English

Newyddion a Hyrwyddiadau

Sbinathon 2013

Sbinathon 2012

Daeth 250 o droellwyr ynghyd yng Nghanolfan Hamdden Y Fflash ar ddydd Sul 12 Chwefror ar gyfer y 3ydd digwyddiad troelli blynyddol a gynhelir gan y ganolfan i godi arian ar gyfer elusen. Am y 2 flynedd diwethaf, mae'r 'spinathon' wedi bod yn llwyddiant mawr gan godi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusen ac nid oedd 2012 yn wahanol. Codwyd £4000 i Elusen Gofal Cancr Marie Curie.

Roedd y Digwyddiad a gynhaliwyd dros 4 awr yn cynnwys 110 beic gyda phob beic yn costio £30 mewn rhoddion. Roedd 8 o hyfforddwyr o ganolfan y Fflash a chanolfannau eraill led led Powys yn cynnal y sesiwn gyda phob un yn gwneud ei ran am 30 munud.

Iolo Williams, y cyflwynwydd teledu Cymraeg a agorodd y digwyddiad cyn iddo neidio ar ei feic.

Mae Canolfan Y Fflash yn cynnal 12 dosbarth Troelli yr wythnos. Cliciwch yma, os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am droelli neu cysylltwch â Chanolfan Y Fflash.

spinathon

Spinathon 2010

Spinathon 2010

Ar ddydd Sul 7 Chwefror cynhaliwyd 'spinathon' am 4 awr i godi arian i Gymorth Canser Macmillan.

Bu timoedd o hyd at 4 o bobl yn troelli ar 65 beic yn y neuadd chwaraeon ac roedd hyfforddwyr o Ganolfannau Hamdden y Flash a Maldwyn yn cadw pawb i fynd gyda cherddoriaeth amrywiol.

Dyma'r digwyddiad troelli mwyaf sydd wedi cael ei gynnal yn y sir.

Trefnwyd y 'spinathon' gan Ddiffoddwyr Tân y Trallwng, sydd hefyd yn bwriadu gwneud Her y '3 Peaks' ym mis Mehefin er budd Macmillan.

Diwrnod y Gwasanaethau Brys yn Llwyddiant Ysgubol

Bu diwrnod agored y gwasanaethau brys yn y Flash yn ddiwrnod poblogaidd gyda phawb. Daeth criw o Orsaf Dân Y Trallwng i siarad am ddiogelwch tân, yn cynnwys arddangosfa sosban sglodion, criw o Wasanaeth Ambiwlans Y Trallwng, a fu'n sôn am gymorth gyntaf gyda'r plant ac yn rhoi rhwymynnau amdanynt, a 2 swyddog o Orsaf Heddlu'r Trallwng a fu'n cymryd olion bysedd y plant ac yn siarad am atal trosedd. 

diwrnod y gwasanaethau brys

Clwb Corgwn Cymreig

Ar ddydd Sadwrn 17 Tachwedd, daeth y Clwb Corgwn Cymreig i'r Flash, a daeth Corgwn a'u perchnogion o bob rhan o Gymru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

clwb cwn

Clwb Ceir Gororau cymru: "Rali Breidden Steve Hughes"

Canolfan Hamdden y Flash oedd y Pencadlys ar gyfer Rali ffordd Breidden yn ddiweddar ar 6 / 7 Hydref 2007

Cafodd y rali wobr digwyddiad gorau Cymru yn 2006, a denodd y nifer uchaf posibl o 200 o gystadleuwyr, gan sicrhau fod y Flash yn brysur trwy'r nos, gan weini prydau ayb cyn i'r gystadleuaeth ddechrau am hanner nos.

Defnyddiwyd prif neuadd y Flash ar gyfer defodau dechrau'r digwyddiad, a chafodd y prif geir eu parcio dan do yn y neuadd, gan roi gwawr hynod broffesiynol ar y digwyddiadau.

Daeth 250 o bobl i'r brif neuadd ar gyfer sesiwn briffio'r gyrwyr cyn i'r timau adael y maes parcio i gystadlu ar y llwybr 130 milltir ar hyn lonydd a llwybrau Sir Frycheiniog.

Yn gynnar yn y bore, daeth y cystadleuwyr yn ôl i'r Flash am frecwast haeddiannol (a gafodd wobr y brecwast gorau mewn unrhyw rali yn 2007!) cyn y seremoni wobrwyo oddeutu 07.30am. 

rali ceir