Hafan Bwrdd Diogelu Plant Lleol Powys » Pobl Broffesiynol » Beth i'w wneud os oes gennych bryder

Beth i'w wneud os oes gennych bryder bod plentyn yn cael ei gam-drin

Beth bynnag yw eich pryderon am blentyn, peidiwch â'i gadw i chi'ch hun.  Rhaid i chi gofio mai lles y plentyn sy'n holl bwysig bob amser.

Gall cam-drin plentyn ddeillio o weithredoedd uniongyrchol tuag at blentyn, neu o ganlyniad i fethiant y rhai sydd â chyfrifoldeb dros y plentyn i ddarparu gofal rhesymol, neu gall fod y ddau.

Os oes gennych bryderon, cysylltwch â Gwasanaethau Plant Powys.  Gallwch gael trafodaeth anffurfiol am eich pryderon gyda'r sawl sydd ar ddyletswydd.

Rhannwch eich pryderon.  Gall un galwad ffôn achub plentyn rhag niwed - gallai fod mor bwysig â hynny.

Gwasanaethau Plant Powys

Y Trallwng:  Neuadd Maldwyn, Ffordd Hafren, Y Trallwng, SY21 7AS  Ffôn:  01938 552017

Y Drenewydd:  Y Parc, Y Drenewydd, SY16 2PL  Ffôn:  01686 617520

Llandrindod:  1 Stryd Fawr, Llandrindod, LD1 6AG  Ffôn:  01597 827325

Aberhonddu:  Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys LD3 7HR  Ffôn:  01874 624298

Ystragynlais:  Hendreladus, Ystragynlais, Abertawe, SA9 1SE  Ffôn:  01639 844595

Gwasanaeth Brys Tu Allan i Oriau Swyddfa:  Ffôn: 0845 054 4847

Beth i'w wneud os bydd plentyn yn datgelu rhywbeth i chi?

Os bydd plentyn yn datgelu rhywbeth i chi - peidiwch â chwestiynu'r plentyn ymhellach, ond gwneud yn siwr ei fod yn ddiogel.

Byddwch yn agored i'r ffeithiau: peidiwch ag ymddangos fel petaech wedi cael sioc na chwaith eich bod ddim yn ei gredu (er efallai y byddwch yn teimlo felly).  Rhowch amser i'r plentyn deimlo'n ddiogel a rhowch amser iddynt.

Peidiwch byth ag addo y byddwch yn cadw'r wybodaeth yn gyfrinach (ni allwch wneud hyn yn broffesiynol).  Sicrhewch y plentyn y byddwch yn gweithredu ar eu rhan, ac mai dim ond y rhai sydd angen gwybod fydd yn cael gwybod.  COFIWCH - gall y gweithdrefnau sy'n digwydd ar ôl datgelu godi mwy o ofn ar y plentyn na'r cam-drin ei hun.    Mae'n bosibl iddynt gael eu bygwth y bydd rhywbeth drwg yn digwydd iddynt os byddant yn dweud.

Soniwch am yr honiadau i'r rhai sydd angen cyfeirio atynt, ac sydd angen gwybod er mwyn diogelu'r plentyn yn unig.  Mae cyfrinachedd yn dal i fod yn hanfodol, heblaw pan yn cyfeirio.

Cymerwch gofnod cywir o'r hyn a ddywedwyd wrthoch neu a welsoch a pha gamau a gymerwyd gan bwy, ymhle, a phryd.  Defnyddiwch union eiriau'r plentyn (peidiwch â dehongli beth ddywedodd y plentyn).

Cofiwch mai lles y plentyn sydd bwysicaf bob amser.