English

Gweithgareddau

CLYBIAU CYSYLLTIEDIG

Rhaglen Dysgu Nofio'r Seren Fôr

Mae rhaglen nofio'r Seren For yn addas i bawb.

Mae'r rhaglen dysgu nofio'n dechrau gyda phlant o ddwy flwydd oed hyd at oedolion.

Mae'r rhaglen dysgu nofio iau ar y diwrnodau canlynol:

Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn.

Llun - Gwener: rhwng 3.30 - 5.30 pm

Dydd Sadwrn - 9.15 - 11.15 am

Amrywiaeth o gamau o hwyaid bach hyd at Gam 10.

Mae Achub Bywyd 'Rookie' hefyd yn rhan o'r cynllun, ac fel arfer yn cwrdd ddwywaith yr wythnos, dydd Mawrth a dydd Iau 3.30 - 4.25 pm.

 

Seren For i Oedolion

Mae'r rhaglen nofio i oedolion yn addas i'r dechreuwr hyd at gynnig cyngor neu awgrymiadau ar dechneg i'r nofiwr mwy profiadol.

Bob nos Lun 7.30 - 8.30 pm

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o gyflwyno gwersi nofio sy'n rhoi ansawdd a gwerth am arian.

Os hoffech gofrestru ar raglen nofio, llenwch y ffurflen gofrestru ar y dudalen 'cysylltu a ni'.

Neu cysylltwch a'r cydlynydd Nathan Harris yn y Ganolfan.

Cliciwch yma am restr o ddyddiau/amseroedd ar gyfer y gweithgareddau isod

Erobeg

Mae erobeg yn cyfuno ymarfer corff rhythmig gydag ymarferion ymestyn a chryfhau. 

Yn cael ei berfformio i gerddoriaeth, bydd yn helpu i wella elfennau ffitrwydd, gan gynnwys hyblygrwydd, cryfder cyhyrau a ffitrwydd cardiofasgwlaidd.

Mae croeso i bawb o bob lefel ffitrwydd.

Pump it

Mae'r dosbarth hwn yn gweithio holl brif grwpiau cyhyrau'r corff, gan ddefnyddio pwysau y gellir eu haddasu, pob un ohonynt i guriad cerddoriaeth.

Mae'n adeiladu mas y cyhyrau, gan godi'r gyfradd fetabolig sy'n ysgogi llosgi braster yn gyflym ac yn sicrhau y byddwch yn gweld y canlyniadau.

Boxercise

Dosbarth i herio pawb o bob gallu.

Ymarfer corff o ddwyster uchel, mae'n ffordd wych i gwrdd a phobl newydd, cael hwyl a llosgi caloriau yr un pryd.

Sesiynau cymysg.

Hyfforddwyr a chymwysterau lefel 2, ac wedi cofrestru a Boxercise.

 

Clun a Thin

Sesiwn llosgi braster fydd yn gwella eich stamina, cryfder a hyblygrwydd. Cyfuniad o ymarferion tynhau’r corff fydd yn arwain at newid siâp eich corff mewn dim o dro. Dosbarth da i ddechreuwyr a rhai mwy profiadol.

Cylchedau

Gan ddefnyddio dulliau hyfforddi dwyster uchel, bydd y dosbarth hwn yn herio pawb o bob ffitrwydd.

Trwy ddatblygu cryfder a dygnwch y cyhyrau, byddwch yn dod yn gryfach ac yn fwy ffit.

Gydag amrywiaeth o strwythurau dosbarth, byddwn yn eich cadw chi ar flaenau'ch traed ac yn gweithio'n galed drwy'r amser.

Lle gwych i gwrdd a phobl newydd, dod yn heini, iach a chael hwyl.

 

Troelli

Dosbarth seiclo grwp dan do.

Mae hyfforddwyr yn tywys y sawl sy'n cymryd rhan trwy'r camau ymarfer corff, cynhesu'r corff, camau tempo sefydlog, cyflymu, dringo, oeri'r corff ac ati.

Gallwch reoli ymwrthedd y beic yn ystod y sesiwn ac mae addasiadau cyson yn thema gyffredin, gan wneud pedlo mor hawdd neu mor heriol ag yr ydych yn dymuno.

Mae clipiau troed ar y beiciau troelli fel y gellir gwisgo esgidiau hyfforddi ym mhob sesiwn, neu i'r rheini sy'n fwy brwdfrydig, mae gan y beiciau y gallu i fynd yn ôl y sawl sydd arnynt yn gwisgo eu hesgidiau SPD eu hunain.

Mae'n rhaid cael tywel a diod gan y byddwch yn chwysu yn y sesiwn hwn.

Camu a Thynhau'r Corff

Dosbarth caled/ysgafn gyda llwyth o symudiadau llosgi braster sy’n rhoi sialens i bob lefel ffitrwydd.

Yn gorffen gydag ymarfer tynhau’r cyhyrau i lunio’r corff gan ddefnyddio dymbelau o'ch dewis.

Triple 20

Mae'r dosbarth hwn yn cynnwys amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd mewn un sesiwn.

Mae'r Triple 20 yn cael ei rannu'n 3 sesiwn o ugain munud sy'n cael eu dewis gan yr hyfforddwr ar y diwrnod hwnnw. 

Dyma ddosbarth delfrydol i gadw eich diddordeb gan y byddwch yn ceisio dyfalu o wythnos i wythnos beth fyddwch chi'n ei wneud yn y dosbarth.

Os ydych chi'n chwilio am sesiwn ymarfer ar gyfer y corff cyfan Triple 20 yw'r dosbarth i chi.

Sesiwn Ymarfer Corff y Dydd

Beth yw Sesiwn Ymarfer Corff y Dydd

Wel, dyma'r sesiwn ymarfer corff gorau y gallwch chi ei gael mewn sesiwn deugain munud.

Bydd pob un ohonoch sy'n gwybod am draws ffitrwydd yn gwybod y bydd y sesiwn hwn yn profi eich lefelau o ffitrwydd ac yn rhoi'r ymarfer corff gorau i chi ar gyfer y corff cyfan.

Dyna'n gywir beth yw sesiwn ymarfer corff y dydd - beth bynnag mae'r hyfforddwr wedi'i lunio ar gyfer y sesiwn.  Defnyddir egwyddorion traws ffitrwydd a Tabata. 

Aqua Fit

Cyfuniad unigryw o symudiadau erobeg yn y dwr.

Dyma ffordd wych o gadw'n heini heb roi gormod o straen ar y cymalau.

Gyda cherddoriaeth a help dwr, gallwch redeg, neidio a chicio'ch ffordd at gorff iach.

Dan arweiniad hyfforddwr cymwys lefel 2, gyda dros 10 mlynedd o brofiad.

 

Clwb Nofio Ystradgynlais

Clwb allanol yw Clwb Nofio Ystrad sy'n llogi'r pwll ac yn cwrdd unwaith yr wythnos.

Mae'r clwb yn cwrdd ar nos Fercher rhwng 7.30 - 9.30 pm ac mae ganddynt adran Iau a Hyn.

 

Clwb 'Glantawe Gulls'

Glantawe Gulls

Mae'r clwb wedi bod yn gysylltiedig â'r Ganolfan Chwaraeon am dros ddeng mlynedd.

Mae'r clwb wedi bod yn darparu therapi dwr i nifer o bobl anabl sydd ag anableddau amrywiol o fewn ac o amgylch yr ardaloedd lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am y clwb ac am fanylion cyswllt cliciwch ar y llun a byddwch yn cael eich trosglwyddo i wefan 'glantawe gulls'.

Clwb Chwaraeon i Bobl Anabl

Mae'r clwb yn cwrdd bob nos Fercher 5.00pm - 6.00pm

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Beverly Tucker (Swyddog Datblygu Chwaraeon i Bobl Anabl) 01874 612034 neu beverley.tucker@powys.gov.uk 

Clwb Caiaco Tawe

Clwb Caiaco Tawe

Mae Clwb Caiaco Tawe wedi bod yn gysylltiedig â'r Ganolfan Chwaraeon am dros ddeg mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn mae'r clwb wedi ehangu.

Ar hyn o bryd, mae'r clwb yn cwrdd bob nos Wener 8.30 - 9.30pm yn ystod misoedd y gaeaf ac yn yr haf maen nhw'n defnyddio'r afonydd a'r traethau lleol hyfryd o'u hamgylch.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ymuno â'r clwb cyffrous hwn, cliciwch ar y llun ac fe gewch eich trosglwyddo i'w gwefan.

Clwb Karate Cwm Tawe

Clwb Karate Cwm Tawe

Mae Clwb Karate Cwm Tawe wedi bod yn gysylltiedig â'r Ganolan Chwaraeon am dros 15 mlynedd.

Mae'r clwb yn cwrdd bob nos Fawrth a nos Iau 7.0pm - 8.0pm.

I gael rhagor o wybodaeth am y gost ac ymholiadau cyffredinol mae croeso i chi gysylltu â hyfforddwr a pherchennog y clwb Wayne Jones ar Rif ffôn: 07837 071555

Clwb Pêl-rwyd Ystradgynlais

Clwb Pel-rwyd Ystradgynlais

Ar hyn o bryd, mae Clwb Pêl-rwyd Ystradgynlais yn cwrdd yn y Ganolfan Chwaraeon bob nos Lun ar yr amseroedd canlynol:

5 - 6pm, 6 - 7pm a 7 - 8pm - mae hyn oherwydd yr oedrannau amrywiol sy'n mynychu'r sesiynau yn gyson.

Bydd rhaid talu ychydig ar gyfer pob plentyn sy'n mynychu pob sesiwn fel a ganlyn;

Ffi Cysylltiol Blynyddol - £10

yn ogystal â £3 y sesiwn. 

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y clwb neu os hoffech chi gadw lle ar gyfer eich plentyn, cysylltwch â threfnydd y clwb fel a ganlyn:

Enw: Linda Daniel

Rhif ffôn: 07980 043606

e-bost: ystradgynlaisnetball@gmail.com.

Neu cliciwch ar luniau'r chwaraewyr pêl-rwyd ac fe gewch eich trosglwyddo i safle we Clwb Pêl-rwyd Ystradgynlais.

To top