gofal personol nad yw’n bodoli  yn eu cartrefi eu hunain neu le nad yw’n ymarferol iddynt aros yn eu cartrefi eu hunain.  Y sectorau gwirfoddol a phreifat sy’n gyfrifol am y cartrefi ym Mhowys.  Mae Cyngor Sir Powys yn gallu talu am lefydd os oes angen asesedig (mae pobl yn talu cyfraniad sylweddol i’r gost yn unol ag asesiad ariannol Llywodraeth genedlaethol) neu mae modd eu prynu’n breifat.

 

Cefnogi Pobl - Cymorth Tai i’w gomisiynu gan gynghorau lleol ar sail anghenion asesedig defnyddwyr y gwasanaeth er mwyn sicrhau bod y rhai hynny’n gallu cadw eu tenantiaeth neu barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain.   Bydd y cynllun yn gweithio ochr yn ochr â’r system Budd-daliadau Tai a fydd yn parhau i dalu costau rhenti a chostau o ran cyflwyno swyddogaethau safonol landlord.

 

 

Cronfa Byw’n Annibynnol – Asiantaeth a ariannir gan y Llywodraeth yn Ganolog yw hwn sy’n dyrannu arian dewisol i alluogi pobl anabl rhwng 18 – 64 oed i brynu gofal personol a domestig i’w helpu i fyw yn eu cartrefi eu hunain gyda mwy o gefnogaeth.

 

 

 

Dull Rhaglen Ofal.  Y broses ffurfiol o ddynodi a chofnodi anghenion pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a’r peryglon sy’n eu hwynebu, fel bod modd cynnig y gwasanaethau priodol.

 

 

G - L

Gwaith Cymdeithasol – Rhywun sydd â’r cymwysterau proffesiynol sydd wedi cofrestru i weithio fel Rheolwr Gofal, ond sydd hefyd wedi’i hyfforddi a gyda’r cymwysterau i’ch helpu chi (o bosibl) gydag unrhyw broblemau cymdeithasol a pherthnasau sy’n eich rhwystro chi rhag cael yr help sydd ei angen neu rhag cael yr atebion i’r heriau a ddaw i’ch rhan.   Mae rhai Gweithwyr Cymdeithasol hefyd wedi cymhwyso fel Ymarferwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy.

 

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Brys - Mewn argyfwng -  pan fydd gennych angen brys ac annisgwyl,  gall Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol gynnig beth sydd ei angen arnoch os ydych chi’n gymwys, ac mae’n bosibl derbyn y gwasanaeth ar rybudd byr.  Os na allwn ni ei ddarparu, fe wnawn helpu i ddod o hyd i’r ateb.  Bydd y gwasanaeth am ddim oni bai a than fyddwn wedi ystyried eich anghenion i’r tymor hir (asesiad) ac wedi sefydlu a chytuno ar Gynllun Gofal gyda chi. 

Dylid cyfeirio unrhyw anghenion brys yn ystod oriau gwaith at eich Swyddfa Gofal Cymdeithasol Oedolion lleol  (Llun – Iau 08.30 – 16.45 / Dydd Gwener 08.30 – 6.15).

Tu allan i’r oriau hyn ac ar Ŵyl y Banc a Gwyliau Cenedlaethol ffoniwch 0845 054 4847.

Nid yw’r gwasanaeth y tu allan i oriau gwaith yr un fath â’r gwasanaeth arferol a bydd yn delio ag argyfyngau’n unig - hynny yw'r pethau hynny na all aros tan y diwrnod gwaith nesaf a’r staff hynny sy’n gwybod mwy am eich amgylchiadau.  Nid yw’r gwasanaeth yn gallu cymryd negeseuon a dylai delio’n unig â phethau na all aros.

 

Gwasanaethau’r Sector Preifat – Gwasanaethau gan fusnesau preifat sy’n gweithio ar sail gwneud elw.  Mae Cyngor Sir Powys yn aml yn cyflogi busnesau preifat i gyflwyno’r gwasanaeth sydd ei angen.  Mae busnesau’r sector preifat yn cynnig gofal personol ac yn y cartref, gofal preswyl a nyrsio, prydau ayb.

 

Gwasanaethau’r Sector Gwirfoddol – Gwasanaethau sy’n cael eu trefnu a’u darparu gan fusnesau gwirfoddol  ddim er elw.  Fel arfer mae gweithwyr y sector gwirfoddol yn cael eu cyflogi er mae’r rhai’n “wirfoddolwyr”.  Mae Cyngor Sir Powys yn aml yn cyflogi gwasanaethau’r sector gwirfoddol i gyflwyno’r gwasanaeth sydd ei angen arnoch.  Mae busnesau’r sector gwirfoddol yn cynnig gofal personol a gofal yn y cartref, gofal preswyl a gofal nyrsio, prydau, gofal dydd, grwpiau cymorth, gwybodaeth a gwasanaethau cynghori ayb.

 

Gwasanaethau’r Trydydd Sector – Yn cyfeirio at wasanaethau gan y sefydliadau gwirfoddol a phreifat a busnesau sy’n wahanol i’r rhai a ddarperir gan y sector cyhoeddus.

