A |  B |  C |  D |  E |  F |  Ff |  G |  H |  I |  L |  Ll |  M |  N |  O |  P |  R |  Rh |  S |  T |  W |  Y

HACCP

Canllawiau

Lawrlwytho canllawiau llawn HACCP

725 K

To top

Eich cyfrifoldebau

Mae Rheoliadau UE(Rhif 852/2004, yn gofyn i chi ddynodi peryglon bwyd posibl, penderfynu pa rai o’r peryglon hyn sydd angen eu rheoli i sicrhau diogelwch bwyd, a rhoi gweithdrefnau rheoli a monitro effeithiol yn eu lle i rwystro’r peryglon rhag achosi niwed i ddefnyddwyr.  Ysgrifennwch i lawr yr hyn yr ydych wedi bod yn ei fonitro.  Adolygwch y system HACCP o bryd i'w gilydd.

Perchennog y busnes sy’n gyfrifol am ddatblygu system HACCP. Dylai staff eraill y busnes gymryd rhan hefyd, oherwydd fe fydd yr holl staff yn cyfrannu at wneud yn siwr fod y bwyd yn ddiogel.

To top

HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol)

Mae nifer o fusnesau bwyd mawr a bach wedi defnyddio system Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP) i wneud yn siwr fod bwyd yn ddiogel. Gellir dilyn y system mewn nifer o gamau rhesymegol:

 PENDERFYNU PWY FYDD YN DATBLYGU SYSTEM HACCP

 

 LLUNIO SIART LLIF O BETH RYDYCH YN EI WNEUD

 

 ADNABOD PRYD Y GALL PERYGLON DIOGELWCH BWYD DDIGWYDD

 

 PENDERFYNU PA GAMAU SY’N BWYNTIAU CRITIGOL, A PHA RAI SY’N ARFER DA

 

 GOSOD SAFONAU (TERFYNAU CRITIGOL) AR GYFER Y RHEOLIADAU

 

 PENDERFYNU PWY FYDD YN DATBLYGU SYSTEM HACCP

 

 ADNABOD DULLIAU MONITRO (GWIRIADAU) AR GYFER PWYNTIAU CRITIGOL

 

 ADNABOD GWEITHREDIADAU CYWIROL PAN FYDD MONITRO’N DANGOS NAD YW’R RHEOLIADAU’N GWEITHIO

 

 GWEITHREDU SYSTEM HACCP A GWNEUD YN SIWR EI BOD YN GWEITHIO’N EFFEITHIOL

 

 ADOLYGU SYSTEM HACCP

 

 CADW DOGFENNAU A CHOFNODION

 

Bydd edrych ar y ffordd yr ydych yn gweithio a’r arferion sydd gennych yn eu lle yn eich helpu i ddynodi beth all fynd o’i le, a beth allai achosi niwed i’ch cwsmer. Trwy wybod beth allai fynd o’i le, gallwch roi mesurau effeithiol yn eu lle i osgoi’r problemau hyn. Mae gwneud yn siwr bod yr hyn y dylid ei wneud yn cael ei wneud yn ymarferol, a chadw cofnodion o hyn yn arfer da, a bydd yn cefnogi amddiffyniad o ddiwydrwydd dyledus os bydd angen un arnoch.

To top

Cyswllt Gwasanaeth

Mae manylion cyswllt ar gyfer nifer o safleoedd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth hwn. Dewiswch eich tref agosaf:

RSS