A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

Athrawon a Staff Ysgolion

delwedd dwylo yn dal y Ddaear

Cynaliadwyedd / Dinasyddiaeth Fyd-eang

Ni ddylid cyfyngu Addysg o Ansawdd ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang i'r dosbarth nac i un athro.  Dylid ei gynnwys o fewn y cwricwlwm cyfan, mewn gwaith rheoli, llywodraethwyr ac addysgwyr yr ysgol, ac nid fel pwnc 'ychwanegol' yn unig.  Mae'n cynnwys partneriaethau mae'r ysgol yn ei chreu â mudiadau a'r gymuned leol.  Mae ei wreiddiau wedi'u plannu mewn addysg amgylcheddol ac addysg ddatblygu.

Cliciwch yma am ddewis mawr o adnoddau a gwybodaeth 

 

llun o hen ystafell ysgol

Amgueddfa Powysland

Trefnwch i logi ein HYSTAFELL DDOSBARTH FICTORAIDD ac o GYFNOD Y RHYFEL yn Amgueddfa Powysland, profiad bythgofiadwy i'r disgyblion!

Mae lle i hyd at 15 o blant yn yr ystafell ddosbarth, felly gall grwpiau ysgol o hyd at 30 trefnu i gael sesiwn yn y bore neu'r prynhawn. Tra bod hanner y grwp yn profi'r ystafell ysgol, bydd gweddill y grwp yn edrych ar gasgliad Fictoraidd yr amgueddfa, trin â thrafod yr arteffactau Fictoraidd a gwneud y cwis am y casgliad parhaol.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth gan Amgueddfa Powysland

 

delwedd

Amgueddfa Sir Faesyfed

Bydd ysgolion yn cael eu hannog i ddod i'r amgueddfa yn rhad ac am ddim i ddefnyddio'r adnoddau, ond gwerthfawrogwn bod costau ac anawsterau ynghlwm wrth drefnu trafnidiaeth, felly mae gennym amrywiaeth fawr o gasgliadau y mae modd eu trin a'u trafod, a gall y swyddog addysg ddod â'r rhain i'ch ysgol.  Byddwn yn codi £20 am hanner diwrnod am y gwasanaeth yma.

Byddwn yn cynnig cynllun gwaith i blant sy'n derbyn addysg blynyddoedd cynnar a Chyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 mewn amrywiaeth o themâu hanesyddol, gwyddonol a daearyddol.   Mae pecynnau taflenni gwaith y gallwch eu llungopïo ar gael i gyd-fynd â phob thema.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth gan Amgueddfa Sir Faesyfed

 

logo ysgolion eco

Ysgolion Eco

Mae yna swyddogion Ysgolion Eco sy'n gyfrifol am wahanol ardaloedd o Gymru, ffoniwch y bencadlys i ddarganfod yr un sydd agosach atoch chi. Ffoniwch: 02920 256767

Mae bron i bob ysgol ym Mhowys wedi'i chofrestru ar y rhaglen Ysgolion Eco ac mae dros hanner o'r ysgolion hyn wedi derbyn gwobrau efydd ac / neu arian.  Erbyn diwedd blwyddyn ysgol 2007, bydd dros 20% wedi ennill y Faner Werdd nodedig.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth a chymorth

 

Bin ailgylchu

Biniau Ailgylchu a Banciau Papur

Mae Rheoli Gwastraff Cyngor Sir Powys wedi cyflenwi biniau ailgylchu dan do i ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd staff, ystafelloedd cyffredin ac ystafelloedd bwyta holl ysgolion Powys.   Bu llawer o'r ysgolion yn greadigol dros ben - mae sawl arwydd, lliw a dyluniad diddorol i'w weld ledled y sir!  Bellach mae gan lawer o ysgolion fanc papur ar y safle, a byddant yn annog y gymuned leol i'w rannu.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth a cymorth gan Reoli Gwastraff

 

dangos compost

Compostio

Bellach, mae gan y rhan fwyaf o ysgolion ym Mhowys finiau compost. Cysylltwch â'ch Swyddog Gwastraff i drefnu ymweliad neu weithdy.  Gellir cynnal gweithdy i sicrhau bod y compostio yn effeithiol ac mae modd eu trefnu ar gyfer dosbarthiadau, neu glybiau garddio neu bwyllgorau eco. Neu gall swyddog ddod i weithio ar eich bin yn ystod egwyl, a chynnal sesiwn anffurfiol lle gall myfyrwyr chwilfrydig ddod i ofyn beth sy'n digwydd.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth a chymorth gan Reoli Gwastraff

