A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn briffyrdd nad ydynt yn ffyrdd cyhoeddus at bob pwrpas.   Mae gan Bowys dros 12,000 o hawliau tramwy cyhoeddus unigol, gyda nifer ohonynt yn cael eu defnyddio'n bennaf ar gyfer hamdden - yn arbennig cerdded, seiclo, marchogaeth a gyrru cerbydau modur "oddi ar y ffordd".  Defnyddir mwyafrif y rhwydwaith yn achlysurol gan bobl leol ac ymwelwyr.
Ceir pedwar prif fath o hawliau tramwy cyhoeddus:-

I'w defnyddio ar droed yn unig, ond gellir defnyddio cadair wthio hefyd. Gallwch fynd â chi, ond rhaid ei gadw o dan 'reolaeth agos'.
Noder - Ni ddylid cymysgu llwybr troed â 'throedffyrdd' neu 'balmentydd' fel y'u gelwir, sydd fel arfer ag arwynebedd dan sêl yn rhedeg ochr yn ochr â'r ffyrdd (neu'r ffordd gerbydau). Os ydych am godi mater ynglyn â 'throedffordd', cysylltwch ag Adran Briffyrdd Cyngor Sir Powys

Yr un fath â llwybr troed, gyda hawliau ychwanegol i arwain neu farchogaeth ceffyl, a gwthio neu fynd ar gefn beic pedlo. Mae'n bosibl y bydd hawliau ar gyfer symud stoc, megis defaid a gwartheg.

Categori newydd o hawl tramwy, a elwyd cyn hyn yn Ffordd a Ddefnyddir fel Llwybr Cyhoeddus. Ceir yr un hawliau ag ar gyfer llwybrau ceffyl, gyda hawl ychwanegol i ddefnyddio cartiau a cherbydau a dynnir gan geffylau, ond nid cerbydau modur.

Yr un fath â llwybrau ceffyl, ond gyda hawliau ychwanegol i yrru cerbydau modur, a chartiau a cherbydau a dynnir gan geffylau.
Nid oes gan y Cyngor Sir gofnodion o hawliau mynediad preifat neu "hawddfreintiau". Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hawliau preifat, yna lle'n berthnasol, dylech archwilio gweithredoedd eich eiddo a cheisio cyngor cyfreithiol.
Am wybodaeth gyffredinol ar hawliau tramwy cyhoeddus, gallwch edrych ar fapiau "Explorer" yr Arolwg Ordnans. Serch hynny nid ydynt yn dangos y llinell cyfreithiol diffiniol na statws y llwybrau. Os ydych am gael gwybodaeth gywir ar union linell a statws y llwybr, yna dylech daro golwg ar y Map Diffiniol.
Cyfeiriad E-bost: rightsofway@powys.gov.uk
Teleffon: 01597 827500
Cyfeiriad:
Mynediad i Gefn Gwlad
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA