A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Amgueddfa Sir Faesyfed

Curadur: Will Adams

amgueddfa

Stryd y Deml, Llandrindod, Powys, LD1 5DL
Ffôn: 01597 824513. Ffacs: 01597 825781.
radmus@powys.gov.uk

www.powys.gov.uk/radnorshiremuseum

Mae Amgueddfa Sir Faesyfed, sy'n rhan o Wasanaeth Amgueddfeydd Cyngor Sir Powys i'w gweld yng nghanol Llandrindod.  Mae'n cynnwys arteffactau sy'n perthyn i hen sir Faesyfed.  Hen Llyfrgell Carnegie yw cartref yr Amgueddfa.

Mae Llandrindod yn un o drefi ffynhonnau prydferthaf Cymru.  Mae pobl wedi bod yn dod yma i yfed y dyfroedd am resymau meddygol ers traethawd enwog Dr Linden yn 1756.  Mae Amgeuddfa Sir Faesyfed yn adrodd hanes y datblygiad hwn tan ei anterth ar ddiwedd yr Oes Fictoria.

Arddangosfeydd Parhaol

arteffactau

Archaeoleg - o gyfnodau Neolithig, Oes Efydd, Oes Haearn, Rhufeinig a Chanoloesol.

Palaeontoleg - Ffosilau o gyfnod Canol Ordofigaidd, yn cynnwys sbyngau ac  echinodermau.

Hanes Cymdeithasol - Arteffactau o'r Ffynnon Fictoraidd a bywyd cefn gwlad.

Casgliad Cymdeithas Kilvert -pethau cofiadwy sy'n ymwneud â'r Parch Francis Kilvert, y dyddiadurwr enwog o oes Fictoria.

Model Rhithwir - Hanes Basn Walton o gyfnodau ôl-rewlifol, Neolithig, Celtaidd / Rhufeinig, Clawdd Offa a'r Canoloesoedd ar ein model rhithwir rhyngweithiol arloesol.

Gwasanaeth Addysg

Ystafell amlgyfrwng

Adnoddau

Mae gan yr Amgueddfa gasgliad ffotograffig mawr sy'n dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg tan y presennol.  Gellir defnyddio'r adnodd poblogaidd hwn ar gyfer gwaith ymchwil.

Mae gan yr Amgueddfa ystafell ddigwyddiadau gyda system AV llawn.  Gallwch logi'r ystafell hon ar gyfer cyfarfodydd, darlithoedd a seminarau, ac mae'n dal hyd at drideg o bobl.  Am fanylion pellach, ffoniwch: - 

Ffôn:  01597 824513, Ffacs: 01597 825781 
radmus@powys.gov.uk 

Ymchwil

Cyfleusterau

Mae'r Amgueddfa'n cynnwys ystafell ymchwil y gallwch ei llogi, gyda llyfrgell gyfeirio sy'n cynnwys copiau o Radnorshire Society Transactions.  Mae yna gyfrifiadur gyda mynediad i'r Rhyngrwyd, meicrosgop, camera digidol, argraffydd lliw ac offer sganio.

Mae'r siop ar y llawr gwaelod ger y dderbynfa.

Mae modd i'r anabl fynd i bob ran o'r amgueddfa, a cheir lifft hefyd.   Gallwn hefyd gynnig gweithgareddau i blant.

Lle rydym ni.

Mae'r Amgueddfa yng nghanol Llandrindod yn ngerddi'r Coffa Rhyfel ger Gwesty'r Metropole.  Mae lle parcio tu ôl i'r Amgueddfa wrth fynd ar hyd ffordd Beaufort.

 

Map

Am ragor o wybodaeth ar sut i gyrraedd Llandrindod ac Amgueddfa Maesyfed, cliciwch isod :-

http://www.ordnancesurvey.co.uk/oswebsite/getamap/

Oriau Agor yr Amgueddfa

Oriau Agor

Haf:  Ebrill - Medi
Mawrth - Gwener: 10am - 4pm;
Sadwrn: 10am - 4pm;

GWYLIAU BANC 10am - 4pm

Sylwch: Bydd yr Amgueddfa ar gau ddydd Llun 27 Awst 2012


Gaeaf:
Hydref - Mawrth
Mawrth - Gwener: 10am - 4pm
Sadwrn: 10am -1pm


PRIS MYNEDIAD
Trigolion Powys: AM DDIM
Oedolion: £1.00;
Pensiynwyr: 50c
Plant: AM DDIM

Arddangosfeydd dros dro -

Mae gan yr Amgueddfa oriel arddangos dros dro gyda rhaglen amrywiol sy'n newid bob 8 - 10 wythnos,

Arteffactau'r Amgueddfa

Celf cain: Tirweddau Sir Faesyfed gan Thomas Jones, P.A.F. Villiers, J.M. Ince, llyfr brasluniau Catherine Lyonds.

Cyn Oes Rhufeinig: arfau fflint, cerrig ac efydd.

Rhufeinig: eitemau o gloddfa Castell Collen yn cynnwys gemwaith, teils a chrochenwaith.

Canol Oesol: Sheila-na-gig, pen corbel o Abaty Cwm-hir, ceufad a choffr derw, casgliad Llysdinam.

Oes Fictoria ac Edwardaidd: tecstiliau, gwisgoedd a sampleri, smoc Sir Faesyfed, baner Cymdeithas Gyfeillgar, Serameg, cawod bigog, siop fferyllydd, dillad a theganau plant, telyn deires John Robert, lluniau, sleidiau gwydr, cadair wiail, dodrefn, benthyciad gan Gymdeithas Kilvert. 

RSS