
Wrth ymyl y Pwll Nofio mae ein cyfleuster ymarfer awyr agored sydd newydd ei adnewyddu.
Mae'r ardal yn cynnwys 4 cwrt tennis, 2 gwrt pel-rwyd a meysydd Hoci a Phêl-droed.

Yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfarpar ffitrwydd er mwyn i chi gael ymarfer corff mewn amgylchedd diogel. Mae’r offer yn cynnwys; peiriannau stepio electronig, beiciau, ‘X-trainers’, peiriannau loncian, peiriannau rhwyfo a llawer mwy.
Yn yr Ystafell Ffitrwydd, mae:
10 Peiriant Cardio Fascwlaidd
9 Peiriant Codi Pwysau
Ac ystafell pwysau rhydd, sydd â Pheiriant Smiths, Mainc Codi Pwysau, Bar i chi fedru codi eich hunan i fyny ac amrywiaeth o Bwysau Bar Hir a Bariau Byr.

Mae buddion unigryw y sawna wedi dod yn hynod boblogaidd yn y gymdeithas fodern. Mae ffisioleg chwysu yn cynnwys sut y gall chwysu gael gwared o wastraff o’r corff, rheoli tymheredd y corff a bywiogi’r croen.

Tri chwrt badminton
Tri chwrt pêl-fasged
Maes pêl-droed pump bob ochr
Cwrt pêl-rwyd a rhwydi criced

Mae dau gwrt sboncen gwych ar gael, sydd â galeri wylio.

Mae’r pwll yn 25m o hyd a 7.5m o led, gan greu pedair lôn.
Mae ei ddyfnder yn amrywio o 0.9m yn y ddau ben i 1.42m ar ei ddyfnaf yn y canol.
Mae tymheredd y dwr yn cael ei gynnal ar 30 gradd gan reolwr tymheredd digidol.
Mae Sawna a chawod ychwanegol hefyd wrth ymyl y pwll.