A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae'r cynllun cyhoeddiadau yn ymrwymo Cyngor Sir Powys i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'i weithgareddau busnes arferol. Os yw'r Awdurdod yn gyfrifol am ddal y wybodaeth, mae'r wybodaeth berthnasol yn cael ei chynnwys yn y dosbarthiadau gwybodaeth a nodir isod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y dosbarthiadau gwybodaeth hyn isod, ac ar y dudalen gynnwys, lle gallwch chwilio ein cronfa ddata i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd gennym.
Mae'r cynllun yn ymrwymo Cyngor Sir Powys:
I gyhoeddi'n rhagweithiol yr holl wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth amgylcheddol, sydd gan yr awdurdod sydd o fewn un o'r dosbarthiadau isod, neu sicrhau bod y wybodaeth ar gael yn fater o drefn.
IÂ fanylu ar y wybodaeth wydd gan yr awdurdod sydd o fewn un o'r dosbarthiadau isod .
I gyhoeddi'n rhagweithiol yr holl wybodaeth yn unol â'r datganiadau sydd yn y cynllun, neu sicrhau bod y wybodaeth ar gael yn fater o drefn.
I gynhyrchu a chyhoeddi'r dulliau a ddefnyddir i ddatgelu'r wybodaeth benodol yn fater o drefn, fel bod modd i aelodau o'r cyhoedd ddod o hyd iddi a'i defnyddio'n rhwydd.
I adolygu a diweddaru yn rheolaidd yr holl wybodaeth y mae'r awdurdod yn sicrhau ei bod ar gale dan y cynllun hwn.Â
I gynhyrchu rhestr o unrhyw ffioedd a godir am fynediad i wybodaeth sydd ar gael yn rhagweithiol.
I sicrhau bod y cynllun cyhoeddi hwn ar gael i'r cyhoedd.
Pwy ydym ni a beth ydym yn ei wneud.
Gwybodaeth am y sefydliad, lleoliadau a chysylltiadau, cyfansoddiad a llywodraethu cyfreithiol.
Beth ydym yn ei wario a sut ydym yn ei wario
Gwybodaeth ariannol yn ymwneud ag incwm a gwariant rhagamcanol a gwir incwm a gwariant, tendro, caffael a chytundebau.  Â
Beth yw ein blaenoriaethau a sut ydym ni'n perfformio.
Gwybodaeth am strategaethau a pherfformiad, cynlluniau, asesiadau, archwiliadau ac adolygiadau.Â
Sut rydym yn gwneud penderfyniadau.
Cynigion a phenderfyniadau polisi. Prosesau gwneud penderfyniadau, meini prawf a threfniadau mewnol, ymgynghoriadau.Â
Ein polisiau a'n gweithdrefnau.
Protocolau ysgrifenedig cyfredol ar gyfer cyflwyno ein swyddogaethau a'n cyfrifoldebau.Â
Rhestrau a chofrestrau.
Gwybodaeth mewn cofrestrau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, a rhestrau a chofrestrau eraill yn ymwneud â swyddogaethau'r awdurdod.Â
Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig.
Cyngor a chyfarwyddyd, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i'r wasg. Disgrifiad o'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig.
Fel arfer, ni fydd y dosbarthiadau gwybodaeth yn cynnwys:
Gwybodaeth y mae'r gyfraith yn rhwystro ei datgelu, neu sydd wedi'i heithrio dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, neu sydd am reswm arall yn cael ei ystyried fel gwybodaeth a ddiogelir rhag cael ei datgelu.Â
Fersiynau drafft o'r wybodaeth.
Gwybodaeth nad yw bellach ar gael yn hawdd, gan ei bod erbyn hyn mewn ffeiliau a archifwyd, neu wybodaeth sy'n anodd ei chyrraedd am resymau tebyg.
Bydd Cyngor Sir Powys yn dangos yn eglur i'r cyhoedd pa wybodaeth sy'n rhan o'r cynllun, a sut y gellir ei chyrraedd.
