A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae yna chwech o Ganolfannau Gwastraff o'r Cartref ac Ailgylchu ym Mhowys, a chânt eu rhedeg gan gwmnïau preifat a gontractwyd gan Gyngor Sir Powys:
Â
| Canolfan Ailgylchu | Cyfeiriad | Cyswllt | Oriau Agor |
| Brecon Recycling | Ystad Ddiwydiannol Ffrwdgrech, Aberhonddu, Powys, LD3 8LA | 01874 611136 | Llun-Gwener 10am - 5pm, Sadwrn-Sul 10am - 2pm |
| JPR Recycling | Llandegley, Llandrindod, Powys, LD1 5UD | 01597 851844 | Llun-Sul 10am - 4pm |
| Potters Recycling | Hen Iard yr Orsaf, Machynlleth, Powys, SY20 8BL | 01938 552396 | Llun-Gwener 8:30am - 5:30pm, Sadwrn 9am - 5pm, Sul 10am - 4pm |
| Potters Recycling | Lôn Wern Ddu, Y Drenewydd, Powys, SY16 3DN | 01938 552396 | Llun-Gwener 8:30am - 5:30pm, Sadwrn 9am - 5pm, Sul 10am - 4pm |
| Potters Recycling | Ffordd Hafren, Y Trallwng, Powys, SY21 7YE | 01938 552396 | Llun-Gwener 8:30am - 5:30pm, Sadwrn 9am - 5pm, Sul 10am - 4pm |
| JLA Recycling | Tir Canol, Heol Palleg, Cwm-twrch Isaf, Ystradgynlais, Powys, SA9 2QQ | 01639 845839 | Llun-Gwener 8:30am - 5:30pm, Sadwrn-Sul 8am-4:30pm |
Cliciwch ar y dolenni i wybod rhagor am y gwasanaeth sydd ar gynnig gan y safleoedd hyn.

Caiff deiliaid tai ddefnyddio pob un o'r Canolfannau am ddim i gael gwared ar wastraff swmpus a gwastraff peryglus o'r cartref a sbwriel y gellir ei ailgylchu. Fodd bynnag, codir tâl am gael gwared ar asbestos a gwastraff adeiladu a dymchwel adeiladau.
Bydd y deunyddiau gaiff eu derbyn yn y Canolfannau'n cael eu hailgylchu, eu compostio a/neu eu hailddefnyddio lle bo hynny'n bosibl. Mae'r Cyngor wedi gosod gofyniad i o leiaf 60% o'r gwastraff gaiff ei adael yn y Ganolfan gael ei ailgylchu. Mae pob Canolfan yn cydymffurfio â'r gofyniad yn gyson gan ailgylchu mwy na hynny'n amlach na pheidio.
Noder fod y Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff o'r Cartref er defnydd trigolion Powys i gasglu gwastraff a deunyddiau ailgylchu o'r cartref yn unig.
Gall masnachwyr sydd wedi'u cofrestru gyda Chyngor Sir Powys ar hyn o bryd hefyd gofrestru am drwydded gwastrafff masnachol i fynd â deunyddiau ailgylchu i rai o'r Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff o'r Cartref am dâl o £100 y flwyddyn.
Ni chaniateir trelars echel dwbl yn y Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff o'r Cartref oni bai fod trefniant o flaen llaw gyda gweithredwr y safle.
Bydd angen prawf o breswylio ym Mhowys ac mae gan weithredwr y safle ddisgresiwn i droi gwastraff ymaith a dybir sydd wedi dod yn sgil gweithgareddau masnachol.