A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Ar y tudalennau gwe hyn byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am rôl Cyngor Sir Powys yn y dasg o ddiogelu bioamrywiaeth Powys, fel sefydliad a fel rhan o bartneriaeth, ar gyfer Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Powys.  Hefyd fe gewch atebion i nifer o gwestiynau cyffredinol am fywyd gwyllt.
Beth am ddarllen tudalen Beth yw bioamrywiaeth? i ddarganfod beth yn hollol a olygwn wrth yr ymadrodd 'bioamrywiaeth'?
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y dirwedd a bywyd gwyllt wrth ddarparu dŵr croyw, bwyd a thanwydd i ni, yn ogystal ag incwm o dwristiaeth, cyfleoedd ar gyfer hamdden ac addysg, a chefnogaeth i'n hiechyd a'n lles cyffredinol. Fel awdurdod lleol byddwn yn cyflawni gweithgareddau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar rywogaethau a chynefinoedd, er enghraifft rheoli tir cyhoeddus, cynllunio ar gyfer tai lleol a datblygiadau economaidd a chynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith ffyrdd. Felly mae ein rôl yn y dasg o ddiogelu bioamrywiaeth, sy'n cael ei hadlewyrchu yn y ddyletswydd statudol a osodir ar awdurdodau lleol gan Ddeddf yr Amgylchedd Natur a Chymunedau Gwledig 2006, yn un arwyddocaol:
‘Rhaid i bob awdurdod cyhoeddus, wrth gyflawni ei swyddogaethau, ystyried dibenion diogelu bioamrywiaeth cyn belled ag y bo hynny'n gyson â chynnal y dyletswyddau hynny'n gywir.’
‘O ran organeb byw neu'r math o gynefin, mae gwarchod bioamrywiaeth yn cynnwys adfer neu wella poblogaeth neu gynefin.’
Yn ogystal â gwella'r ffordd mae'r Cyngor Sir yn cyflawni gwaith sy'n effeithio ar rywogaethau a chynefinoedd yn barhaus, rydym wrthi hefyd yn ynwneud â phrosiectau partneriaeth. Mae'r rhain yn cynnwys y rheini a gynlluniwyd i gyflawni'r targedau a nodir o fewn Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Powys a thrwy gefnogi cymunedau fel rhan o Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Powys. Mae'r Bartneriaeth yn gweithio i wella'r amgylchedd ar gyfer pobl Powys fel yr gwelir yn y Cynllun Powys yn Un.
Â
Am ragor o wybodaeth am fioamrywiaeth a Chynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Powys, ewch i edrych ar dudalennau Partneriaeth Bioamrywiaeth Powys neu edrychwch isod am gyngor penodol ar rai materion cyffredin sy'n ymwneud â bywyd gwyllt.
Os oes gennych gwestiwn am fywyd gwyllt ar eich rhandir nad ydym yn ei ateb ar y dudalen yma nac ar dudalennau Partneriaeth Bioamrywiaeth Powys, cysylltwch â'r swyddog bioamrywiaeth.
(Sylwch y dylech gyfeirio pob ymholiad ynglÅ·n â rhandiroedd sydd ar gael a'u lleoliad i'r cyngor tref neu gymuned priodol neu'r gymdeithas rhandiroedd leol yn y lle cyntaf, ac yna i adran Gweithgareddau Awyr Agored y Cyngor Sir.)Â
Mae'r gyfraith yn gwarchod ystlumod a'u clwydfannau yn fanwl. Mae cyngor ar gael i'r cyhoedd ac i bobl broffesiynol fel ei gilydd ar gael o wefannau Natural England a'r Bat Conservation Trust, gan gynnwys cyngor i ddeiliaid tŷ ynglŷn â thrin gwaith coed adferol yn y clwydfannau, ystlumod mewn eglwysi, cyngor i ddatblygwyr a'r gofynion o ran deddfwriaeth a thrwyddedau. Mae'r Bat Conservation Trust hefyd yn cynnig cyngor trwy wasanaeth llinell gymorth y National Bat Helpline. Os ydych yn tybio y gallai fod ystlumod neu glwydfan gerllaw, a chithau'n bwriadu gwneud gwaith adeiladu, ychwanegu goleuadau, cwympo neu reoli coed neu gadw sŵn sylweddol, dylech ymgynghori'n gyntaf â Chyngor Cefn Gwlad Cymru i gael cyngor.
