A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Amgueddfa Powysland

YR AMGUEDDFA

 

Sefydlwyd Clwb "Powysland" yn 1867 gan aelodau o'r Trallwng a'r ardal oedd â diddordeb mewn hanes, yn enwedig hanes Canolbarth Cymru. Roedd nifer ohonynt yn berchen ar gasgliadau o eitemau diddorol, a phenderfynwyd dod â'r arteffactau hyn i gyd at ei gilydd a sefydlu amgueddfa. Prynwyd darn o dir ar gornel "Red Bank" a Ffordd Amwythig, ac adeiladwyd amgueddfa - agorwyd yr amgueddfa yn 1874. Yn 1877, i nodi Jiwbilî'r Frenhines Fictoria, trosglwyddwyd yr amgueddfa i ymddiriedolaeth tref y Trallwng.

Trosglwyddwyd cyfrifoldeb am redeg yr amgueddfa i Gyngor Sir Powys yn 1974, ond yna yn ystod yr 1980au, daeth yn glir nad oedd yr hen adeilad yn gallu cwrdd â gofynion amgueddfa fodern. Cafodd y casgliad ei symud felly i gyn warws ar Gamlas Trefaldwyn - gwnaed gwaith adnewyddu helaeth a gofalus er mwyn cadw cymeriad yr adeilad, tra'n darparu amgylchedd diogel a chyfforddus i'r casgliad a'r ymwelwyr. Agorwyd yr amgueddfa newydd ar 30ain Mai 1990. Yn 1993, enillodd yr amgueddfa Wobr Gulbenkian yn y categori "yr amgueddfa sydd wedi gwneud y gwelliannau gorau mewn ardal wledig"

Curadur: Eva Bredsdorff

Amgueddfa Powysland, Glanfa'r Gamlas, Y Trallwng, Powys SY21 7AQ
Ffôn 01938 554656

Rheilffyrdd ym Mhowys

Y LLAWR GWAELOD

Mae'r arddangosfeydd yn dangos hanes a datblygiad bywyd yn Sir Drefaldwyn o oesoedd cynhanes hyd at boblogaeth yr 20fed ganrif. O fewn mynedfa'r amgueddfa, mae'r ymwelydd yn cael ei atgoffa o bwrpas gwreiddiol yr adeilad - sef warws. Ar y llawr gwaelod y mae arddangosfa o offer amaethyddol, offer ffermio da byw a ffermio llaeth, sydd yn adlewyrchu rhan sylfaenol y diwydiant amaeth yn nhwf economi a chymdeithas yr ardal ers y dyddiau cynharaf oll. Mae casgliadau hefyd yn dangos datblygiad y gamlas a'r rheilffyrdd sydd hefyd wedi dylanwadu'n fawr ar gymeriad y sir.
Mae arddangosfa o hen luniau a mapiau yn rhoi cyflwyniad lliwgar i'r Trallwng a Sir Drefaldwyn.  O'r ail ystafell ar y llawr gwaelod, mae ymwelwyr yn gallu defnyddio'r grisiau neu'r lifft i gyrraedd y llawr cyntaf. Mae'r arddangosfeydd yn newid yn yr ystafell hon.

Y Llawr Cyntaf

Y LLAWR CYNTAF

Mae'r arddangosfeydd yn yr oriel archeolegol yn dechrau gyda hanes y casgliadau a'r amgueddfa. Maent yn symud ymlaen wedyn i ganolbwyntio ar hanes Sir Drefaldwyn ac yn tywys ymwelwyr ar daith gronolegol o'r ffermwyr cyntaf yn y cyfnod Neolithig, trwy'r Oesoedd Efydd a Haearn, cyfnod y Rhufeiniaid, ymosodiadau'r Llychlynwyr, a thwf Cristnogaeth. Mae'r canfyddiadau Archeolegol yn cynnwys rhai aelodau Clwb "Powysland" a rhai o gloddiadau gwyddonol mwy diweddar ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys.

Gwaith y cowper
Gwaith y cowper

Yn yr Oriel ar Hanes Cymdeithasol, mae arddangosfeydd ar nifer o agweddau ar fywyd yn y 19eg a'r 20fed ganrif, gan gynnwys arddangosfeydd ar waith y cowper a'r crydd, Gwyr Meirch Iwmyn Sir Drefaldwyn, y Rhyfel Byd Cyntaf, tecstilau, cegin oes Fictoria, a'r Ail Ryfel Byd, i grybwyll ond ychydig o'r hyn sy'n cael ei arddangos.

Mae Llwybr y Gamlas hefyd ar gael ar gais, ynghyd â Llwybr y Dref, sy'n cynnwys Talwrn unigryw'r Trallwng.

ORIAU AGOR

Trwy'r flwyddyn

Dydd Llun:  11am-1pm a 2-5pm
Dydd Mawrth:  11am-1pm a 2-5pm
Dydd Mercher:  Ar gau
Dydd Iau:  11am-1pm a 2-5pm
Dydd Gwener:  11am-1pm a 2-5pm

Haf (Mehefin - Awst)

Dydd Sadwrn:  10am-1pm a 2-5pm
Dydd Sul: 10am-1pm a 2-5pm

Gaeaf (Medi - Mai)

Dydd Sadwrn   11am-2pm

PARCIO

Gellir parcio yn y strydoedd a'r meysydd parcio gerllaw. Gall pobl anabl barcio ger yr Amgueddfa.

YMWELWYR ANABL

Mae toiled a lifft er defnydd ymwelwyr anabl. Mae mynediad i'r holl ardaloedd arddangos.

ARDDANGOSFEYDD

Mae'r Amgueddfa yn cynnal nifer o arddangosfeydd dros-dro, megis yr Arddangosfa Hetiau a 'What's hatching at the Museum?' yn 2002, George Best yn 2003 a Caroline Mathilde yn 2004.

YMHOLIADAU

Gellir gadael ymholiadau a gwrthrychau i'w hadnabod yn yr Amgueddfa, a byddwn yn ymdrin â hwy cyn gynted ag sy'n bosibl.

GRWPIAU

Croesewir dosbarthiadau ysgol a phartion eraill. Gellir trefnu sgyrsiau, teithiau, taflenni gwaith a sesiynau ymarferol trwy gais o flaen llaw.

RSS