A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae'r Gwasanaethau Cefn Gwlad yn cyflogi Cydlynydd Gwirfoddolwyr ac mae ei waith yn cael ei gefnogi gan oddeutu 60 gwirfoddolwr o amgylch Powys. Mae'r gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yng nghynnal strwythau pontydd y sir; gyda rhwng 25-30 o bontydd newydd yn cael eu hadeiladu bob blwyddyn, a llawer mwy'n cael eu hatgyweirio.
Yn ogystal ag adeiladu a chynnal pontydd, mae gwirfoddolwyr hefyd yn gysylltiedig â chlirio tyfiant, trwsio camfeydd a chlwydi a hefyd gwaith arolygu hawliau tramwy gyhoeddus.
Yn anffodus, does dim lle i grŵpiau gwirfoddol newydd dros Bowys. Fodd bynnag, os oes gennych ddiddordeb yn ymuno â grŵp sy'n bodoli, cysylltwch â'r Cysylltwr Gwirfoddol os gwelwch yn dda, e-bost countryside@powys.gov.uk
Â
Â
Ar ddechrau y rhan fwyaf o'r prosiectau, mae angen clirio tyfiant. Gall hyn fod yn fwy o waith na garddio cyffredin!
Gwirfoddolwr o'r Trallwng yn marcio trawstiau 7 medr yn barod i'w drilio. Mae'r trawstiau ar gyfer pompren fydd yn darparu cyswllt gwerthfawr i Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.
Wedi clirio'r isdyfiant o'r safle, mae gennym ymwelwyr trwy'r amser! Gwirfoddolwr yn treulio'i egwyl ar wyliadwraeth.
Mae angen help pawb i adeiladu'r bont! Mae gwaith i bawb a digon o forthwylo i bob un.
Mae Phil, y Cydlynydd Gwirfoddolwyr, ar y safle er mwyn sicrhau fod gwaith yn cael ei wneud i safon uchel a bod yr holl wirfoddolwyr yn cael diwrnod diogel, ac yn fwy pwysig, diwrnod pleserus.
Â
Â
Pont wedi'i gorffen ger Yr Ystog. Mae'r gwirfoddolwyr yn cael llawer o foddhad o adeiladu pontydd o'r dechrau a gwybod eu bod wedi helpu i wella mynediad i gefn gwlad Powys.
Cyfeiriad E-bost: countryside@powys.gov.uk
Teleffon: 01597 827500
Ffacs: 01597 827555
Cyfeiriad:
Gwasanaethau Cefn Gwlad
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA