A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol i weithredu Cynllun Cyhoeddiadau. Ar ei ffurf sylfaenol, canllaw ydyw i'r wybodaeth y mae'r awdurdod yn ei chyhoeddi'n rheolaidd, neu'n bwriadu ei chyhoeddi, gan ganiatau i lawer iawn o'r wybodaeth fod ar gael heb bod rhaid i unigolyn wneud cais penodol am wybodaeth.
Cyflwynwyd y gofyniad cyfreithiol hwn gan y Llywodraeth er mwyn gwneud busnes awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill sy'n dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (y Ddeddf) yn fwy agored a thryloyw. Mae'r Ddeddf yn rhoi rhagor o hawl i'r cyhoedd i gael gweld gwybodaeth sydd gan awdurdodau lleol, gan hyrwyddo natur agored a thryloyw.Â
Wrth lunio'r cynllun, rhaid i'r Cyngor ystyried buddiannau'r cyhoedd wrth gyhoeddi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl. Yn benodol, mae'r cynllun yn ceisio cynnwys y mathau o wybodaeth y bydd pobl yn gofyn amdani, trwy ddarparu dosbarthiadau sy'n cynnwys holl spectrwm gweithgareddau'r Cyngor, o'r broses gwneud penderfyniadau i berfformiad gwasanaethau a chwynion.  Â
Uned Rheoli Gwybodaeth y Cyngor sy'n gyfrifol am adolygu a diweddaru'r cynllun yn rheolaidd. Rhaid adolygu ac ailgyflwyno'r cynllun i'r Comisiynydd Gwybodaeth bob tair blynedd.
Gellir gweld y Cynllun Cyhoeddiadau am ddim ar wefan y Cyngor. Os ydych yn dymuno cael copi papur, dylech gysylltu â'r Uned Rheoli Gwybodaeth.
Mae'r Cynllun Cyhoeddiadau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Os yw unigolyn yn cael anhawster gyda'r ieithoedd hyn, neu os ydynt angen print mawr Braille, neu dâp sain, dylent gysylltu â'r Uned Rheoli Gwybodaeth.