A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

E.coli O157

Beth ydy E.coli O157?

Mae E.coli O157 yn ffurf o wenwyn bwyd sy’n cael ei achosi gan math ffyrnig iawn o facteria Escherichia coli, sydd fel arfer yn arwain at diarrhoea.

To top

Sut ges i’r clefyd?

  • Trafod cig amrwd, yn enwedig cig eidion
  • Bwyta cig neu dda pluog sydd heb eu coginio digon, neu unrhyw gynnyrch bwyd arall sydd wedi’i heintio
  • Bwyta neu yfed llaeth neu gynhyrchion llaeth sydd heb eu trin.
  • Nofio mewn neu yfed dwr sydd heb ei ei glorineiddio
  • Cyswllt uniongyrchol ag anifeiliaid, yn enwedig ar ffermydd neu mewn gwarchodfeydd anifeiliaid
  • Cysylltiad agos â rhywun arall sydd wedi’i heintio

To top

Pryd ges i’r clefyd?

Fel arfer, mae’r salwch yn ymddangos o fewn 3 – 8 diwrnod o gael eich heintio, ond rhwng 3 – 4 diwrnod sydd fwyaf cyffredin.

To top

Beth yw arwyddion a symptomau’r glefyd?

  • Dolur rhydd gyda charthion gwaedlyd.
  • Cur pen, cyfog a thaflu i fyny.
  • Fel arfer, mae symptomau’n parhau am tua wythnos
  • Mae’n bosibl y bydd E.coli O157 yn fwy difrifol i bobl ifanc neu oedrannus iawn neu bobl sy’n sâl yn barod. Fe all achosi cymhlethdodau eraill, er enghraifft methiant arennol.

To top

Sut alla i atal y clefyd rhag lledaenu?

  • Golchi’ch dwylo’n dda ar ôl mynd i’r toiled, ar ôl newid cewynnau babanod a chyn paratoi prydau bwyd neu fwyta
  • Dylai rhywun arall olchi dwylo plant ifanc sydd â’r haint, neu eu gwylio’n golchi eu dwylo eu hunain
  • Golchi llestri’n dda rhwng pob defnydd ohonynt
  • Ni ddylai pobl sydd wedi’u heintio fynd yn ôl i’r gwaith hyd nes y bydd y taflu i fyny a’r dolur rhydd wedi dod i ben
  • Os ydy’r un sydd wedi’i heintio yn gweithio â bwyd, yn gweithio fel gofalwr iechyd/nyrs neu’n blentyn sy’n mynychu ysgol neu feithrinfa ayb, dylech ofyn am ragor o gyngor.
  • Darllenwch y daflen sy’n cyd-fynd â hwn am gyngor pellach.

To top

Lle alla i gael rhagor o gyngor?

  • Bydd eich Meddyg Teulu neu’ch arbenigwr iechyd yn gallu rhoi cyngor i chi ar ofal iechyd i glaf unigol.
  • Dylech ddweud wrth eich gweithle, neu bennaeth ysgol plentyn, er mwyn darganfod os bydd angen i chi gael eich gwahardd, a phryd y gallwch fynd yn ôl.
  • Bydd y swyddog ymchwilio yn gallu darparu taflen mwy cyffredinol i chi ar reoli heintiau. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gallwch gysylltu â hwy ar y rhif isod.     

       Cyngor Sir Powys
       Adran Iechyd yr Amgylchedd
       Neuadd Maldwyn
       Ffordd Hafren
       Y Trallwng
       Powys
       SY21 7AS

       Rhif ffôn: 0845 6027037

To top

RSS