A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Dangos/Cuddio Datganiad Preifatrwydd
Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn y cyfrifoldebau canlynol am wybodaeth bersonol a gofnodir drwy’r dudalen we hon:-
Gellir canfod gwybodaeth fanwl ar ein tudalennau gwe Rhyddid Gwybodaeth neu gan y Tîm Rheoli Gwybodaeth.
Fel Cyngor, mae'n bwysig ein bod yn dilyn arfer da, ond hefyd yn dysgu o'n camgymeriadau. Felly, byddwn yn ystyried pob gwyn, sylwadau a chanmoliaeth o ddifrif. Mae hyn yn golygu :
Rydym eisiau cael adborth, p'un ai os yw hynny'n bositif neu negatif. Os nad ydych yn hapus gyda'r Cyngor mae'n bwysig ein bod yn clywed gennych cyn gynted â phosibl.
Ein nod yw datrys problem cyn gynted â mor effeithiol â phosibl. Mae'n well delio â chwynion yn syth. Lle'n bosibl, trafodwch eich cwyn gyda'r swyddog lleol yr ydych yn delio â hwy. Yn y mwyafrif o achosion gellir datrys y broblem yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, os na ellir datrys y broblem yn anffurfiol, gofynnwch i gael sgwrs gyda Swyddog Cwynion y gwasanaeth perthnasol, neu llenwch ein ffurflen Gwynion a Chanmoliaeth.
Pan fydd eich cwyn yn dod i law, bydd y Swyddog Cwynion yn cydlynu ymchwiliad i'ch cwyn ar y cyd ag Uwch Swyddog neu Grwp Gyfarwyddwr. Bydd ymateb yn cael ei anfon o fewn deg diwrnod gwaith. Os oes angen ymateb mwy manwl byddwn yn cydnabod eich cyfathrebiad o fewn 5 diwrnod gwaith o'i dderbyn a'n nod fydd i anfon ymateb llawn o fewn 20 diwrnod gwaith. (Gweler isod ar gyfer Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol neu Ysgolion.) Â
Mae gan rai gwasanaethau gweithdrefnau gwahanol ar gyfer delio â chwynion. Bydd rhai o'r gweithdrefnau hyn wedi'u sefydlu gan y Llywodraeth Ganolog :
Os oes gennych unrhyw gwynion, sylwadau neu ganmoliaeth ynglyn ag unrhyw fater yn ymwneud â chydraddoldeb (cefndir ethnig, hil, rhyw, oed, anabledd, crefydd / cred, cyfeiriadedd rhywiol neu iaith) Defnyddiwch ein ffurflen Gwynion a Chanmoliaeth, ond gadewch i ni wybod bod y gwyn yn ymwneud â chydraddoldeb.
O dan y Ddeddf Addysg 2002, mae gofyn i gyrff llywodraethol sefydlu a chyhoeddi gweithdrefnau cwynion. Os ydych yn dymuno gwneud cwyn ynglyn ag ysgol, dylech ofyn am gopi o weithdrefn gwynion y cyrff llywodraethol. Dylid gwneud unrhyw gwynion yn unol â'r gweithdrefnau hynny.
Bydd cwynion ynglyn â'r gwasanaethau hyn yn cael eu trin o dan drefniadau statudol arbennig, ond gellir cychwyn y broes trwy lenwi ein ffurflen Gwynion a Chanmoliaeth neu drwy gysylltu â'r Gwasanaethau CwsmerGwasanaethau Cwsmer.
Gallwch lenwi'r ffurflen Gwynion a Chanmoliaeth ar-lein, neu gallwch ei hargraffu o'r fan yma a'i dychwelyd at yr Uned Gwasanaethau Cwsmer.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, gallwch gysylltu â ni mewn nifer o ffyrdd :
Dywedwch wrth yr aelod o staff yr ydych yn delio â hwy,
Cysylltwch â
Gwasanaethau Cwsmer yn Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, LD1 6AA.Â
Rhif ffôn: 0845 602 7040 /01597 827472 Ffacs: 01597 827276
ebost, haveyoursay@powys.gov.ukhaveyoursay@powys.gov.uk
Ysgrifenwch at bennaeth y gwasanaeth perthnasol neu Grwp Gyfarwyddwr,
Gwnewch sylwadau anffurfiol trwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein isod,
Gwnewch gwyn neu rhowch ganmoliaeth swyddogol.
Os nad ydych yn gallu datrys eich cwyn gyda'r Cyngor, efallai y byddwch yn dymuno i fynd â'r mater at eich Ombwdsmon Llywodraeth Leol (gweler isod ar gyfer y manylion)
Os nad ydych yn fodlon ag ymateb y Cyngor i'ch cwyn gallwch gyfeirio'r mater at yr Ombwdsman Llywodraeth Leol Annibynnol yn y cyfeiriad canlynol :
Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: 01656 641150
Ffacs:Â 01656 641199
E-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk
Gwefan: http://www.ombudsman-wales.org.uk/content.php?nID=1;lang=2
Noder - newidiwyd y manylion cysylltu hyn ym mis Mehefin 2006.
Cyfeiriad E-bost: customer@powys.gov.uk
Teleffon: 0845 602 7030
Ffacs: 01597 827276
Cyfeiriad:
Gwasanaethau Cwsmer
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA