A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Ysgolion Arbennig a Chanolfannau Arbenigol
Â
Bydd angen elfen arbennig mewn addysg rhai plant yn ystod eu gyrfa ysgol gyfan neu ran ohoni i'w galluogi i oresgyn anhawster addysgol. Â
Deillir y prif broblemau o nam ar y golwg, nam ar y clyw, anawsterau cyfathrebu, anableddau corfforol ac anawsterau dysgu gwahanol.Â
Bydd yr angen, yn fwy aml na pheidio, wedi'i ddarganfod cyn i'r plentyn ddechrau ysgol. Ar ôl ymgynghori â rhieni ac wedi ystyriaeth ofalus gan seicolegwyr addysgol ac eraill, efallai bydd y plentyn yn cael cynnig lle mewn dosbarth cyffredin yn yr ysgol leol, mewn canolfan arbenigol cyn ysgol, mewn canolfan arbenigol cynradd neu mewn ysgol arbennig. Bydd rhieni yn cael eu cynnwys yn y trafodaethau am y ddarpariaeth fwyaf addas i'w plentyn.
Pan mae angen, cyfrifoldeb y Gwasanaeth Anghenion Addysgol Arbennig yw asesu dwyster yr angen. Maent yn cydweithio'n agos ag asiantaethau eraill, yn enwedig y Gwasanaeth Iechyd Ysgolion, ac mae'n asesu dwyster yr angen trwy'r prosesau Asesu Statudol. Lle'n briodol, bydd Datganiad yn cael ei ddarparu yn unol â Chod Ymarfer AAA Cymru gan yr Awdurdod.
Ar hyn o bryd, cynhelir tair ysgol arbennig gan yr Awdurdod Addysg ym Mhowys :-
Ysgol Cedewain, Y Drenewydd ac Ysgol Penmaes, Aberhonddu
Mae'r ddwy ysgol hyn yn ysgolion arbennig cydaddysgol sy'n gwasanaethu Gogledd a De Powys. Mae'r ysgolion yn darparu ar gyfer disgyblion sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog ac anawsterau cyfathrebu dwys.
Ysgol Brynllywarch, Ger Y Drenewydd
Ysgol breswyl arbennig cydaddysgol Ysgol Brynllywarch sy'n darparu ar gyfer disgyblion sydd ag anawsterau dysgu canolradd a rhai sydd ag anawsterau emosiynol ac ymddygiad ysgafn yn y sector cynradd ac uwchradd.
Â
Yn ogystal mae yna ganolfannau arbenigol sy'n darparu gwasanaethau arbennig mewn rhai ysgolion cynradd yn Ystradgynlais, Aberhonddu, Crughywel, Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Llanidloes, Tref-y-clawdd, Y Trallwng, Machynlleth a'r Drenewydd. Ceir canolfannau arbenigol cyn ysgol yn Aberhonddu, Llandrindod, Y Drenewydd ac Ystradgynlais.
Ceir Unedau Aspergers arbenigol yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Ysgol Uwchradd Llandrindod ac Ysgol Uwchradd Llanidloes. Mae'r unedau hyn yn cynnig darpariaeth arbenigol i ddisgyblion sydd wedi cael diagnosis o Syndrome Aspergers.
Lle mae'n briodol, mae'r Awdurdod yn gwneud defnydd o ysgolion arbennig a gynhelir gan awdurdodau eraill, ysgolion arbennig nas gynhelir ac ysgolion annibynnol. Ystyrir pob plentyn yn unigol ac ymgynghorir yn llawn â rhieni.
Yn gyffredinol, polisi'r Awdurdod yw darparu addysg arbennig cyn agosed i gartref y plentyn ag sy'n bosibl, ac mewn achosion priodol, byddwn yn gwneud darpariaeth iddynt mewn ysgolion prif ffrwd ond bydd anghenion pob plentyn yn cael ei ystyried yn unigol.
Â
Nod yr Awdurdod yw darparu ar gyfer plentyn sydd â nam ar y synhwyrau yn ei gymuned ei hunan lle'n bosibl. Fel arfer, bydd disgyblion sydd â nam ar y clyw neu nam ar y golwg yn derbyn cymorth mewn ysgolion prif ffrwd gan nifer o athrawon arbenigol ac ystod o staff cymorth. Mewn achosion priodol bydd trefniadau'n cael eu gwneud i'r plentyn fynychu ysgol breswyl.
Cyfeiriad E-bost: pupil.inclusion@powys.gov.uk
Teleffon: 01597 826715
Cyfeiriad:
Tîm Cynhwysiant Disgyblion
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
|
|
Â
I weld copi o 'God Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2002', a gymrodd le'r 'Côd Ymarfer ar ddynodi ac asesu anghenion addysgol arbennig':
Cliciwch Yma (Cymraeg)
Cliciwch Yma (Saesneg)Â
Os yw eich plentyn wedi cael ei gyfeirio at Seicolegydd Addysg, mae'r gwasanaeth yn rhoi taflenni i chi a'ch plentyn i'w darllen. Cliciwch ar y dolenni isod i lawrlwytho'r taflenni.
Gwybodaeth i Rieni a Chynhalwyr
Dangos/Cuddio Datganiad Preifatrwydd
Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn y cyfrifoldebau canlynol am wybodaeth bersonol a gofnodir drwy’r dudalen we hon:-
Gellir canfod gwybodaeth fanwl ar ein tudalennau gwe Rhyddid Gwybodaeth neu gan y Tîm Rheoli Gwybodaeth.