Os oes angen cyngor arnoch ar ystlumod mewn perthynas â chais cynllunio nawr neu yn y dyfodol, gwelwch isod.
Gwarchodir pob aderyn, ei nyth a'i wyau dan y ddeddf ym Mhrydain, a bydd ambell aderyn, fel y dylluan wen, yn destun gwarchodaeth ychwanegol gan ei bod yn anghyfreithlon aflonyddu ar yr adar pan fyddant ar y nyth neu yn ei hymyl. Gellir cael cyngor ar faterion cyffredin sy'n ymwneud ag adar sy'n nythu (er enghraifft, nythu mewn tai, rheoli coed a gwrychoedd ac ati) oddi wrth yr RSPB. Gwelwch isod os oes angen gwybodaeth arnoch am adar mewn perthynas â chais cynllunio.
Byddwn yn rheoli planhigion sy'n achosi problemau ar dir rydym ni'n berchnogion arno neu'n gyfrifol am ei reoli, e.e. ymyl y ffordd, ond ar y tirfeddianwyr unigol mae'r cyfrifoldeb dros reoli planhigion ymledol ar dir preifat, gan gynnwys ar hyd cyrsiau dŵr. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gosod mesurau rheoli ar hyd prif afonydd Powys mewn ambell sefyllfa. Mae Deddf Chwyn 1959 a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol ar unigolion i sicrhau bod rhai planhigion sy'n achosi problemau yn cael eu rheoli er mwyn diogelu da byw ac atal ymledu pellach ar dir gwyllt.
Mae modd cael gwybodaeth ar sut i adnabod a rheoli llysiau'r gingroen (Senecio jacobaea), y farchysgallen (Cirsium vulgare), ysgallen y maes (Cirsium arvense), dail tafol (Rumex obtusifolius) a thafol crych (Rumex crispus) (sy'n gynwysedig yn y Ddeddf Chwyn) ar wefannau Natural England a Defra.
I gael gwybodaeth ar sut i adnabod a rheoli canclwm Japan*, yr Efwr Enfawr*, Jac y Neidiwr a phlanhigion anfrodorol eraill, ewch i adran bywyd gwyllt gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae rhagor o gyngor manwl am ganclwm Japan ar gael i'w lawrlwytho o adran fusnes gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd. Gallai garddwyr hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol gan y Royal Horticultural Society.
Defnyddiwch ein ffurflen adrodd i sôn wrthym am chwyn sy'n achosi problemau ar ymyl y ffordd.Â
Â
Torri a phlygu - cyfrifoldeb y tirfeddianwr neu'r deiliad yw rheoli'r gwrychoedd, gan gynnwys gwrychoedd sy'n gyfagos i ffordd gyhoeddus neu hawl tramwy cyhoeddus. Defnyddiwch ein ffurflen adrodd i roi gwybod i ni am broblem gyda gwrych ar ymyl ffordd gyhoeddus.
Dileu - dan Reoliadau Gwrychoedd 1997 mae'n anghyfreithlon dileu neu ddinistrio rhai gwrychoedd heb ganiatâd y Gwasanaethau Cynllunio, a dylech gysylltu â'r adran Rheoli Datblygu ynglŷn ag unrhyw ymholiad sy'n ymwneud â Hysbysiadau Dileu Gwrychoedd. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â chadw a rheoli perthi ar gael ar y gwefannau canlynol:
Gwrychoedd Uchel - mae gan y Cyngor Sir hawl i ymyrryd os ceir anghytuno rhwng tirfeddianwyr preifat ynglyn â gwrychoedd terfyn, os yw Rheoliadau Gwrychoedd Uchel 2005 yn berthnasol. Os ydych yn dymuno chwilio am gyngor neu wneud cwyn dan y rheoliadau yma, cysylltwch ag adran Rheoli Datblygu y Gwasanaethau Cynllunio. Â
Mae gwefan Cymunedau a Llywodraeth Leol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y rheoliadau, am ddatrys anghydfod ac am wneud cwynion.
Â
Yn achos problemau gyda phlâu, cysylltwch â'r adran Rheoli Plâu i gael cyngor am reolaeth a thriniaeth. Sylwch mai dim ond gydag ambell fath o bla y gall y Cyngor Sir eich cynorthwyo.
Cysylltwch ag adran Rheoli Datblygu'r Gwasanaethau Cynllunio i drafod unrhyw broblemau ynglyn â bioamrywiaeth sy'n ymwneud â chaniatâd adeiladau rhestredig, ceisiadau neu benderfyniadau cynllunio, neu gamau gorfodi ar gyfer unrhyw amodau cynllunio.
