A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y

Yng Nghymru a Lloegr, gall priodas neu bartneriaeth sifil ddigwydd mewn Swyddfa Gofrestru neu mewn adeilad a gymeradwywyd ar gyfer Priodasau Sifil a Phartneriaethau Sifil.
Er mwyn trefnu Priodas Sifil neu Bartneriaeth Sifil, bydd angen i chi a'ch partner roi Rhybudd o Briodas/Partneriaeth Sifil yn gyntaf i'r Cofrestrydd lle'r ydych yn byw. Os ydych yn priodi mewn Capel neu Eglwys nad yw yr Eglwys yn Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru bydd angen i chi roi Rhybudd o Briodas i'r Cofrestrydd. Bydd angen i chi gyflwyno'r dogfennau canlynol:
a) Pasbort Prydeinig dilys neu fersiwn llawn o'ch tystysgrif geni Brydeinig; (mae hyn i gadarnhau eich cenedligrwydd a hefyd i ddangos eich bod dros 18 oed. Os ydych rhwng 16 a 18 oed, byddwch angen caniatâd rhiant)
b) Os bydd y naill un ohonoch wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil o'r blaen, bydd angen i chi ddod â'r Archddyfyniad Terfynol (decree absolute) gwreiddiol neu dystysgrif marwolaeth eich cyn wr neu wraig / partner. Bydd angen i chi hefyd ddod â'r dystysgrif briodas / partneriaeth.
c) Tystiolaeth o le'r ydych yn byw e.e. datganiad banc, llyfr Cymdeithas Adeiladu, bil cyfleustodau neu drwydded yrru
d) £35.00 yw'r ffi statudol na ellir ei dalu'n ôl ar gyfer pob Rhybudd o Briodi/ Rhybudd o Bartneriaeth Statudol.
Saith diwrnod yw lleiafswm y cyfnod preswylio yn yr ardal lle'r ydych yn rhoi eich Rhybudd o Briodi/Rhybudd o Bartneriaeth Sifil. Bydd y Rhybuddion yn ddilys am flwyddyn o'r diwrnod y cawsant eu cyhoeddi. Wedi iddynt gael eu cyhoeddi, byddant yn cael eu harddangos ar yr hysbysfwrdd yn Swyddfa Gofrestru Powys, Llandrindod am 16 diwrnod cyfan. Os nad oes unrhyw wrthwynebiadau cyfreithiol i'r briodas, bydd yr awdurdod er mwyn i'ch priodas neu bartneriaeth sifil fynd yn ei flaen yn cael ei gyhoeddi.
Os nad ydych yn wladolyn Prydeinig, neu os ydych yn priodi rhywun nad yw'n wladolyn Prydeinig, cysylltwch â'r Cofrestrydd Arolygol a all eich cynghori ymhellach, gan y gall rheoliadau gwahanol fod yn berthnasol.
Dylai parau sy'n destun rheolaeth mewnfudo, ac sy'n dymuno priodi neu gofrestru partneriaeth sifil yn y Deyrnas Gyfunol chwilio am gyfarwyddyd ar wefan Asiantaeth Ffiniau'r DG (www.ind.homeoffice.gov.uk) neu ffonio 0870 606 7766.Â
Gall pobl sy'n destun Rheolaeth Mewnfudo roi Rhybudd o Briodi/Rhybudd o Bartneriaeth Sifil mewn Swyddfeydd Cofrestru dynodedig yn unig. Ym Mhowys, lleolir y swyddfa yma yn Llandrindod. Mae swyddfeydd dynodedig eraill wedi'u lleoli yn Yr Amwythig, Aberystwyth, Abertawe, Caerdydd a Chaerloyw.
Mae'n ddyletswydd statudol ar Swyddogion Cofrestru i roi gwybod am unrhyw briodas y credant sydd wedi'i threfnu dim ond at ddiben osgoi rheolaeth mewnfudo statudol.
Fe fyddwch angen dau dyst ar gyfer eich priodas neu bartneriaeth. Polisi Cyngor Sir Powys yw dylai'r tystion fod yn 18 oed neu hyn. Os oes angen dehonglydd, bydd rhaid iddynt hefyd weithredu fel tyst.Â
Gan fod ein Cofrestrwyr yn cynnal sawl seremoni ar yr un diwrnod fel arfer, noder os byddwch yn hwyr ar gyfer eich seremoni y bydd rhaid ei gwtogi o bosibl er mwyn caniatau ei gwblhau a rhoi digon o amser i'r Cofrestrwyr i deithio i'w hapwyntiad nesaf.
|
|
370 K |
I weld manylion safleoedd cymeradwy ym Mhowys, cliciwch ar y dolenni isod.
I weld safleoedd cymeradwy yng ngogledd Powys, cliciwch ar y ddolen yma.
I weld safleoedd cymeradwy yng nghanolbarth powys, cliciwch ar y ddolen yma.
I weld safleoedd cymeradwy yn ne Powys, cliciwch ar y ddolen yma.
|
|
370 K |

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:
Gallwch lawrlwytho copiau o'n canllawiau diweddaraf a ffurflenni cadw lle o flaen llaw ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil trwy ymweld â'r dudalen hon.
Â
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais ar-lein.
Os ydych yn ddeiliad Prydeinig ac yn bwriadu cynnal seremoni dramor, dylech gysylltu â Llysgenhadaeth neu Swyddfa Is-gennad y wlad dan sylw a gofyn beth yw eu gofynion cyfreithiol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn diwallu gofynion cyfreithiol y wlad honno.
Efallai y bydd gofyn i chi gael "Tystysgrif o Ddim Rhwystr" ("Certificate of No Impediment"). Mae hyn yn gofyn i chi roi rhybudd cyfreithiol yn y ffordd arferol a bydd y Dystysgrif o Ddim Rhwystr yn cael ei chyhoeddi ar ddiwedd y cyfnod aros. Efallai y bydd rhai gwledydd yn gofyn am gyfieithiad o'r ddogfen neu iddi gael ei dilysu. Mae rhagor o gyngor ar y pwnc hwn ar gael oddi wrth y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad. (www.fco.gov.uk/legalisation).
Petaech yn profi unrhyw anhawster gyda'ch trefniadau pan fyddwch yn cyrraedd, dylech ofyn am gyngor eich swyddfa is-gennad Prydeinig agosaf.
Os ydych yn dymuno cynnal eich priodas neu bartneriaeth sifil trwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â ni fel y gellir gwneud trefniadau i Gofrestrydd cyfrwng Cymraeg fynychu.