A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Menter Genedlaethol yw Coed Cymru sy'n cael ei chefnogi gan gyrff statudol, sefydliadau'r llywodraeth a chwmniau preifat ar draws Cymru.
Mae'n cynnig cymorth a chyngor am ddim ar reoli coetiroedd a'r defnydd cynaladwy o gynnyrch coedwigoedd. Mae'n cwmpasu'r cyfan - o dyfu coed newydd i gynnyrch pren caled Cymreig o ansawdd uchel.
"Mae Coed Cymru wedi bod yn hyrwyddo dulliau rheoli coedwigoedd call a chynaladwy ers 21 mlynedd trwy Gymru gyfan, gan ganolbwyntio ar reoli coedwigoedd cynhenid sydd wedi'u hesgeuluso, a pharhau i ddatblygu'r sector prosesu pren caled.
Rydym yn ymdrechu i gynnig dealltwriaeth go iawn o bwysigrwydd cymdeithasol, masnachol ac amgylcheddol coedwigoedd i Gymru.
Ein nod yw atgyfodi diwylliant o reoli coedwigoedd yng Nghymru a fydd yn gwella a bytholi ein coedwigoedd. Os bydd y manteision yn fwy na'r costau, byddwn wedi cyrraedd ein nod."
Mae Coed Cymru yn bartneriaeth o sefydliadau sy'n gweithio i reoli coedwigoedd dail llydan Cymru yn gynaladwy. Fe'i sefydlwyd yn 1985 a'i drosi'n gwmni cyfyngedig trwy warant ac elusen yn 1989.
Yn dilyn canrif o esgeulustod ac ysbeilio, roedd cyflwr y mwyafrif o goedwigoedd dail llydan Cymru mewn dirywiad difrifol, gydag 85% yn dangos dim tystiolaeth o goed ifanc.
Yn 1985, sefydlwyd Coed Cymru fel corff ymgyrchu, a'i rol oedd codi ymwybyddiaeth o goedwigoedd cynhenid, yn arbennig ymhlith y gymuned amaethyddol sy'n berchen ar y mwyafrif o'r coedwigoedd hyn yng Nghymru. Yn 1986, sefydlwyd rhwydwaith o gynghorwyr coediwgoedd, wedi'u lleoli yn swyddfeydd y Cyngor Sir a'r Parc Cenedlaethol.
Mae pencadlys Coed Cymru yn Nhregynon, Powys yn cynnig y cymorth cyfathrebu, technegol a gweinyddol sydd ei angen i sicrhau cydlyniad y sefydliad.
Â
Mae 123,000 hectar o goedwigoedd dail llydan yng Nghymru, gyda 34,413 hectar wedi'i ddynodi'n Goedwig Hanner Naturiol Hynafol. Dyma'n cynefin daearol mwyaf amrywiol.
 Cyflawnwyd dros 6,148 o brosiectau rheoli coedwigoedd a phlannu coed, sef ychydig dros 24,773 hectar sy'n cyfateb i 20% o gyfanswm coedwigoedd dail llydan Cymru.
Bellach mae dros 400 o fusnesau'n defnyddio pren caled Cymreig yn rheolaidd, yn cynnwys nifer sydd wedi trosi'n ddiweddar.
Â
Caiff Coed Cymru ei ariannu gan y partneriaid : Cyngor Cefn gwlad Cymru (CCW), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a'r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru (FCW), Worldwide Fund for Nature (WWF), Llywodraeth Cynulliad Cymru (WAG) ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
Cyfeiriad E-bost: coed.cymru@powys.gov.uk
Teleffon: 01597 827572
Ffacs: 01597 827557
Cyfeiriad:
Swyddog Coed Cymru
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA