
Cliciwch yma i weld y safle ar MULTIMAP
Lleolir Canolfan Hamdden Aberhonddu ar ochr gogledd ddwyreinol Aberhonddu. Mae gan y ganolfan maes parcio dynodedig sy’n gyfleus i bawb sy’n defnyddio’r ganolfan hamdden.
Mae’r Ganolfan wrth ochr y B4062 a gellir teithio ar hyd Cefnffordd yr A470 Caerdydd – Llanfair-ym-Muallt i gyrraedd y Ganolfan. Os ydych yn teithio tuag at Aberhonddu ar hyd yr A40 o’r Fenni neu Lanymddyfri dilynwch yr arwyddion am yr A470 i Lanfair-ym-Muallt ac yna’r arwyddion am y Ganolfan Hamdden.
Gwasanaethir y dref gan gwmniau bysiau National Express a Stagecoach sy’n cysylltu trefi eraill megis:- Caerdydd, Abertawe, Merthyr Tudful, Y Fenni, Llanymddyfri, Llanfair-ym-Muallt, Crughywel a’r Gelli Gandryll. Mae’r orsaf drenau agosaf yn Y Fenni a gellir gwneud cais am amserlen gan y swyddfa Gwybodaeth Rheilffyrdd Cenedlaethol