A | B | C | D | E | F | Ff | G | H | I | L | Ll | M | N | O | P | R | Rh | S | T | W | Y
Mae'r Adrannau Rheoli Datblygu wedi'u lleoli yn y lleoliadau canlynol:
Mae Cyngor Sir Powys wedi ymuno â'r Porth Cynllunio Cenedlaethol sydd yn rhan o'r weledigaeth gyffredin gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwella'r broses gynllunio. Mae'r Porth Cynllunio yn cynnig cyfarwyddyd a gwybodaeth am wneud ceisiadau cynllunio, yn ogystal ag adnoddau ar gyfer ymchwil ac astudio.
Â
Cyfle i ganfod pa Swyddog Cynllunio fydd yn delio â'ch cais.
|
|
572 K |
Mae Gwasanaethau Cynllunio yn cynnwys tîm gorfodi Powys gyfan sy'n gweithio yn y lleoliadau rheoli datblygu yn Llandrindod a'r Trallwng.
Mewn achosion lle mae datblygu wedi digwydd heb ganiatâd, mae gan y Cyngor ystod eang o bwerau i gymryd camau gorfodi.
Nid yw hyn yn golygu y byddwn yn cymryd camau o'r fath bob tro - nid yw datblygu heb ganiatâd yn drosedd ynddoi'hun. Polisi'r Llywodraeth yw y dylid cymryd camau ffurfiol pan fetho popeth arall er mwyn rheoli datblygiad annerbyniol. Ni ddylid ei ddefnyddio dim ond er mwyn tynnu ceisiadau cynllunio yn ôl ar gyfer cynigion sydd fel arall yn dderbyniol.  Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu polisi gorfodi (gweler y ddolen uchod) sy'n nodi sut y mae Gwasanaethau Cynllunio yn delio â materion gorfodi.
Mae'r Cyngor yn ymwybodol mai pwer dewisol yw'r camau gorfodi sydd i'w cymryd dim ond pan mae'n briodol i wneud hynny.
Mae'r staff Gorfodi hefyd yn gyfrifol am weithredu'r drefn ar "Gloddiau Uchel".
Â
Rydym hefyd wedi ymuno â'r Porth Cynllunio Cenedlaethol sydd yn rhan o'r weledigaeth gyffredin gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwella'r broses gynllunio. Mae'r Porth Cynllunio yn cynnig cyfarwyddyd a gwybodaeth am wneud ceisiadau cynllunio, yn ogystal ag adnoddau ar gyfer ymchwil ac astudio.
Arweiniad i'r Broses Gynllunio - yn cynnig cyflwyniad byr i'r system gynllunio ac esboniad o nod cynllunio a pham ei fod yn bwysig. Fe'i fwriedir ar gyfer deiliaid cartrefi a phobl busnes ac mae'n esbonio pam fod rheolau cynllunio yn angenrheidiol a sut y caiff penderfyniadau eu gwneud.
Ffurflenni Cais -  Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i gyflwyno cais cynllunio ar-lein.
Apêl - Mae gennych hawl i apelio os ydych am gael caniatâd i wneud gwaith i'ch eiddo a bod y Cyngor heb ddod i benderfyniad ar eich cais o fewn cyfnod penodol, neu eich bod yn anghytuno â phenderfyniad eich cyngor lleol.
Cynlluniau - Nod yr Adran Astudio yw helpu pobl i ddysgu am Gynlluniau Datblygu a Mapiau.
Ymchwil - Pwrpas yr Adran Ymchwil yw helpu cynllunwyr, penseiri, cyfreithwyr, academyddion proffesiynol ac eraill sydd â diddordeb ym maes cynllunio gwlad a thref.
|
|
427 K |
Dull o wneud yn siwr bod unigolion a thimau yn meddwl yn ofalus am effaith debygol polisiau neu weithdrefnau, strategaethau, swyddogaethau a gwasanaethau yw Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb. Bydd hefyd yn dynodi unrhyw anghenion sydd heb eu diwallu, ac yn darparu sail i wella gwasanaethau lle mae hynny'n briodol.
Mae'n asesu a chofnodi mewn modd systematig yr effaith gwirioneddol, yr effaith bosibl neu'r effaith debygol y gallai gwasanaeth polisi neu brosiect ei gael ar wahanol grwpiau o bobl. Bydd effaith polisiau a phrosiectau ar grwpiau penodol yn cael ei ddadansoddi a'i ddarogan fel y gellir diddymu neu gadw unrhyw ganlyniadau negatif i’r lefel lleiaf posibl, cyn belled ag sy'n bosibl, a gwneud y mwyaf o gyfleoedd cydraddoldeb.
Diben Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb yw gwella gwaith yr Awdurdod trwy wneud yn siwr nad yw'n gwahaniaethu yn y dull mae'n darparu gwasanaethau a chyflogaeth a lle'n bosibl, ei fod yn gwneud popeth mae'n gallu i hybu cydraddoldeb a pherthnasau da rhwng gwahanol grwpiau.
Cliciwch ar y ddolen isod i weld / lawrlwytho'r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb y mae tîm Rheoli Datblygu'r Gwasanaethau Cynllunio wedi'i gyflawni.
|
|
216 K |
Edrychwch ar fanylion Ceisiadau Cynllunio a gyflwynir i Gyngor Sir Powys
Teleffon: 01874 612274
Cyfeiriad:
Cyfarwyddiaeth Adfywio Cymunedol ac Economaidd
Neuadd Brycheiniog
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
Powys
LD3 7HR
Teleffon: 01938 551232
Cyfeiriad:
Cyfarwyddiaeth Adfywio Cymunedol ac Economaidd
Neuadd Maldwyn
Ffordd Hafren
Y Trallwng
Powys
SY21 7AS
Edrychwch ar y manylion cyswllt swyddogol ar gyfer y gwasanaeth hwn