A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Pan fydd y Cyngor yn argraffu neu'n cyhoeddi deunydd er defnydd y cyhoedd, bydd yn gwneud hynny'n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, yn unol ag amodau'r Cynllun Iaith Gymraeg. Mae'r dogfennau cyhoeddus yn y Cynllun hwn ar gael yn y ddwy iaith. Lle codir tâl am gael gafael ar ddogfen, a lle mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd unrhyw wahaniaeth yn y pris rhwng y ddau fersiwn yn seiliedig ar gost eu cynhyrchu (er enghraifft, cost llungopio neu eu hanfon yn y post).Â
Os bydd cais yn dod am wybodaeth sydd ddim ar gael yn y ddwy iaith (e.e. os cafodd y ddogfen ei llunio ar gyfer staff yn unig) bydd yr ymgeisydd yn cael y ddogfen yn yr iaith wreiddiol. Gellid codi tâl, yn daladwy gan yr ymgeisydd, am unrhyw gais am gyfieithu.