I gael manylion pellach am unrhyw un o'r canlynol, cysylltwch â'r Dderbynfa.
|
442 K |
|
153 K |
|
275 K |
|
313 K |
|
284 K |
|
|
276 K |

NEWYDD - ychwanegwyd grwpiau at y Gwasanaeth Anfon Negeseuon Testun SMS i'r holl ddisgyblion sydd wedi cofrestru ar gyfer Gwersi nofio a chyrsiau Gymnasteg. Bellach, ychwanegwyd grwpiau ar gyfer Hyfforddiant Cylched, Erobeg Dwr a Nofio Ben Bore.
Cofrestrwch i dderbyn negeseuon yn uniongyrchol i'ch ffôn symudol os bydd angen canslo Gwersi Nofio, clwb Gymnasteg, Hyfforddiant Cylched, Erobeg Dwr a Nofio Ben Bore (Llun - Gwener) ar y funud olaf.
Codwch ffurflen yn y dderbynfa neu lawrlwythwch y ffurflen isod a'i dychwelyd i'r dderbynfa.
|
|
169 K |

Roedd Canolfan Hamdden Aberhonddu wrth ei bodd yn croesawu Rali Taith yr Epynt Ddydd Sul 13 Mawrth 2011. Cafodd yr achlysur ei drefnu gan Port Talbot Motor Club Ltd ,a rownd Dydd Sul oedd rownd agoriadol Pencampwriaeth REIS MSA Asphalt 2011. Dechreuodd y rali ar feysydd tanio Epynt a daeth i ben yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu, lle cynhaliwyd y seremoni wobrwyo hefyd.

Yn y llun uchod mae buddugwyr Taith Epynt 2011 winners, Steve Simpson y gyrrwr a'i gyd-yrrwr Aled Davies gyda'u Subaru Impreza WRC.
Roedd ein Diwrnod Agored Cyntaf i'r Gwasanaethau Brys yn llwyddiant ysgubol.Â
Cafodd y Diwrnod Agored ar 27 Hydref ei drefnu gan Ganolfan Hamdden Aberhonddu mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Awyr a Thim Achub Aberhonddu.
Nod y diwrnod oedd caniatau i'r cyhoedd gwrdd â swyddogion lleol y gwasanaethau brys a dysgu rhagor am eu rôl yn y gymuned. Bu'r arddangosfeydd, yn cynnwys yr Arddangosfa Achub Bywyd yn y Pwll yn boblogaidd iawn, a phawb yn eu mwynhau.

Diolch yn fawr i bawb o'r criwiau lleol o'r Gwasanaethau ac i'n Hachubwyr Bywyd ein hunain am eu cyfraniad gwerthfawr yn y diwrnod agored.