A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y

Mae'r rhan fwyaf o wastraff o'r ardd, fel glaswellt wedi'i dorri, dail, tociadau o'r gwrych, brigau a ffrwythau o'r ardd yn fioddiraddadwy, sy'n golygu bod yna ddigon o ffyrdd o ailgylchu'r defnyddiau yma a'u hatal rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
Er enghraifft, os gadewch y glaswellt wedi'i dorri ar eich lawnt, neu eu defnyddio fel taenfa ar eich gwelyau blodau, ac yn cwtogi ar y dwr sydd ei angen.
Fodd bynnag, gellir gwaredu'r gwastraff o'r ardd mewn Safle Ailgylchu Cymunedol sy'n cynnig y cyfleuster perthnasol, neu mewn unrhyw un o'r chwe Chanolfan Gwastraff o'r Cartref a Chanolfan Ailgylchu ym Mhowys yn rhad ac am ddim.
Sylwch mai ar gyfer deiliaid tai yn unig y mae'r gwasanaethau yma wedi'u bwriadu. Ni all garddwyr masnachol ddefnyddio'r safleoedd hyn dan y gyfraith, ond gallant brynu trwydded fydd yn eu caniatáu nhw i fynd â'u gwastraff o'r ardd i Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Gwastraff.  Â
Anogir deiliaid ty hefyd i gompostio gartref. Mae'r cyngor yn gwerthu biniau compostio am £15 yr un gan gynnwys cludiant, neu £10 os prynwch un o Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Neu os oes gwirioneddol angen i chi wneud, gallwch brynu bagiau plastig oren oddi wrth y Cyngor. Bydd y rhain yn cael eu casglu o ymyl y ffordd gan y criw casglu, yr un pryd â'r bagiau duon.
Gallwch archebu'r bagiau hyn trwy ffonio 0845 602 7035.
Ni ddylai'r dull yma gael ei ystyried nes rhoi cynnig ar bob dull amgylcheddol-gyfeillgar arall o drin gwastraff o'r ardd, gan y bydd y deunyddiau yma'n mynd i safle tirlenwi.
Rhaid defnyddio bagiau oren, gan na fyddwn yn casglu unrhyw fagiau eraill sy'n cynnwys gwastraff o'r ardd. Fel arall byddant yn cael eu gadael gan y criwiau gyda sticer arnynt sy'n dweud "Bag Heb ei Gasglu". Ni fydd y bagiau hyn yn cael eu hystyried fel casgliad a fethwyd, a bydd gofyn i'r deiliad ty eu symud oddi yno.
Rhoddwyd y polisi a'r newid gwasanaeth fis Ebrill 2006 ar waith i leihau swm y gwastraff bioddiraddadwy sy'n mynd i safleoedd tirlenwi, a gall y Cyngor gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i erlyn deiliaid ty sy'n mynd ati'n gyson i ddefnyddio'r cynwysyddion anghywir ar gyfer gwastraff o'r ardd, dan Adran 46 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Cyfeiriad E-bost: highways.and.waste@powys.gov.uk
Teleffon: 0845 602 7035
Ffacs: 01597 827276
Cyfeiriad:
Desg Gymorth Gwasanaethau Lleol a Thechnegol
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA
Gweld manylion cyswllt Siaradwr Cymraeg ar gyfer y gwasanaeth yma