A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Croeso i wefan gyhoeddus newydd Cyngor Sir Powys. Mae cynllun ac ymddangosiad y safle wedi cael eu cadw'n glir a syml, er mwyn gwneud yn siwr ei fod yn hawdd dod o hyd i wybodaeth a darllen y wybodaeth honno. Fel nifer o wefannau llywodraeth leol eraill, mae strwythur y safle hwn yn seiliedig ar Restr Categoriau Llywodraeth Leol y Llywodraeth (RhCLlL). Mae'r rhestr hon wedi cael ei haddasu er mwyn ei gwneud yn addas i anghenion penodol Powys.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y RhCLlL
Ar hyn o bryd, nid yw holl dudalennau gwe'r Cyngor yn cydymffurfio â'r fformat newydd. Fodd bynnag, rydym yn gweithio i ddod â phob un ohonynt i'r strwythur a'r cynllun newydd. Yn y cyfamser, efallai y byddwch yn cael eich ailgyfeirio i wefannau sy'n edrych ac yn teimlo'n wahanol i'r brif safle, er eu bod yn cael eu gweinyddu gan y cyngor. Rydym yn gofyn i chi fod yn amyneddgar yn ystod y cyfnod hwn o drosi. Fel arfer, mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau.
Efallai y byddwch hefyd yn cael eich ailgyfeirio i wybodaeth ddefnyddiol ar wefannau sy'n cael eu cynnal gan fudiadau eraill. Nodwch nad yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am gywirdeb y wybodaeth ar wefannau mudiadau eraill.
I welywio o amgylch y safle, gallwch ddefnyddio'r dewislenni ar ochr chwith y dudalen, neu gliciwch ar unrhyw ddolen o fewn tudalen. Mae dolenni sy'n rhan o destun tudalen yn edrych fel hyn.
Mae'r dewislenni ar ochr y dudalen yn newid, yn dibynnu ar ba rhan a pha lefel o'r safle yr ydych ynddi. I osgoi dyblygu gwybodaeth, mae rhai o'r eitemau ar y dewislenni yn ddolenni i dudalennau mewn rhannau eraill o'r safle. Mae "breadcrumb trail" uwchben prif gynnwys pob dudalen yn dangos lle 'rydych chi yn strwythur y safle. I fynd i lefel uwch o'r safle, cliciwch ar ei enw yn y breadcrumb trail. I fynd yn ôl i'r dudalen ddiwethaf y buoch yn edrych arni, cliciwch botwm "Back" eich porwr, fel arfer.
Mae'r safle hwn wedi'i gynllunio i roi'r mynediad gorau posibl, ac rydym yn gobeithio gwneud rhagor o welliannau yn y dyfodol agos; os byddwch yn cael unrhyw broblemau i gael mynediad i'r wybodaeth ar y safle, neu os hoffech wneud sylwadau ar unrhyw agwedd o fynediad i'r safle, cysylltwch â'r Gwefeistr:
Mae'r safle hwn yn dilyn safon allweddi mynediad Llywodraeth y DG. Os yw'ch porwr yn cefnogi allweddi mynediad, gallwch ddefnyddio'r allweddi canlynol i neidio'n gyflym i brif dudalennau'r safle:
S - Sgipio gwelywio;
1 - Hafan;
2 - Beth sy'n Newydd;
3 - Map y Safle;
4 - Chwilio;
6 - Help/am y safle hwn;
8 - Telerau ac amodau;
9 - Ffurflen adborth;
0 - Manylion allweddi mynediad.
Ar systemau Windows, gwasgwch yr allwedd 'Alt' (Shift + Alt os ydych yn defnyddio Mozilla Firefox 2)Â a'r allwedd mynediad; ar systemau Apple Mac, defnyddiwch yr allwedd 'Control'.
Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth ar y safle hwn yn cwrdd â'ch anghenion; fodd bynnag, os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwynion, neu os hoffech unrhyw wybodaeth am weinyddiaeth y safle ei hun, cysylltwch â'r Gwefeistr. Am sylwadau, cwynion neu wybodaeth yn ymwneud â pholisi'r Cyngor, darparu gwasanaeth neu unrhyw beth arall nad yw'n ymwneud â'r wefan ei hun, cliciwch yma i fynd i'r dudalen Cysylltiadau.
Mae Cyngor Sir Powys yn gwneud ei orau i wneud yn siwr fod y wefan hon yn gywir ac yn ddibynadwy. Fodd bynnag, nid yw'r cyngor yn gwarantu bod y wybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau a graffeg sydd wedi'u cynnwys yn y wefan hon yn gywir, yn ddibynadwy, yn gyflawn neu'n addas ar gyfer unrhyw diben. Ni fydd Cyngor Sir Powys, ei staff, ei gyflenwyr nac unrhyw bobl eraill sy'n gysylltiedig â chreu a chynnal y wefan hon yn atebol i unrhyw ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol, arbennig neu ôl-ddilynol sy'n cael ei achosi gan ddibynnu ar gynnwys y wefan hon, neu sy'n codi o ddefnyddio'r wefan hon.
Mae Cyngor Sir Powys yn darparu mynediad a defnydd o'r wefan hon yn amodol ar yr amodau a'r telerau canlynol:
Pan fyddwch yn cyrraedd tudalennau ar ein gwefan, bydd eich dyfais (cyfrifiadur neu ffôn symudol er enghraifft) yn derbyn data o'n gwefan. Er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau bosib i chi, byddwn yn cynnwys darnau bach o wybodaeth o'r enw cwcis. Mae hyn yn rhywbeth normal. Bydd bron pob gwefan yn y byd yn defnyddio'r rhain er mwyn i chi allu ei chyrraedd ar eich dyfais chi.
Gallwch ddysgu mwy am gwcis a sut i'w rheoli trwy wefan Cwcis porwr y rhyngrwyd – beth ydyn nhw, a sut y gallwch chi eu rheoli. DirectGov.
Mae'r cwcis a ddefnyddiwn yn cynnwys cyfeirnod unigryw anhysbys. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi, ac ni chânt eu defnyddio i'ch adnabod chi yn bersonol.
Byddwn yn eu defnyddio ar y wefan yma i wella gwasanaethau i chi, er enghraifft trwy:
Rhagor o wybodaeth am gwcis Cyngor Sir Powys a sut i'w rheoli.