Ben Broch

Damwain Ben Broch

Datblygwyd y llyfr hwn ym Mhowys gan Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys.   Dylai fod gan bob ysgol gynradd ddau fersiwn o'r llyfr: "Llyfr Mawr" i'r ystafell ddosbarth, ynghyd â sach stori a CD, a fersiynau i'r plant fynd ag ef adref.

Mae fersiwn PDF o'r stori gyfan i'w lawrlwytho, ynghyd â blas o'r bennod gyntaf ar gael yma. 

Dolenni Defnyddiol :

Cwricwlwm

Gweithdai am ddim sy'n gysylltiedig â'r Cwricwlwm

Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ysgolion

Hanes Ar-lein

Amgueddfeydd ac Orielau

Campau'r Ddraig

PEDEC

Cynllun Cludiant Cymorthdaledig
(Tripiau ysgol)

Recriwtio Athrawon

 

Hoffwn glywed am yr hyn mae eich ysgol wedi bod yn ei gwneud. Anfonwch newyddion am eich prosiectau a byddwn yn eu cynnwys ar y tudalennau hyn!

Drwy yrru'r ffurflen hon 'rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen ac yn derbyn y datganiad preifatrwydd isod

Dangos/Cuddio Datganiad Preifatrwydd

Datganiad Preifatrwydd

Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn y cyfrifoldebau canlynol am wybodaeth bersonol a gofnodir drwy’r dudalen we hon:-

  1. Defnyddir yr wybodaeth am y rheswm a gytunwyd ac edrychir ar ei hôl yn ddiogel
  2. Cedwir yr wybodaeth am gyhyd ag sy’n angenrheidiol yn unig neu i gydymffurfio â gofynion statudol ac yna bydd yn cael ei dinistrio yn ddiogel.
  3. Os oes angen rhannu eich gwybodaeth gydag asiantaethau eraill bydd yr adran neu’r gwasanaeth dan sylw yn gofyn am ganiatâd penodol (wedi ei arwyddo) cyn gynted â phosibl oni bai ei bod yn ofynnol i ni yn ôl y ddeddf ddatgelu’r wybodaeth.

Gellir canfod gwybodaeth fanwl ar ein tudalennau gwe Rhyddid Gwybodaeth neu gan y Tîm Rheoli Gwybodaeth.

Dogfennau i Athrawon

Cliciwch ar y teitl i weld y ddogfen. Gallwch ddefnyddio'r dolenni isod i lawrlwytho modd o weld dogfennau Word neu PDF.

Camddefnyddio sylweddau - Atodiad 1 - ABCh ar draws y cwricwlwm

Camddefnyddio sylweddau - Atodiad 4 - Protocol ar gyfer Defnyddio Cwn Canfod Cyffuriau mewn Sefyddliadau Addysgol

Camddefnyddio sylweddau - Canllaw i ddatblygu polisi ysgol gyfan - Oct 09

Cynllun Addysg Gymraeg (terfynol)

Ffurflen Hunan-Werthusiad

Model o bolisi Gosod

Pecyn Cyflwyniad Prifathrawon CPA

Polisi Arddangos

Polisi Cydraddoldeb Hiliol

Polisiau a dogfennau statudol ac a argymhellir

Proffil Swydd Lefel 1

Proffil Swydd Lefel 2

Proffil Swydd Lefel 3

Proffil Swydd Lefel 4

Rheoli Perfformiad

Saesneg fel Iaith Ychwanegol (Fersiwn Byr)

Saesneg fel Iaith Ychwanegol (Fersiwn Hir)

Saesneg fel Iaith Ychwanegol (Newydd-ddyfodiaid)

Saesneg fel Iaith Ychwanegol (Symud Ymlaen)

Tsunami yn Asia

 

Holl Ddogfennau Ysgol
Logo Acrobat Reader
Llwytho Acrobat Reader
Logo MS Word Viewer
Llwytho Word Viewer
RSS