A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Os oes gennych bump neu fwy o weithwyr, rhaid i chi fod â pholisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig, sy’n cynnwys datganiad cyffredinol, cyfrifoldebau personél a’r sefydliad, a threfniadau ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Â
|
|
Cychwyn eich busnes eich hunan - canllaw ar baratoi datganiad polisi Iechyd a Diogelwch (INDG324) |
393 K |
Rhaid i chi asesu’r peryglon ar gyfer eich holl weithgareddau gwaith. Os oes gennych 5 neu fwy o weithwyr, bydd rhaid i chi gofnodi canlyniadau arwyddocaol eich asesiad risg. Rhaid i chi asesu’r peryglon a gweithredu dulliau i osgoi peryglon y mae’n bosibl y byddant yn effeithio ar eich gweithwyr neu unrhyw bobl eraill. Gweler hefyd y Canllaw Asesu Risg.
|
|
135 K |
Rheoli Risg i Iechyd (HSG 137)
Rhaid i chi ddarparu hyfforddiant a gwybodaeth iechyd a diogelwch digonol ar gyfer eich holl weithwyr yn ystod oriau gwaith. Rhaid i chi arddangos poster Iechyd a Diogelwch sy’n rhoi gwybodaeth berthnasol i weithwyr, neu fe allech roi copi o’r daflen 'Cyfraith Iechyd a Diogelwch: Beth ddylech wybod' i bob gweithiwr.
Poster Cyfraith Iechyd a Diogelwch
|
|
Cyfraith Iechyd a Diogelwch: Beth ddylech wybod (ISBN 07176 17025) |
32 K |
|
|
Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch - Beth sydd angen i chi wybod (INDG345) |
174 K |
Rhaid i chi ymgynghori â’ch gweithwyr, eu cynrychiolwyr a chontractwyr ar faterion iechyd a diogelwch penodol.
|
|
Ymgynghori â gweithwyr ar iechyd a diogelwch: Canllaw i'r gyfraith (INDG232) |
431 K |
|
|
140 K |
|
|
|
586 K |
Mae yna ddamweiniau ac achosion o salwch penodol y mae’n rhaid i chi eu cofnodi ac adrodd i’r awdurdodau gorfodi. Dylid adrodd am unrhyw ddamweiniau, digwyddiadau peryglus a chlefydau o’r fath i:
Canllaw ar Reoliad Adrodd am Anafiadau, Heintiau a Digwyddiadau Peryglus 1995 (L73)
|
|
Esbonio RIDDOR - Rheoliadau Adrodd am Anafiadau, Heintiau a Digwyddiadau Peryglus (HSE31) |
348 K |
|
|
Adrodd RIDDOR: Gwybodaeth am y Ganolfan Digwyddiadau newydd (MISC310) |
38 K |
Bydd asesiad risg yn y gweithle yn nodi rhai pethau y dylech chi a’ch gweithwyr eu gwneud i leihau peryglon. Efallai mai un o’r gweithrediadau hyn fydd darparu offer amddiffynnol personol sy’n addas ar gyfer perygl penodol i’ch gweithwyr; er enghraifft, amddiffynyddion clustiau, esgidiau diogel neu fenig amddiffynnol. Rhaid i chi ddarparu’r offer hyn heb gost i’r gweithiwr.
|
|
Canllaw byr i Reoliadau Offer Amddiffyn Personol 1992 (INDG174) |
101 K |
Mae yna gyfyngiadau i gyfartaledd oriau gwaith wythnosol a gweithio gyda’r nos. Yn ogystal â hyn, mae hawl gan weithwyr i gael cyfnodau seibiant, seibiannau a gwyliau blynyddol. Rhoddir diogelwch ychwanegol i weithwyr ifanc.
Cyhoeddiadau’r Adran Masnach a Diwydiant:
Â
|
|
161 K |
|
|
445 K |
Dylech lunio a gweithredu systemau gweithio diogel ysgrifenedig ar gyfer unrhyw weithdrefnau peryglus y mae’n bosibl y bydd eich gweithwyr yn eu gwneud; er enghraifft, mynediad i leoedd cyfyng neu cynnal a chadw peiriannau. Efallai y bydd systemau ysgrifenedig o’r fath hefyd yn ddefnyddiol i wneud yn siwr bod gweithgareddau cymhleth neu weithgareddau lle mae yna nifer o bobl yn gyfrifol am weithredu’r system yn cael eu gwneud yn ddiogel.
Â
|
|
157 K |
Rhaid monitro iechyd eich gweithwyr os bydd asesiad perygl yn dynodi amgylchiadau lle mae angen hynny; er enghraifft, lle defnyddir cemegion peryglus.
Gwyliadwraeth Iechyd yn y Gwaith
Mae gennych gyfrifoldeb i wneud darpariaeth arbennig ar gyfer pobl ifanc yn eu gwaith, neu bobl ifanc sy’n gwneud profiad gwaith. Dylech asesu’r peryglon a gweithredu dulliau o osgoi peryglon y mae’n bosibl y byddant yn eu wynebu.
Pobl Ifanc yn y Gwaith - Gwefan yr HSEÂ
Pobl Ifanc yn y Gwaith - Canllaw i Gyflogwyr (HSG 165)
Rheoli Iechyd a Diogelwch ar Brofiad Gwiath - Canllaw i Drefnwyr (HSG199)
Os ydych yn cyflogi merched sydd mewn oed i gael plant, rhaid i chi asesu’r peryglon yn y gweithle i ferched sy’n disgwyl, mamau newydd a mamau sy’n bwydo o’r fron a’u babanod.
Mamau Newydd a Merched Beithiog yn y Gwaith: Canllaw i Gyflogwyr (HSG 122)
|
|
Iechyd a Diogelwch Mamau Newydd a Merched Beichiog yn y Diwydiant Arlwyo, Taflen Gwybodaeth Arlwyo |
18.1 K |
Os oes gennych weithwyr, rhaid i chi gymryd Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr, a rhaid i chi arddangos y dystysgrif.
|
|
Deddf Atebolrwydd Cyflogwr (Yswiriant Gorfodol) 1969 - Canllaw i Gyflogwyr (HSE 40) |
82 K |