English

Cynadledda

Ynghyd â bod yn gyfleuster chwaraeon, mae Canolfan Hamdden Rhaeadr hefyd yn fan cymdeithasol i'r gymuned leol ac unrhyw fusnesau yn y cylch. Mae cyfleusterau yma i gynnal gwahanol gyfarfodydd a digwyddiadau cymdeithasol mewn amgylchedd gyfeillgar yn agos at ganol Rhaeadr.

Cyfarfodydd / Cynadleddau

Cyfarfodydd / Cynadleddau

Mae nifer o fudiadau yn defnyddio'r Ganolfan i gynnal cyfarfodydd/cynadleddau a seminarau. Mae lle i 80 o bobl ar gynllun Theatr a 35 ar gynllun Ystafell Gyfarfod yn Lolfa Gwy. Mae lle i 45 o bobl ar gynllun Theatr a 35 ar gynllun Ystafell Gyfarfod.  Mae lle i 16 o bobl ar gynllun ystafell gyfarfod a 25 o bobl ar gynllun theatr yn yr ystafell llwyfan newydd ac mae lle i hyd at 400 o bobl yn y Neuadd ar gynllun Theatr.

Mae llawer o offer clyweledol ar gael, yn cynnwys taflunyddion, standiau ar gyfer siartiau fflip, taflunydd Powerpoint, teledu a fideo.

Bydd y Ganolfan yn defnyddio dau gwmni arlwyo allanol a all ddarparu bwffe bys a bawd syml neu fwydlenni helaeth sy'n addas ar gyfer pob achlysur.

Digwyddiadau Cymdeithasol

Digwyddiadau Cymdeithasol

Mae'r Ganolfan ar gael i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol yn cynnwys cyngherddau, pantomeimiau, discos, partion priodas, partion pen-blwydd, partion pen-blwydd priodas, bedydd, dramau, dawnsio llinell, ffeiriau at achosion da, marchnadoedd ffermwyr ac ati.

Mae gan y Ganolfan drwydded lawn a gellir trefnu bar ar gais.

Mae lle i 400 o bobl yn eistedd yn y Neuadd, neu i 350 yn dawnsio.