A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Yng Nghymru, mae addysg statudol yn dechrau y tymor ar ôl penblwydd plentyn yn bump oed, er bod llawer o blant yn dechrau'n gynt na hyn.
Rhennir addysg plant rhwng 3-11 oed yn dri prif gyfnod y cyfeirir atynt fel:
Blynyddoedd cynnar
Mae'r term 'Blynyddoedd Cynnar' yn ymdrin â'r cyfnod cyn addysg gynradd orfodol, pan mae plant rhwng 3-5 oed.
Mae athrawon ysgolion meithrin, arweinwyr grwpiau chwarae ac eraill sy'n ymwneud â Blynyddoedd Cynnar yn cynllunio'u gweithgareddau i gyd-fynd â dysgu mewn chwe maes allweddol. Nodir pa rai ydynt a cheir esboniad amdanynt yn y llyfryn 'Canlyniadau Dymunol i Ddysgu Plant Cyn Oedran Addysg Orfodol'.
Y cwricwlwm ysgol
Mae'n ofynnol i ysgolion Cymru, yn ôl y gyfraith, addysgu'r cwricwlwm sylfaenol a'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Rhennir chwe blynedd y cyfnod cynradd yn ddau gyfnod allweddol. Mae Cyfnod Allweddol 1 yn ymwneud â'r ddwy flynedd rhwng 5-7 oed a Chyfnod Allweddol 2 â'r pedair blynedd o 7-11 oed.
Mae'r cwricwlwm sylfaenol yn cynnwys addysg grefyddol (AGr) ac addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh). Hefyd, mae'n ofynnol i ysgolion cynradd feddu ar bolisi addysg rhyw.
Yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2 cynhwysir y canlynol:Â
*Nid oes gofyniad statudol i addysgu Saesneg yng Nghyfnod Allweddol 1 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Asesu
Asesir plant yn statudol wrth iddynt ddechrau yn y Dosbarth Derbyn neu Flwyddyn 1 er mwyn sefydlu eu man cychwyn a cheir asesiadau statudol pellach ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 1 a 2.
Yng Nghyfnod Allweddol 1, asesir disgyblion ym mhynciau craidd y Cwricwlwm Cenedlaethol gan eu hathrawon.
Yng Nghyfnod Allweddol 2, mae'r profion a'r tasgau yn ddewisol ers 2005. Ceir asesiad athrawon statudol yn y pynciau craidd.
Gellir cael rhagor o wybodaeth o wefan Cynulliad Cymru.
Yn ôl y gyfraith, mae gofyn i Ysgolion Uwchradd yng Nghymru ddysgu'r Cwricwlwm sylfaenol a'r Cwricwlwm cenedlaethol i'w disgyblion. Rhennir y pum mlynedd o'r cyfnod uwchradd yn ddau gyfnod allweddol. Mae Cyfnod Allweddol 3 yn ystod y cyfnod oedran 11 - 14 oed, a Chyfnod Allweddol 4 y ddwy flynedd o 14 - 16 oed.
Mae'r cwricwlwm sylfaenol yn cynnwys addysg grefyddol, addysg rhyw, ac addysg bersonol a chymdeithasol, ac o Fedi 2004, bydd yn cynnwys addysg i blant rhwng 14 - 16 oed yn ymwneud â byd gwaith. Rhaid i ysgolion darparu addysg gyrfaoedd ac arweiniad i bob plentyn rhwng 13 - 16 oed.
Yng Nghyfnod Allweddol 3, mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys :
Yng Nghyfnod Allweddol 4, dim ond pum pwnc y Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n orfodol :
Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion i ddarparu pynciau dewisol sy'n cwrdd ag anghenion, diddordebau a dyheadau disgyblion. Mae'r mwyafrif o ddysgwyr yn y cyfnod allweddol hwn yn dilyn cyrsiau sy'n arwain at gymwysterau allanol, TGAU yn bennaf.
Asesu a chymwysterau
Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, mae gofynion asesu statudol i bob plentyn 14 oed. Rhaid i ddisgyblion sefyll profion statudol yn y pynciau craidd, Saesneg, Mathemateg a gwyddoniaeth ac ar gyfer disgyblion sy'n astudio Cymraeg fel mam iaith. Mae hefyd asesiadau statudol gan athrawon o berfformiad disgyblion ym mhob pwnc y Cwricwlwm Cenedlaethol, pynciau craidd a'r rhai nad ydynt yn bynciau craidd.
Yng Nghyfnod Allweddol 4, er nad oes unrhyw ofyn cyfreithiol i gofrestru disgyblion am arholiadau TGAU ym mhynciau y Cwricwlwm Cendlaethol, mae'r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes yn disgwyl i gyrff llywodraethol i gofrestru disgylion ar gyfer yr arholiadau perthnasol, lle byddai disgwyl iddynt gyraedd Gradd G neu'n uwch.
Cyfeiriad E-bost: school.improvement@powys.gov.uk
Teleffon: 01597 826117
Cyfeiriad:
Gwasanaeth Gwella Ysgolion
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
Â
Dangos/Cuddio Datganiad Preifatrwydd
Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn y cyfrifoldebau canlynol am wybodaeth bersonol a gofnodir drwy’r dudalen we hon:-
Gellir canfod gwybodaeth fanwl ar ein tudalennau gwe Rhyddid Gwybodaeth neu gan y Tîm Rheoli Gwybodaeth.