Mae'n bosibl y cewch y canllawiau lleol a chenedlaethol hyn ar fywyd gwyllt yn ddefnyddiol.
Nodyn Cyngor Technegol 5: Cynllunio a Chadwraeth Natur
Dylid anfon pob cais am fanylion rhywogaethau a chynefinoedd a gofnodwyd mewn ardal benodol o Bowys i'r Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (BIS), sef y ganolfan cofnodion biolegol lleol (sylwch y gallai'r BIS godi tâl arnoch am ambell wasanaeth). Mae gan y Cyngor Sir Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda BIS i ddarparu'r data ecolegol angenrheidiol i ni, ac nid ydym yn cadw cofnodion ecolegol ein hunain.
Gellir cael gwybodaeth ychwanegol a chyngor am rywogaethau neu gynefinoedd sydd wedi'u gwarchod dan y ddeddf, e.e. Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Gwelwch hefyd y nodiadau uchod am ystlumod ac adar. I gael gwybodaeth am Warchodfeydd Natur Lleol a Gwarchodfeydd Natur Ymyl y Ffordd ym Mhowys, cysylltwch â'r swyddog bioamrywiaeth. Gelwir Safleoedd Lleol sy'n Bwysig ar gyfer Cadwraeth Natur (SINCs) yn Safleoedd Bywyd Gwyllt ym Mhowys, ac fe'u hasesir mewn partneriaeth â'r tair Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ym Mhowys y mae manylion penodol pob safle hysbys ganddynt.
Rheoli ymyl y ffordd - i gael gwybodaeth am chwyn ymledol ar ymyl y ffordd, gwelwch uchod neu rhowch wybod i ni am y broblem yn y fan hon. Gellir darllen mwy am rwydwaith Powys o Warchodfeydd Natur Ymyl Ffordd (RVNR) ar dudalennau Partneriaeth Bioamrywiaeth Powys. Cysylltwch â'r swyddog bioamrywiaeth os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.
Anifeiliad wedi marw ar y ffordd fawr - i roi gwybod am anifail marw ar y brif ffordd, defnyddiwch y ffurflen ar-lein yma.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau eraill am fywyd gwyllt ar ymyl y ffordd, cysylltwch â'r swyddog bioamrywiaeth.
Cyngor - Nid oes gan Gyngor Sir Powys swyddog coed dynodedig, felly ni allwn ddarparu cyngor arbenigol am iechyd coed na choed peryglus dan berchnogaeth breifat. Os ydych yn pryderu am un o'ch coed chi neu goed eich cymydog (nad y Cyngor Sir mohono) dylech ofyn am gyngor arbenigol oddi wrth feddyg coed cymwys a phrofiadol. Dewiswch un sy'n gyfarwydd â'r gofynion ar gyfer gwarchodaeth gyfreithiol ystlumod ac adar sy'n nythu .
Rheoli coed - cyfrifoldeb y tirfeddianwr neu'r deiliad yw hyn fel arfer. Os ydych yn pryderu am un o goed y Cyngor Sir neu goeden ar ochr y ffordd, gallwch roi gwybod amdani yma. I gael rhagor o wybodaeth am goed yn gyfagos i hawliau tramwy cyhoeddus, cliciwch yma.
Coed dan warchodaeth -bydd angen caniatâd oddi wrth y Gwasanaethau Cynllunio cyn gwneud unrhyw waith ar goed mewn Ardaloedd Cadwraeth trefi a phentrefi neu sy'n destun Gorchmynion Cadw Coed (TPO). Os oes angen darganfod a yw coeden benodol o fewn ardal treftadaeth adeiledig neu'n destun TPO, neu roi gwybod am ddifrod i goeden sy'n destun TPO, cysylltwch ag adran Rheoli Datblygu y Gwasanaethau Cynllunio.
Sylwch nad yw'r Cyngor Sir yn uniongyrchol gyfrifol am waith gan y canlynol sy'n effeithio ar goed a gwrychoedd:
Cyfeiriad E-bost: biodiversity@powys.gov.uk
Teleffon: 01597 827599
Cyfeiriad:
Swyddog Bioamrwyiaeth
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA
![[Translate to Cymraeg:] Picture gallery [Translate to Cymraeg:] Picture gallery](http://static.powys.gov.uk/typo3temp/pics/f7a293d0a3.jpg)




