A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Oriel Gelf ac Amgueddfa Brycheiniog

Gwaith to yn Amgueddfa Brycheiniog Ionawr 2013
Gwaith ar y to blaen Ionawr 2013

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog ar gau i ymwelwyr ar hyn o bryd, ond mae ein gwaith yn parhau...

Rydym yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned leol trwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, er enghraifft Llyfrgell Aberhonddu, Cadeirlan Aberhonddu a Theatr Brycheiniog. Mae manylion y digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol yn Amgueddfa Brycheiniog yma.
 
Mae ein Gwasanaeth Addysg i ysgolion yn parhau i fod ar gael ar sail ymweliadau allanol.  Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â mudiadau eraill, megis Llyfrgell Aberhonddu a Theatr Brycheiniog, i gynnig digwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau i deuluoedd.

Tra bod yr Amgueddfa ar gau mae mynediad cyfyngedig i'r casgliadau yn golygu mai dim ond gwasanaeth ymholiadau cyfyngedig sydd ar gael i'r cyhoedd trwy llinell ffon yr Amgueddfa neu drwy'r rhyngrwyd/e-bost.   A fyddech gystal â nodi ei fod yn hanfodol i wneud apwyntiad cyn ymweld.  Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnal ein safonau ond byddwn yn gwerthfawrogi eich amynedd. 

Yn Aberhonddu, gallwn argymell ymweliad ag Amgueddfa Catrawd Frenhinol Cymru a Chadeirlan Aberhonddu. Am fanylion Amgueddfeydd ym Mhowys, cliciwch yma.

Cydleoli Amgueddfa Brycheiniog a Llyfrgell Aberhonddu

I weld y cynlluniau diweddaraf ar gyfer cydleoli Amgueddfa Brycheiniog a Llyfrgell Aberhonddu a chael cyfle i ddweud eich dweud cliciwch yma.

 

Ffilm Ailddatblygu

Cliciwch yma i weld ffilm fer am ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

 

'David Jones between the wars - the years of achievement'

Digwyddiad NADFAS/ArtFund yn Theatr Brycheiniog 2013

Ar 8 Ionawr 2013, cyflwynodd Cronfa Gelfyddyol Powys a Chymdeithas Celfyddyd Gain ac Addurniadol Brycheiniog ffilm gan Derek Shiel ac Adam Alive yn Theatr Brycheiniog.

Cyflwynwyd ‘David Jones between the wars – the years of achievement’, ffilm newydd ar y arlunydd a'r bardd a oedd yn cydoesi ag Eric Gill, gan Derek Shiel a William Gibbs.  Cafodd chwech o weithiau Jones o gasgliad Amgueddfa Brycheiniog eu harddangos:

Portread o Petra Gill (Dyfrlliw 1927)

The Orchard, Capel-y-ffin (Dyfrlliw 1924-8)

Petra before Christ/Christ in the Garden (Gouache 1925)

Putting out the Washing/Hanging out the Washing (Dyfrlliw 1924-8)

Horses in a Meadow (Dyfrlliw 1926)

Y Twmpa (Dyfrlliw 1926)

Mae'r ffilm yn dangos Jones yn ymuno â'r gymuned torri ffosydd, ei drosi i Gatholigiaeth Rufeinig a'i lwyddiant fel arlunydd ac engrafwr. Mae'n cyffwrdd ar ei gyfnod o chwalfa nerfau (1932-1934) a'r diddordeb a ddatblygodd mewn ysgrifennu barddoniaeth. Mae'n archwilio ei berthynas hefyd gydag Eric Gill a'i ddylanwad cryf ar eu cyfeillgarwch.  Yn llawn o ddelweddau o'i waith a lleoedd sydd wedi ysbrydoli ei gelfyddyd, mae'r ffilm yn llawn o gyfweliadau manwl gydag arlunwyr, ffrindiau, beirniaid a haneswyr gan gynnwys Frances Spalding, Dr Rowan Williams a David Alston. Mae'r canlyniad yn olwg diddorol tu hwnt ar fywyd a gwaith un o brif arlunwyr mwyaf Prydain o'r Ugeinfed Ganrif.

 

BBC Your Paintings

Logo BBC Your Paintings

Gwefan yw BBC Your Paintings sy’n ceisio dangos holl gasgliad cenedlaethol y DG o luniau olew, hanesion y lluniau a lle i fynd i’w gweld nhw’n go iawn.  Mae’n cynnwys lluniau o filoedd o amgueddfeydd a sefydliadau cyhoeddus ar hyd a lled y wlad.


Mae’n bleser gan Amgueddfa Brycheiniog gyhoeddi bod lluniau o’i holl gasgliadau o luniau olew ac acrylig (cyfanswm o 115) wedi’u hychwanegu at wefan Your Paintings. Mae ein casgliad yn cynnwys gwaith mor amrywiol â llun o’r ddeunawfed ganrif o Joseph Russell Bailey (1840 - 1906) gan John Collier, i waith gan arlunwyr cyfoes megis ‘Miner with Dog’ gan Josef Herman.

 

BBC Hanes y Byd mewn 100 Gwrthrych

Mae 'Hanes y Byd' yn bartneriaeth wasanaeth cyhoeddus unigryw rhwng yr Amgueddfa Brydeinig, y BBC ac amgueddfeydd ar draws y wlad.

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog wedi llwytho delweddau o'i gasgliad ei hun.  Trwy fynd i'r wefan byddwch yn gallu gweld y gwrthrychau a darllen gwybodaeth amdanynt.

http://www.bbc.co.uk/ahistoryoftheworld/

(copy 1)

Logo Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog

 

Manylion Cysylltu

Oriel Gelf ac Amgueddfa Brycheiniog
Rhodfa'r Capten
Aberhonddu
Powys
LD3 7DS

Ffôn: 01874 624121 

e-bost: brecknock.museum@powys.gov.uk

Oriau Agor Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog

Oriau ar gyfer cysylltu â'r Amgueddfa yw dydd Llun i ddydd Gwener 9am - 5pm.

Logo/dolen BBC Your paintings
Logo Amgueddfa wedi'i Hachredu

(copy 7)

dilynwch ni ar twitter

 

(copy 9)

dilynwch ni ar twitter

 

 

Logo Flickr
RSS