A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Awdurdod Unedol Cymreig yw Cyngor Sir Powys gyda 73 o Gynghorwyr etholedig. Mae'r awdurdod yn weddol ifanc. Cafodd ei greu fel Cyngor Sir yn 1974, yna'i gyfuno â'i gynghorau rhanbarthol cyfansoddol i ddod yn Awdurdod Unedol yn 1996. Fodd bynnag, mae ei wreiddiau yn ddwfn, ac mae'r tair rhanbarth sy'n rhan o'r awdurdod - Sir Frycheiniog, Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed - yn ymestyn yn ôl ganrifoedd.
Fel Awdurdod Unedol, mae'r Cyngor yn gyfrifol am holl wasanaethau llywodraeth leol y sir, yn cynnwys addysg, gwasanaethau gofal cymdeithasol, ffyrdd a phontydd, gwasanaethau hamdden, twristiaeth a chynllunio.
Mae'r Cyngor yn cyflogi tua 8,000 o staff mewn nifer o leoliadau ar draws y sir mewn amrywiaeth o rolau, o gasglwyr sbwriel i weithwyr cymdeithasol, o athrawon i beirianyddion priffyrdd.
Mae'r Cyngor yn effeithio'n sylweddol ar yr economi leol, trwy fod yn gyflogwr mwyaf y sir a thrwy wario dros hanner o'i drosiant o £300 miliwn o fewn ffiniau'r sir.
Mae gwybodaeth am Gynghorwyr, hen gofnodion cyfarfodydd, strwythurau pwyllgorau a gwybodaeth berthnasol eraill ar gael ar wefan Gwasanaethau Democrataidd.  Rydym wrthi'n trosglwyddo'r wybodaeth hyn i'n system gwefan newydd, ond yn y cyfamser, cliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol:
Mae'r adran Gwasanaethau Democrataidd yn rhoi cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol i holl aelodau'r Cyngor ynghyd â darparu a goruchwylio: