A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Addysg Cyn Oed Ysgol (Blynyddoedd Cynnar)

Llun plentyn yn chwarae

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Powys yn darparu gwybodaeth gyfrinachol, ddiduedd yn rhad ac am ddim i rieni a gofalwyr am ofal plant a gwasnaethau cysylltiedig ym Mhowys i blant rhnwg 0 a 25.

Gwybodaeth a chyngor am y dewisiadau gofal plant:

  •   Gwarchodwyr plant
  •   Meithrinfeydd dydd
  •   Cylchoedd chwarae / Cylchoedd Meithrin
  •   Grwpiau Rhieni a Phlant bach / Ti a Fi
  •   Clybiau brecwast, Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau

Rhan o Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a Phobl Ifanc Powys yw'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

fis.powys.gov.uk

Rhif Ffôn:  0845 130 3839 (Cymraeg)

Os hoffech dderbyn rhagor o wybodaeth ynghylch Gofal Plant a dysgu Blynyddoedd Cynnar, llenwch y ffurflen isod, ac fe wnawn gysylltu â chi .

Drwy yrru'r ffurflen hon 'rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen ac yn derbyn y datganiad preifatrwydd isod

Dangos/Cuddio Datganiad Preifatrwydd

Datganiad Preifatrwydd

Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn y cyfrifoldebau canlynol am wybodaeth bersonol a gofnodir drwy’r dudalen we hon:-

  1. Defnyddir yr wybodaeth am y rheswm a gytunwyd ac edrychir ar ei hôl yn ddiogel
  2. Cedwir yr wybodaeth am gyhyd ag sy’n angenrheidiol yn unig neu i gydymffurfio â gofynion statudol ac yna bydd yn cael ei dinistrio yn ddiogel.
  3. Os oes angen rhannu eich gwybodaeth gydag asiantaethau eraill bydd yr adran neu’r gwasanaeth dan sylw yn gofyn am ganiatâd penodol (wedi ei arwyddo) cyn gynted â phosibl oni bai ei bod yn ofynnol i ni yn ôl y ddeddf ddatgelu’r wybodaeth.

Gellir canfod gwybodaeth fanwl ar ein tudalennau gwe Rhyddid Gwybodaeth neu gan y Tîm Rheoli Gwybodaeth.

Addysg a Gweithgareddau

Chwilio am Addysg a Gweithgareddau Blynyddoedd Cynnar

Chwarae ac Iaith / Chwarae a Rhif

Mae rhaglenni LAP-NAP AM DDIM ac yn llawn HWYL!

Mae yna wahoddiad cynnes i rieni a gofalwyr sydd â babanod a phlant bach i ddod i ymuno â Rhaglenni LAP a NAP sy'n cael eu cynnal mewn nifer o leoliadau ym Mhowys.
Rhagor o wybodaeth

llun yn dangos chwarae

Chwilio am Ofal Plant

Dod o hyd i ofal plant yn eich ardal ar wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Logo FIS
RSS