A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Fis Mai 2005, rhoddwyd yr hawl i'r cyhoedd gael mynediad i gefn gwlad, ar dir a ddynodwyd yn "Dir Mynediad" gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae hyn yn cynnwys 'cefn gwlad agored', sef 'mynydd, gwaun a rhos', a phob darn o Dir Comin sydd wedi'i gofrestru. Mae'r mynediad newydd yn caniatáu i bobl fwynhau gweithgareddau hamdden y gellir ei wneud trwy gerdded, gan gynnwys rhedeg, gwylio adar a chael picnic; fodd bynnag, ni roddwyd unrhyw hawliau mynediad ychwanegol i farchogwyr, seiclwyr na defnyddwyr cerbydau modur.
Yn ogystal â Thir Comin a thir sydd wedi'i ddynodi yn 'gefn gwlad agored', mae'r Comisiwn Coedwigaeth wedi neilltuo'r rhan fwyaf o'r tir y mae'n ei reoli yn Dir Mynediad. Oherwydd ei natur uwchdirol yn bennaf, mae gan Bowys gyfran uwch na'r cyfartaledd o Dir Mynediad. Mae 150,000 hectar wedi'i gategoreiddio felly, sef 29% o dirfas Powys.
Prynu map yr Arolwg Ordnans yw'r ffordd orau i ddod o hyd i Dir Mynedad. Ar y mapiau hyn, dangosir y Tir Mynediad yn felyn. Neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Y Gwasanaethau Cefn Gwlad sy'n rheoli Tir Mynediad ym Mhowys. Fodd bynnag, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy'n rheoli'n uniongyrchol unrhyw dir o fewn y Parc.
Wedi dynodi'r Tir Mynediad, sefydlodd Cyngor Sir Powys Dîm Wardeniaid Cefn Gwlad, yn cynnwys Prif Warden a thri Warden ardal, un ar gyfer pob rhanbarth.
Bydd y Wardeniaid Cefn Gwlad yn cynnig cyngor i dirddeiliaid a'r cyhoedd ynghylch eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Maent hefyd yn gyfrifol am raglenni gwaith i sicrhau mynediad i'r darnau o Dir Mynediad ac am godi cyfeirbwyntiau i ddangos lle gallwch chi fwynhau hawl mynediad.


Er mwyn cysylltu â'r Tîm Wardeniaid Cefn Gwlad anfonwch e-bost at rightsofway@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827500 i gael rhagor o wybodaeth.
Cyfeiriad E-bost: rightsofway@powys.gov.uk
Teleffon: 01597 827500
Cyfeiriad:
Mynediad i Gefn Gwlad
Y Gwalia
Ffordd Ieithon
Llandrindod
Powys
LD1 6AA