 

 Gweithgareddau byw bob dydd – Yn cyfeirio at y pethau bob dydd hynny rydym i gyd yn cymryd yn ganiataol ond sydd mewn gwirionedd yn gofyn am allu a sgiliau corfforol, deallusol ac emosiynol.  Popeth o godi, golchi a gwisgo yn y bore, i goginio, bwyta, siopa, golchi llestri a dillad, mynd allan a chwrdd â phobl, hyd yn oed ennill a chadw swydd.

 Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy – Gweithiwr proffesiynol, fel arfer yn Weithiwr Cymdeithasol, sydd â’r cymwysterau i wneud penderfyniadau, ochr yn ochr â Meddygon, ar p’un ai bod rhywun yn berygl i’w hunain neu eraill o ganlyniad i iechyd meddwl.  Ynghyd â pherthynas agos, gall y gweithiwr proffesiynol cymeradwy wneud cais i dderbyn rhywun i ysbyty meddwl yn erbyn eu hewyllys, ar y sail eu bod mor sâl nad ydynt yn gwybod beth sydd orau iddynt.  Y cam olaf yw hyn fel arfer, a’r dewis cyntaf bob amser yw rhoi cefnogaeth a help yn eu cartrefi eu hunain.  Serch hynny, ar adegau ‘does dim dewis ond cadw rhywun yn yr ysbyty dan adran o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a dyna’r peth iawn i’w wneud yn y tymor hir.

Ar adegau rhaid galw’r Heddlu i gadw rhywun.  Mae gan yr Heddlu hawl gyfreithiol i helpu i gadw rhywun dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

 Lles – Y cyflwr o fod yn iach, yn hapus ac yn ffynnu.  Mae sawl ffactor yn gallu cyfrannu at iechyd a lles unigolyn megis:

  • Diet cytbwys
  • Ymarfer corff rheolaidd
  • Perthnasau cefnogol
  • Adnoddau ariannol digonol
  • Gweithgareddau gwaith, addysg a hamdden sy’n eich ysgogi.
  • Defnyddio gwasanaethau monitro iechyd a rhwystro salwch (megis sgrinio a brechu)
  • Defnyddio rheoli peryglon i ddiogelu unigolion ac i hyrwyddo diogelwch personol.

 

 

 

 

 

M - Z

Meini Prawf Cymhwysedd – Ewch i “Pwy sy’n gallu cael help gan Wasanaethau Gofal Cymdeithasol.”

 

Monitro –  Ar ôl cytuno ar  eich Cynllun Gofal a chychwyn ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch, dylai’r Rheolwr Gofal fonitro’r gwasanaethau hynny a gofyn i chi a ydych yn fodlon gyda’r gwasanaethau neu p’un ai bod angen gwneud newidiadau.  Ar ôl cytuno a setlo ar bethau, dylid adolygu eich anghenion a’r gwasanaethau o leiaf bob blwyddyn.

 

Nyrs Gyswllt wrth Ryddhau – Nyrs a gyflogir gan Wasanaeth Iechyd Bwrdd Addysgu Iechyd Powys i drefnu i gleifion gael eu rhyddhau’n brydlon o Ysbytai Cyffredinol  un ai i’w cartrefi eu hunain, gyda neu heb wasanaethau fel sy’n briodol, neu i Ysbytai lleol Cymunedol Powys.

 

Rheolwr Gofal / Cydlynydd Gofal – Rhywun a gyflogir gan Gyngor Sir Powys, neu dan gontract gan Fwrdd Iechyd Lleol Powys.  Eu gwaith yw dod i’ch adnabod chi a’ch amgylchiadau a phenderfynu pa help sydd ei angen ac o le y daw.  Byddan nhw hefyd yn esbonio beth fydd gost y gwasanaeth ac yn sicrhau bod eich anghenion yn cael eu monitro a’u hadolygu.

 

 

Tai Gofal Ychwanegol – Tai sydd gan Gyngor Sir Powys neu Ddarparwr Tai Cymdeithasol (sector gwirfoddol) lle ceir gofal ar y safle fel rhan o’r denantiaeth.

 

 

Therapyddion Galwedigaethol – Pobl sy’n asesu anghenion oedolion a phlant anabl a’u gofalwyr, gan edrych yn benodol ar eu gallu i wneud pethau bob dydd yn annibynnol – golchi, gwisgo, mynd i’r tŷ bach, coginio, bwyta ayb.   Bydd Therapyddion Galwedigaethol yn cynnig hyfforddiant a chyfarpar i helpu pobl fod mor annibynnol â phosibl.  Maent hefyd yn cynnal asesiadau peryglon codi a chario yn y gymuned i’r rhai hynny sy’n dibynnu ar eraill i’w helpu i symud.

 

Proses Asesu Unedig - Fframwaith ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd er mwyn osgoi dyblygu a bod unigolyn yn derbyn cymorth amserol a chyfatebol sy’n briodol i’w peryglon a’u hanghenion.  Nod y broses yw rhoi unigolion wrth wraidd yr asesiad.

 

Teleofal - Cyfuniad o offer, monitro ac ymateb sy’n gallu helpu unigolion fod yn annibynnol yn eu cartrefi.  Gall gynnwys gwasanaethau sylfaenol larwm cymunedol sy’n gallu ymateb mewn argyfwng a rhoi cyswllt rheolaidd dros y ffôn yn ogystal â synwyryddion sy’n synhwyro pethau fel syrthio, tân, damweiniau/salwch yn y nos, crwydro ac yn sbarduno rhybudd i’r ganolfan ymateb.

 

 

RSS