Lle bo modd, rydym wedi gosod gwybodaeth ar y wefan hon. Lle nad yw'n ymarferol sicrhau bod y wybodaeth ar gael ar y wefan hon, nodir y swyddfa neu'r maes gwasanaeth sy'n gofalu am y wybodaeth, ynghyd â'u manylion cysylltu. Gellir darllen y wybodaeth a restrir yn y cynllun hwn trwy gysylltu â'r maes gwasanaeth perthnasol neu drwy ymweld ag un o'n swyddfeydd, a byddant yn gallu darparu'r wybodaeth i chi.
Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl na fydd y wybodaeth ar gael ond trwy ei gweld yn bersonol. Lle cynigir y dull yma, rhoddir y manylion cysylltu. Bydd apwyntiad i weld y wybodaeth yn cael ei drefnu o fewn amserlen resymol..
Bydd y wybodaeth yn cael ei darparu yn yr iaith y mae wedi ei chadw ynddi, neu mewn iaith arall y mae angen iddi ddefnyddio yn ôl y gyfraith. Lle bydd gofyn cyfreithlon i Gyngor Sir Powys gyfieithu unrhyw wybodaeth, bydd yn gwneud hynny.
Byddwn yn cadw at ein rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth anabledd a gwahaniaethu ac unrhyw ddeddfwriaeth arall i ddarparu gwybodaeth ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw fformat arall wrth ddarparu'r wybodaeth yn unol â'r cynllun yma.
Diben y cynllun hwn yw sicrhau bod cymaint â phosibl o wybodaeth ar gael yn rhwydd yn y modd mwyaf cyfleus ac ar gyn lleied o gost â phosibl i'r cyhoedd. Bydd Cyngor Sir Powys yn ddidwyll a bydd yn gallu cyfiawnhau y ffioedd sy'n cael eu codi am ddeunydd sy'n cael ei gyhoeddi yn fater o drefn. Bydd y wybodaeth ar gael am gost cyn ised â phosibl.
Mae'r deunydd sy'n cael ei gyhoeddi a'i weld ar y wefan yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim.
Gellir codi am wybodaeth, gan ddibynnu ar drefn ffioedd y mae'r Senedd yn ei phennu.
Gellir codi tâl am y treuliau go iawn er enghraifft:
llungopïau (gweler y ffioedd isod )
postio a phecynnu (mae'r cyfraddau postio safonol yn berthnasol)
y costau sy'n codi yn uniongyrchol yn sgil gweld yr wybodaeth
Â
Gellir codi ffi hefyd am y wybodaeth ei hun dan y cynllun yma:
os yw hynny wedi'i awdurdodi'n gyfreithlon,
os gellir eu cyfiawnhau, ymhob amgylchiadau, gan gynnwys egwyddorion cyffredinol yr hawl i gyrraedd y wybodaeth sydd gan y gwasanaethau cyhoeddus, ac os ydynt yn unol â rhestr ffioedd sydd wedi'i chyhoeddi ac ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd. Dangosir y rhestrau ffioedd yn y tudalennau cynnwys dan y pennawd "Ein Polisïau a'n Gweithdrefnau - trefn a pholisi Codi Tâl".
Os codir tâl, bydd cadarnhad o'r ffi dyledus cyn darparu'r wybodaeth. Gellir gofyn am y tâl cyn darparu'r wybodaeth. Â
A4 du a gwyn: 3c
A4 lliw: 10c
A3 du a gwyn: 6p
A3 lliw: 20c
Gellir gofyn trwy lythyr am wybodaeth gan Gyngor Sir Powys nad yw wedi'i chyhoeddi dan y cynllun yma. Bydd y cais yn cael ei ystyried yn unol â darpariaethau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Gallwch ddefnyddio'r dolenni hyni gael y wybodaeth ganlynol:
Neu, gallwch chwilio'r cynnwys yn uniongyrchol.