Eich stop cyntaf ar gyfer gwybodaeth am Bowys, ei phobl a'i lleoedd

Powys-i

Croeso i dudalennau gwe Powys-i!

Mae'r  tudalennau hyn o fapiau ac ystadegau yn rhan o brosiect  Powys-i.  Ein nod yw creu adnodd canolog o wybodaeth am Bowys, ei phobl a'i lleoedd, ar ran Arsyllfa Ddata Powys, y grwp tasg rhannu gwybodaeth a sefydlwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Lleol Powys.

 

Newyddion Ystadegau Diweddaraf

28/3/2013 Beichiogi yn yr Arddegau yng Nghymru, 2011

Cafodd yr adroddiad diweddaraf ar feichiogi yn yr arddegau yng Nghymru, a luniwyd gan Lywodraeth Cymru, ei ryddhau ar 28 Mawrth 2013.

Y gyfradd feichiogi ymhlith rhai dan 18 ym Mhowys oedd 21.3 ym mhob 1000 yn 2011.

Roedd Powys yn 21ain ymhlith Awdurdau Unedol Cymru yn 2011 o ran y gyfradd i bob 1000 o ferched, ac yn cymharu â 34.2 yng Nghymru, ac ond yn uwch na Sir Fynwy.

25/3/2013 Cyfrif Carafanau Sipsiwn a Theithwyr, Ionawr 2012

Cafodd ystadegau ar gyfrif carafanau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru a luniwyd gan Lywodraeth Cymru eu rhyddhau ar 14 Mawrth 2013. Gellir gweld yr adroddiad yma.

Ar 17 Ionawr 2013, roedd gan Bowys 42 carafan. Roedd 32 ar safleoedd wedi'u hawdurdodi a 10 ar rai heb eu hawdurdodi, a hynny ar gyfanswm o 17 safle.

Mae hyn yn cymharu â Ionawr 2012 pan oedd gan Bowys 27 wedi'u hawdurdodi a 2 heb eu hawdurdodi a Gorffennaf 2012 pan oedd gan Bowys 29 wedi'u hawdurdodi a 38 heb eu hawdurdodi.

22/3/2013 Cyfradd Hawlwyr Diweithdra Powys 2.6% Chwefror 2013

Roedd 2,049 o bobl allan o waith ac yn hawlio budd-daliadau diweithdra ym Mhowys fis Chwefror 2013, sef 2.6% o'r gweithlu preswyl rhwng 16-64 a amcangyfrifwyd yn ôl y data a ryddhawyd fis Mawrth 2013 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae Uned Ymchwil a Gwybodaeth y Cyngor yn amcangyfrif mai'r cyfraddau diweithdra uchaf ymhlith 15 Ardal Fforwm Cymunedol Leol (AFfCL) oedd AFfCL Llandrindod (4.4%), AFfCL Y Drenewydd (3.5%) ac AFfCL Ystradgynlais (3.5%).

Rhanbarth Etholiadol Dwyrain Llandrindod / Gorllewin Llandrindod oedd y 15fed ardal etholiadol waethaf yng Nghymru. Roedd Rhanbarth Etholiadol De'r Drenewydd hefyd ymysg y 100 ardal waethaf. 

 I gael rhagor o fanylion, darllenwch ein  bwletin misol ar Hawlwyr Budd-daliadau Diweithdra. 

 

22/3/2013 Tanau Bwriadol 2011-12

Cyhoeddwyd yr Ystadegau Cenedlaethol diweddaraf ar Danau Bwriadol, 2011-12 a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru ar 28 Chwefror 2013.

Mae'r bwletin yn cynnwys data ar danau bwriadol yn ôl ardaloedd gwasanaethau tân.

Cafodd Powys 158 o danau bwriadol yn 2011-12 (Cymru 10,629), i lawr o 159 yn 2010-12 (Cymru 14,297) ac i fyny ar 131 yn 2009-10 (Cymru 12,912).

Roedd hyn yn gynnydd o 21% ers 2009-10, o'i gymharu â gostyngiad led led Cymru o 18% a dyma oedd y 3ydd cynnydd mwyaf ymysg awdurdodau lleol yng Nghymru.

Cafodd Powys 99 o danau simnai yn 2011-12, y nifer uchaf ymysg awdurdodau lleol yng Nghymru.

Gellir dod o hyd i'r bwletin llawn yma.

27/2/13 Adroddiad Cyfrifiad Plant mewn Angen Cymru

Cyhoeddwyd yr adroddiad Cyfrifiad Plant mewn Angen Cymru  gan Lywodraeth Cymru ar 27 Chwefror 2013.  Casglodd cyfrifiad Plant mewn Angen gofnodion unigol ar blant mewn angen oedd ag achos agored gydag awdurdod lleol ar 31 Mawrth 2012. 

Ar gyfer 2011-12, roedd gan Bowys 715 o blant mewn angen (Cymru 20,240) o'i gymharu â 660 yn 2010-11 (Cymru 19,710) 

O'r rhain, roedd 235 yn blant gydag anabledd (Cymru 5,125) o'i gymharu â 215 yn 2010-11 (Cymru 4,980).

Ar gyfer 2011-12, roedd 95% o'r plant mewn angen ym Mhowys o dras ethnig gwyn, (Cymru 90%)

Powys oedd â'r canran uchaf o Blant mewn Angen gydag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig ymhlith yr Awdurdodau Unedol yng Nghymru, ar 14% (Cymru 9%)