English

Cyfleusterau

Pwll Nofio

Pwll Nofio

Pwll 25m x 10m gyda phen bas 1m sy'n ymestyn i ben dwfn o 3.5m.

Mae yna weithgareddau amrywiol yn y pwll i bawb, yn cynnwys, cyfle i Nofio'n Gynnar y Bore, nofio yn ystod amser cinio, sesiynau nofio cyhoeddus, sesiynau nofio mewn rhesi, sesiynau i ferched, sesiynau i oedolion yn unig, Gwersi Nofio, sesiynau i bobl dros 50 oed ac Erobeg yn y Dwr.

Mae Pwll Nofio Aberhonddu hefyd yn gartref i'r Clwb Nofio Tanddwr Lleol a Chlwb Nofio Aberhonddu sy'n cynnal nifer o galas nofio bob blwyddyn.

pwll dysgu

Pwll Dysgu

Wrth ochr y prif bwll mae'r pwll dysgu a llithren dwr.  Mae'r pwll hwn yn cael ei gadw ychydig yn gynhesach na'n prif bwll.  

Mae'r pwll hwn hefyd ar gael i bartion plant ar  brynhawn Sadwrn.

Gellir cael rhagor o fanylion am weithgareddau'r pwll nofio yn amserlen y pwll nofio.

Ystafell Ffitrwydd

Ystafell Ffitrwydd

Amrywiaeth o gyfarpar cardiofasgwlaidd ac ymwrthedd ar gael ynghyd â beiciau, melinau traed, peiriannau 'cross trainers', peiriannau rhwyfo, stepio, cyfarpar ymwrthedd a phwysau rhydd.

Er mwyn i chi allu defnyddio'r cyfleuster hwn rhaid i bawb wneud cwrs cynefino'r ystafell ffitrwydd.  Gellir trefnu hyn gyda'r Dderbynfa.

Neuadd Chwaraeon

Prif Neuadd Chwaraeon

Gellir defnyddio'r neuadd chwaraeon amlbwrpas, maint 4 cwrt badminton hon ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys, pêl-droed 5 bob ochr, pêl foli, pêl-fasged, badminton, tennis dan do, pêl-rwyd a nifer o weithgareddau eraill. 

Gellir llogi'r Neuadd Chwaraeon hefyd ar gyfer partion plant ynghyd â Chastell gwynt a thegannau meddal.

Neuadd Weithgareddau

Neuadd Weithgareddau

Mae'r neuadd weithgareddau llai sydd â llawr pren sbring yn gyfleuster delfrydol ar gyfer dosbarthiadau erobeg, crefft ymladd, tennis bwrdd, unihoci, gymnasteg, dosbarthiadau dawnsio, ioga a chyfarfodydd.

Dyma'r lleoliad hefyd ar gyfer dosbarthiadau Ymyrraeth Iechyd rheoliadd yn cynnwys adfer y galon, ymarfer corff i bobl sy'n ordrwm, dosbarthiadau ymarfer corff i bobl dros 60 a hyfforddiant i blant.

 

Bowlio Lawnt Dan Do

Bowlio Lawnt Dan Do

Mae pedwar lawnt fowlio dan do ar gael yn y Neuadd Fowls.  Defnyddir y Neuadd Fowls ar gyfer gemau cynghrair yn ystod y gaeaf, gallwch hefyd logi'r lawntiau i gyd ar gyfer gemau neu gellir defnyddio'r lawnt ar gyfer gemau achlysurol ar gyfer pobl o bob oed a gallu.

Gellir llogi'r bowls a'r jacs o'r Dderbynfa.

Bowlio Deg

Bowlio Deg

Ali Bowlio Deg chwe lôn sydd â system sgorio gyfrifiadurol.

Lle gwych i gymdeithasu gyda ffrindiau neu gyfle i bawb yn y teulu fwynhau eu hunain.

Cyrtiau Sboncen

Cyrtiau Sboncen

Mae 2 gwrt sboncen sydd â waliau cefn gwydr a lloriau pren sbring.

Mae yna ardal yn y fan hon lle gall aelodau o'r teulu neu wylwyr eraill wylio gemau.

Mae racedi a chyfarpar ar gael i’w llogi.  Rhaid i chwaraewyr iau wisgo sbectol diogelwch.

Dylai chwaraewyr sboncen fod yn ymwybodol bod cerddoriaeth yn rhan o bob Dosbarth Troelli.  Bydd y gerddoriaeth yn cael ei chwarae'n gyson am y dosbarth gyfan a bydd yn weddol uchel ar brydiau.

Trac Athletau

Trac Athletau

Mae’r cae rhyngwladol hwn gyda’i lifoleuadau a chyfleusterau trac a chae ynghyd â chyfarpar o safon a’i leoliad delfrydol yn cael ei gydnabod fel un o leoliadau gorau ar gyfer athletau yng Nghymru.

Dyma gartref Clwb Athletau Aberhonddu ac mae'r trac athletau yn addas i bawb o redwyr cyffredinol i athletwyr cystadleuol fel ei gilydd.

Cae Chwarae Artiffisial

Cae Chwarae Artiffisial

Mwynhewch y cyfleuster gwych hwn trwy gydol y flwyddyn ac ymhob tywydd. 

Gellir defnyddio'r cae chwarae artiffisial gyda llifoleuadau ar gyfer gemau hoci a phêl-droed maint cyflawn, neu gellir ei rannu'n ddau ar gyfer dwy gêm 5 bob ochr.

Defnyddir y cyfleuster yn gyson gan glybiau hoci a phêl-droed lleol yn law neu'n hindda.  Gall unigolion hefyd logi'r cae chwarae.

 

Cyfarfodydd a Digwyddiadau

Cyfarfodydd a Chyrsiau

Wedi'i leoli'n ganolog gyda digonedd o le parcio Canolfan Hamdden Aberhonddu yw'r lle delfrydol ar gyfer cyfarfodydd a chyrsiau bychan a chanolig eu maint.   Mae yna amrywiaeth o ystafelloedd ar gael.

Mae yna hefyd amrywiaeth o gyfarpar sain a gwelededd ar gael gan gynnwys uwchdaflunydd a fideo. Mae taflunnydd digidol a chyfrifiadur wedi'i gysylltu â'r rhwydwaith, gyda meddalwedd office yn cynnwys powerpoint, ar gael yn ein Ystafell Gyfarfod wedi'i Hawyru a gafodd ei hadnewyddu'n ddiweddar.

Mae lluniaeth hefyd ar gael os ydych ei angen.

Siop Goffi

Siop Goffi

Dewch i fwynhau pryd o fwyd yn Siop Goffi'r Gali lle gallwch ddewis o brydau bwyd ysgafn a iachus i brydau bwyd mawr o'n fwydlen helaeth.  Mae prydau bwyd ysgafn poeth ac oer, brechdanau, rholiau a phrydau bwyd mawr ar gael wedi'u paratoi'n ffres trwy gydol y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Mae prydau bwyd ar gyfer partion plant hefyd ar gael.  Gallwch blesio pawb trwy gael bwffe neu bryd o fwyd poeth

Cyrtiau Tennis

Cyrtiau Tennis

Mae yna bum cwrt tennis awyr agored ar gael i'w llogi i'w defnyddio gan glybiau neu unigolion preifat.  Mae'r cyrtiau'n ddelfrydol ar gyfer gwella a datblygu eich sgiliau tennis.

Gellir llogi a threfnu'r cyfleusterau ar gyfer Pêl-rwyd hefyd.

Â