A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae’r grymoedd tir llygredig , a roddir i Awdurdodau Lleol, yn galluogi’r Cyngor i orfodi pobl sy’n llygru a pherchnogion tir i lanhau tir y mae llygredd wedi effeithio arno yn y gorffennol. Mae’r ddeddfwriaeth wedi’i chynnwys yn Neddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 Rhan IIA, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
Mae’r drefn yn darparu system ar gyfer dynodi a glanhau tir llygredig. Mae’r pwerau hyn yn llym iawn, ac mae’r diffiniad o dir llygredig i’w weld yn y ddeddfwriaeth. Dim ond i dir sy’n achosi perygl annerbyniol i iechyd dynol neu’r amgylchedd ehangach y mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol iddo. Rhaid i’r tair cydran ganlynol fod yn bresennol.
Mae’n bosibl y bydd unrhyw unigolyn, sefydliad neu fusnes yn gyfrifol am gostau glanhau os oes modd dangos eu bod wedi achosi neu wedi caniatáu’r llygru, neu os ydynt yn berchen neu'n meddiannu tir llygredig lle na ellir dod o hyd i’r llygrwr gwreiddiol.
O dan Rhan IIA, y diffiniad statudol o dir llygredig yw,
"unrhyw dir sydd o fewn ardal awdurdod lleol sy’n ymddangos fel ei fod yn y fath gyflwr, oherwydd sylweddau sydd ynddo, arno, neu oddi tano, fel bod
Niwed sylweddol yn cael ei achosi, neu fod posibilrwydd sylweddol y bydd niwed o’r fath yn cael ei achosi;
neu,
dyfroedd a reolir sy'n cael eu llygru neu’n debygol o gael eu llygru."
I gwrdd â’r diffiniad hwn, rhaid bod y cydrannau canlynol yn bresennol:
Sylwedd sydd yn y tir, arno, neu oddi tano a allai achosi niwed i bobl, neu lygru dwr sy’n cael ei reoli.
Y llwybr y gallai derbynnydd ddod i gysylltiad ag ef, neu gael ei effeithio gan sylwedd(au) y ffynhonnell.
Gall fod yn unrhyw un o’r canlynol:
Mae'r Cyngor wedi ymchwilio i ddynodi safleoedd llygredig posibl. Mae hyn wedi cael ei wneud trwy gyfeirio’n bennaf at fapiau hanesyddol sydd wedi’u digidoleiddio, a data defnydd tir. Yna, aseswyd perygl y safleoedd a gafodd eu dynodi trwy ddefnyddio system meddalwedd y Cyngor.
I gael copi o Strategaeth Tir Llygredig y Cyngor, anfonwch e-bost at public.protection@powys.gov.uk
Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael o’r gwefannau perthnasol canlynol: